Codi 7 byngalo ar wahan (gan gynnwys uned fforddiadwy), 2 byngalo par, mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig (cynllun diwygiedig i'r hyn a thynnwyd yn ôl o dan cais rhif C18/0132/23/LL
AELOD LLEOL Cynghorydd
Charles Wyn Jones
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Codi
7 byngalo (gan gynnwys uned fforddiadwy), 2 dŷ deulawr, mynedfa newydd a gwaith
cysylltiedig (cynllun diwygiedig i'r hyn a thynnwyd yn ôl o dan gais rhif C18/0132/23/LL
Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais,
gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 7 tŷ unllawr
i gynnwys un tŷ fforddiadwy a thŷ dwylawr
marchnad agored ynghyd a chreu mynediad newydd, ffordd stad, llecynnau parcio,
rhodfeydd a seilwaith cysylltiedig. Nodwyd y byddai’r safle yn cael ei
wasanaethu oddi ar ffordd sirol dosbarth 1 sydd yn cynnwys culfan bws gerllaw.
Amlygwyd bod Datganiad
Dylunio a Mynediad wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd fel rhan o’r cais. Tynnwyd
sylw at yr ymatebion a nodwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan y cyhoedd.
Nodwyd hefyd bod gwybodaeth pris y tŷ fforddiadwy wedi ei dderbyn ers
ysgrifennu’r adroddiad. Ategwyd bod cadarnhad wedi ei dderbyn bod carthffos
gyhoeddus yn rhedeg o dan lecyn tir gwag oedd ar y safle ac na fydd modd
adeiladu drosto. Y bwriad yw, cynnig y tir i’r feddygfa gyfagos neu i’r Cyngor
Cymuned ar ddiwedd y gwaith datblygu,
Lleolir y safle o fewn
ffin datblygu canolfan wasanaeth lleol Llanrug yn ogystal â’i fod wedi ei
ddynodi yn bwrpasol ar gyfer datblygiad tai. Er bod y safle yn gallu ymgymryd â
10 tŷ eglurwyd oherwydd amgylchiadau eithriadol yn ymwneud a diogelu'r garthffos
gyhoeddus sy’n croesi’r safle mai 9 tŷ sydd yn briodol.
Penderfynwyd gohirio’r
cais blaenorol er mwyn derbyn tystiolaeth bellach am yr angen o’r math o dai
yng nghymuned Llanrug. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno datganiad
cymysgedd tai oedd yn ymateb i’r angen lleol
ac y byddai codi tai un llawr ar y safle yn rhyddhau tai deulawr 3/4/5
llofft yn y pentref ar gyfer teuluoedd a’r dymuniad i fyw’n lleol.
Adroddwyd bod y bwriad yn
golygu creu mynedfa safonol oddi ar y ffordd sirol dosbarth 1 cyfagos ynghyd ag
ymestyn llwybr troed presennol i mewn i’r safle. Eglurwyd bod y cynllun
diweddaraf yn ganlyniad o drafodaethau rhwng yr ymgeisydd, yr Aelod Lleol a’r
Uned Drafnidiaeth ac o ganlyniad wedi sicrhau diogelwch ffyrdd ar sail
gwelededd a’r nifer o dai byddai’r fynedfa yn ei wasanaethu.
Eglurwyd bod data Lleoliad
Ysgolion Cynradd Gwynedd yn cadarnhau bod digon o gapasiti
o fewn Ysgol Gynradd Llanrug i allu ymdopi gyda’r niferoedd o blant a all
ddeillio o’r datblygiad hwn ac i’r perwyl hynny ni fyddai angen cyfraniad
addysgol gan yr ymgeisydd.
Ystyriwyd bod y bwriad
cyfredol yn dderbyniol a’i fod yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau
canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
· Bod nifer o
drafodaethau wedi eu cynnal yn lleol
· Bod y cais gerbron yn
ymateb i ofynion y gymuned leol
· Derbyn bod yr ymgeisydd
yn fodlon cynnal trafodaethau am y llecyn gwag ar ôl i’r gwasanaethau
gael eu gosod
· Croesawu bod yr
ymgeisydd wedi ystyried cymysgedd tai addas yn ôl yr angen sydd yn
y pentref
· Bod y cynllun bellach
yn ymateb i bryderon parcio
· Er bod cais wedi ei
wneud am lwybr cyswllt, nid oedd yr ymgeisydd yn fodlon newid y
cynllun ymhellach gan nad oedd rhaid iddo osod llwybr.
· Wedi ystyried yr
addasiadau, bodlon caniatáu y cais
(c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn
unol â’r argymhelliad
PENDERFYNWYD
dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan Adran 106 er mwyn sicrhau bod 1 o’r 9 tŷ yn dŷ fforddiadwy ac
i’r amodau isod:
1.
5 mlynedd.
2.
Yn unol â’r
cynlluniau.
3.
Llechi naturiol.
4.
Deunyddiau
allanol.
5.
Amodau’r Uned
Drafnidiaeth.
6.
Amod Dŵr
Cymru parthed gwaredu dŵr aflan o’r safle.
7.
Tynnu hawliau a
ganiateir oddi ar yr uned fforddiadwy.
8.
Tirlunio.
9.
Cwblhau’r cynllun
draenio cyn meddiannu unrhyw annedd breswyl.
Dogfennau ategol: