Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 lloft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porth-dy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter A Garlick
Cofnod:
Dymchwel
tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 llofft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa
bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porthdy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig
Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle
(a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau y cafodd ei ohirio
ym Mhwyllgor mis Ionawr er mwyn caniatáu hawl i drydydd parti siarad yn y
Pwyllgor.
Wrth
ystyried egwyddor y datblygiad, tynnwyd sylw at yr Hanes Cynllunio ac yn
benodol i wrthodiad i gais C10A/0556/19/LL oherwydd ei debygrwydd i’r cais
gerbron. Apeliwyd yn erbyn y gwrthodiad ac fe ganiatawyd ar apêl ym mis Ionawr
2012. Amlygwyd mai'r unig wahaniaeth rhwng y ddau gais oedd presenoldeb pwll
nofio yn yr un a ganiatawyd ar apêl yn 2012. Nodwyd bod yr Arolygwr Cynllunio
wedi caniatáu costau yn erbyn yr ACLl oherwydd iddynt
ymddwyn yn afresymol wrth ddod i benderfyniad i wrthod y cais gan fod y
polisïau cyfredol yn cefnogi’r fath datblygiad.
Amlygwyd
bod y polisïau a restrwyd yn yr adroddiad ar y cyfan yn gyson gydag amcanion a
gofynion polisïau’r Cynllun Datblygu Unedol oedd mewn grym pan benderfynwyd yr
apêl. Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, ategwyd bod y polisïau perthnasol
yn adlewyrchu ei gilydd, ac nad oedd dim newid sylfaenol yn y math o bolisïau a
ddefnyddiwyd 2012. Wrth ystyried penderfyniad yr apêl, ystyriwyd bod y cais yn
cydymffurfio gyda pholisïau a chyngor cynllunio cyfredol oedd yn parhau i fod
yn gefnogol i’r egwyddor o leoli llety gwyliau newydd o ansawdd uchel yng
nghefn gwlad gan ddefnyddio safle addas a ddatblygwyd o’r blaen sydd yn hygyrch
i fathau gwahanol o gymudo. Nodwyd nad oedd gan yr Arolygwr Cynllunio, yn ei
benderfyniad i’r apêl, wrthwynebiad i’r edrychiad, gosodiad na graddfa’r bwriad
a bod y cynllun wedi cael sêl bendith Comisiwn Dylunio Cymru.
Mewn
ymateb i’r ymgynghoriad statudol nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw
wrthwynebiad i’r datblygiad ar sail diogelwch ffyrdd a chyfleusterau parcio yn
ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol. Nodwyd hefyd nad oedd materion yn
ymwneud a thrafnidiaeth yn achosi pryder i’r Arolygwr Cynllunio ac felly nid
oedd newid yma.
Yng
nghyd-destun llifogydd cyflwynwyd cais Adroddiad Mynediad (ar sail perygl
llifogydd) gan fod rhannau o’r ffordd sirol gyfochrog sydd yn gwasanaethu’r
safle wedi ei leoli o fewn Parth Llifogydd C2. Mewn ymateb i’r adroddiad,
mynegwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cadarnhau, o fewn cyd-destun y
cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen NCT15: Datblygiad a Risg Llifogydd, bod yr
ymgeisydd wedi bodloni eu pryderon ynglŷn â pherygl llifogydd. Ychwanegwyd
bod CNC yn fodlon bod y gwesty a’r llecynnau parcio yn uwch na’r amlinelliad
llifogydd eithriadol ac felly bod y bwriad yn dderbyniol ar sail perygl
llifogydd.
Cyfeiriwyd
at bolisi TWR2 sydd yn nodi y gall gwestai o ansawdd uchel ddod a buddion
economaidd sylweddol i ardal y cynllun. Nodwyd bod y polisi yn anelu i
gefnogi’r egwyddor o ddarparu llety gwyliau o ansawdd uchel mewn lleoliadau
cynaliadwy. Ymhelaethwyd bod dogfen Cynllunio Cymru yn datgan dylai awdurdodau
cynllunio fabwysiadu ymagweddau cadarnhaol at gynigion sydd yn defnyddio tir a
ddatblygwyd o’r blaen ac y byddai llety o’r fath yn ychwanegu at yr amrywiaeth
o westai sydd yn bodoli yng Nghaernarfon.
