I ystyried
cais gan Mr B
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Gwahoddwyd cynrychiolydd / cyflogwr yr ymgeisydd
i ymhelaethu ar y cais a chynnig eglurhad am y troseddau gyrru. Amlygodd bod Llys Ynadon
Caernarfon wedi caniatáu i’r ymgeisydd gadw ei drwydded oherwydd
ei amgylchiadau personol. Eglurodd y byddai nifer o’r pwyntiau
ar y drwydded wedi ei diddymu
erbyn diwedd mis Chwefror fyddai, o ganlyniad yn gadael cyfanswm o 5 pwynt.
Amlygodd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad
oedd wedi derbyn cwynion
am Mr A ac ategodd ei fod
yn gymeriad hoffus, cwrtais a dibynnol.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra
bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr
ymgeisydd
·
sylwadau llafar,
a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd
yn ystod y gwrandawiad
·
llythyr geirda
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd
a ddarparwyd gan Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am
oryrru ar ddau achlysur ym
mis Ionawr 2016 (daeth y pwyntiau hyn i ben yn Ionawr 2019). Yn mis Chwefror 2016 derbyniodd 3 pwynt am oryrru (dod
i ben Chwefror 2019) a pum pwynt pellach ym
mis Gorffennaf 2016 (dod i
ben Gorffennaf 2019). Nid oedd
collfarnau, rhybuddion nac arnodiadau eraill gan yr ymgeisydd.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Ystyriwyd
paragraff 12.2 sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y
Polisi. Amlygwyd nad yw SP30 (goryrru) yn cael ei gynnwys yn y rhestr ac
ymhellach ym mharagraff 13.1 nodir bod troseddau traffig sydd heb eu rhestru yn
y Polisi yn cael eu trin fel ‘mân droseddau traffig’. Ym mharagraff 13.3 nodir
y gall mwy nag un ‘mân drosedd traffig’ (gan gynnwys goryrru) arwain at wrthod
cais ac os oes mwy na dwy drosedd a/neu gyfanswm 6 pwynt ar y drwydded, caiff gyrrwr
trwyddedig ei gyfeirio at Is-bwyllgor.
Daeth yr
Is-bwyllgor i’r casgliad bod y 4 digwyddiad o oryrru yn 2016 yn amlygu bod
paragraff 13.3 yn berthnasol i’r drafodaeth. Er hynny, nid yw’r paragraff yn
nodi y dylid gwrthod y cais ac mai opsiwn posib yw hynny. Penderfynwyd mai
trothwy yw ‘dau drosedd a/neu 6 pwynt ar y drwydded’ ar gyfer cyfeirio ac nid
trothwy i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.
Cytunodd yr
Is-bwyllgor bod y cais wedi cyrraedd trothwy cyfeirio oherwydd bod yr ymgeisydd
wedi cael ei ddal yn goryrru pedair gwaith yn 2016 gydag 8 pwynt yn fyw ar ei
drwydded. Serch hynny, nodwyd y byddai 3 pwynt arall yn cael eu diddymu cyn
diwedd mis Chwefror fyddai yn gadael cyfanswm o 5 phwynt ar y drwydded.
Ystyriwyd hefyd mai pwyntiau yn unig a dderbyniodd yr ymgeisydd ac nid
collfarnau troseddol am oryrru.
Wedi pwyso a mesur
y wybodaeth a gyflwynwyd, nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y troseddau
goryrru mor ddifrifol fel bod angen gwrthod y cais.