Cyfeiriwyd
at yr ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.
Atgoffwyd
yr aelodau bod hanes cynllunio y cais yn
allweddol i’r penderfyniad ar sail bod y bwriad diweddaraf yn adlewyrchu’r manylion
a gyflwynwyd gyda’r cais gwreiddiol yn 2012.
Nodwyd
bod yr Arolygwr wedi penderfynu bod yr egwyddor o leoli’r datblygiad ar y
llecyn tir yn dderbyniol ac ymhellach wedi caniatáu cais i ddyfarnu costau yn
erbyn yr Awdurdod Lleol yn unol â gofynion polisïau cynllunio lleol a
chenedlaethol.
Er bod y polisïau hyn yn weithredol o
dan y cyn-gynllun datblygu nodwyd bod egwyddor ac amcanion y polisïau blaenorol
wedi eu hymgorffori o fewn polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol a chyngor cenedlaethol
Llywodraeth Cymru. Pwysleisiwyd y
byddai rhaid rhoi pwysau sylweddol i
benderfyniad yr Arolygydd i ganiatáu’r apêl, ac er bod newid wedi bod yn y
Cynllun Datblygu ers caniatáu’r apêl mae natur y polisïau ar gyfer ceisiadau
fel hyn yn parhau i fod yn debyg iawn ac anodd fyddai dod i gasgliad gwahanol.
Ystyriwyd bod y datblygiad yma yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol cyfredol perthnasol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd gwrthwynebydd y prif
bwyntiau canlynol:-
·
Bod
y datblygiad wedi ei leoli yn ardal wledig pentref Llanfaglan ac nid Tref
Caernarfon
·
Rhan
helaeth o’r ffordd yn disgyn o fewn Parth Llifogydd C2 fel y dynodir yn NCT15 –
yr Arolygwr heb ymchwilio i bryderon llifogydd yn ddigonol
·
Buasai
caniatáu yn creu effaith dramatig ar fywydau bobl - gofynion ychwanegol ar y
gwasanaethu brys
·
Yr
ymgeisydd heb fanteisio ar ddechrau ar y gwaith. Blynyddoedd wedi mynd heibio,
deddfau wedi newid ym maes newid i’r hinsawdd - effaith mor, lleihau nwyon
tŷ gwydr, rheoli niwed i’r arfordir, lleihau a lliniaru effeithiau newid
hinsawdd ac addasu, trafnidiaeth gynaliadwy ayyb
·
Rhan
helaeth o’r lôn wedi erydu a dim gwaith trwsio wedi ei wneud. Mewn cyfnodau o
lanw uchel ni all trigolion adael eu tai - hyn yn creu problemau dwys
·
Arolygwr
heb ystyried sut fydd gweithwyr yn teithio i’w gwaith. Dim gwasanaeth bws ac
felly yn ddibynnol ar gar
·
Cyfeirio
at dŷ Glan Menai fel tŷ ar dir llwyd. Nid yw hynny’n wir. Tŷ
domestig sydd yma ac nid gwesty. Hyn yn agor y drws i unrhyw un o Gymru addasu
ei dŷ yn westy.
(c
) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Nifer
o ystyriaethau wedi newid ers cyfnod yr apêl.
·
Bod
difrod sylweddol i’r wal a hyn i’w weld yn gwaethygu - angen ymchwiliad i hyn.
·
Er
nad yw Llwybr yr Arfordir yn mynd drwy’r datblygiad ,y llwybr mewn cyflwr gwael
ac wedi ei ddifrodi. O ganlyniad cerddwyr yn gorfod cerdded ar y ffordd sy’n
creu sefyllfa beryglus
·
Dim
trafnidiaeth gyhoeddus. Pont yr Aber ar agor ar gyfnodau yn unig. Tybiwyd y
byddai defnyddwyr y gwesty yn cerdded ar hyd y ffordd sydd ddim yn sefyllfa
ddelfrydol ac er y nodwyd 1 milltir o daith i’r dref, gall olygu taith o
oddeutu 3 milltir os yw Pont yr
Aber wedi cau, sydd ar adegau niferus.
Hyn yn creu problem.
·
Datblygiad
mewn plwyf gwledig sydd yma. Y datblygiad yn un sylweddol fyddai’n achosi
pryderon i drigolion lleol
·
Hollol
eglur bod y safle wedi ei nodi mewn parth llifogydd. Digwyddiadau cyson gyda llifogydd
yn yr ardal
·
Awgrymu
gwrthod y cais
(ch) Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais ar sail
TAN 15, bod angen ‘access and
egress at all times’.
Awgrymwyd bod y ffordd yn cael ei effeithio gan lifogydd ac felly anodd sicrhau
mynediad i drigolion a’r gwasanaethau brys. Cais tebyg wedi ei wrthod i deulu lleol yn Y Felinheli am amgylchiadau
tebyg.
(d) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â dirywiad sylweddol yng nghyflwr y ffordd a phwy
sydd yn gyfrifol am ei chynnal a’i chadw, amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu
Trafnidiaeth mai cyfrifoldeb Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd yw’r ffordd, ond o
ran dirywiad wal y môr, nid oes sicrwydd oni bai bod y ffordd yn dal y wal i
fyny neu beidio.
Mewn
ymateb i gwestiwn am y gwahaniaethau rhwng y ddau gais, ac os y penderfyniad
fyddai gwrthod cais, sydd yn flaenorol
wedi ei ennill ar yr apêl gyda chostau, nododd y Rheolwr Cynllunio mai’r
unig wahaniaeth oedd bod pwll nofio wedi ei gynnwys yn y cais gwreiddiol.
Mewn
ymateb nododd aelod bod Cynllun Datblygu Lleol wedi ei fabwysiadu yn y cyfamser
sydd hefyd yn ‘wahaniaeth’
Mewn
ymateb i gwestiwn os oedd y rhan benodol yma o’r arfordir wedi ei gynnwys yng
Nghynllun Rheolaeth yr Arfordir, nodwyd nad oedd gwybodaeth.
Ategodd yr Uwch Reolwr Cynllunio'r
angen i fod yn ofalus wrth ystyried y penderfyniad gan y caniatawyd y cais blaenorol ar apêl.
Pwysleisiwyd bod angen ystyried cyd-destun y cais gerbron ar hyn sydd yn wahanol yng nghyd-destun polisïau.
Derbyniwyd bod Cynllun Datblygu
Lleol newydd wedi ei fabwysiadu o fewn y cyfnod ond nad oedd newidiadau yng nghyd-destun
y polisïau dan sylw. O ran pryderon
llifogydd, nid oedd gwrthwynebiad gan CNC
oherwydd bod yr elfen llifogi yn un llanw fyddai yn
effeithio ar rannau o’r lon ar adegau fyddai modd ei reoli. Amlygwyd hefyd bod dwy
ffordd i mewn ac allan o’r safle. Er hynny, ategodd
mai doeth fyddai cael dehongliad cadarn gan CNC o’r TAN 15, ac i’r Pwyllgor ystyried gohirio'r penderfyniad er mwyn sicrhau eglurder.
(dd) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Dim
newid i’r cynllun arwahan i’r pwll nofio, ond bod
cyflwr y ffordd wedi dirywio
·
Polisïau
heb newid, y cynllun run fath, felly peryg fyddai
gwrthod a’r Cyngor eisoes wedi derbyn costau ar apêl
·
Cais am wybodaeth a sylwadau CNC am y Cynllun
Rheoli Arfordir
·
Llifogydd yn achosi pryder
·
Rhagor
o wybodaeth ei angen am bwy sydd â chyfrifoldeb dros y wal
·
Gwybodaeth
am niwed hinsawdd wedi newid ers 2012 - beth yw goblygiadau’r cynllun o ran
effeithiau ôl troed carbon
(e) Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ohirio'r
penderfyniad
PENDERFYNWYD gohirio'r penderfyniad
er mwyn derbyn mwy o wybodaeth
gan Cyfoeth Naturiol Cymru i bryderon llifogydd
Dogfennau ategol: