Agenda item

Datblygiad preswyl ar gyfer 9 tŷ fforddiadwy a mynedfeydd newydd

 

AELOD LLEOL Cynghorydd Elfed Wyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Datblygiad preswyl ar gyfer 9 tŷ fforddiadwy a mynedfeydd newydd

 

          Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 9 tŷ fforddiadwy ar safle tir glas llethrog sydd yn ymylu â ffin datblygu pentref Deiniolen

         Byddai’r datblygiad yn cynnwys chwe uned dwy lofft, dwy uned tair llofft ynghyd â byngalo 5 llofft wedi ei lunio i gwrdd ag anghenion penodol teulu lleol.

 

         Nodwyd y bwriad o ddarparu 9 tŷ fforddiadwy ar y safle (100%) ac amlygwyd bod Uned Strategol Tai’r Cyngor wedi cadarnhau bod y nifer hwn o dai ynghyd a natur y tai yn cyfarch anghenion yr ardal. Ategwyd mai Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fyddai’r darparu’r tai ac ymddengys bod y gofrestr anghenion tai cyfredol (Hydref 2018) yn dangos angen yn y gymuned am unedau 2 a 3 stafell wely gyda 33 ymgeisydd ar y rhestr aros am y math hwn o unedau.

 

         Cyfeiriwyd at bolisi TAI 16 (Safleoedd Eithrio) sydd yn nodi bod yn rhaid i ddatblygiadau sydd union gerllaw ffiniau datblygu fod yn 100% o dai fforddiadwy. Nodir hefyd yn y polisi bod rhaid dangos na ellir cyflenwi tai fforddiadwy mewn cyfnod rhesymol o amser ar safle marchnad agored o fewn y ffin datblygu lle mae angen am dai fforddiadwy. Amlygwyd na chafodd unedau tai fforddiadwy eu hadeiladu yn Neiniolen rhwng 2011 a 2018 ac er bod dau safle wedi eu cymeradwyo lle mae elfen o dai fforddiadwy wedi’u cynnwys nid yw’r gwaith adeiladu wedi dechrau ar yr un o’r cynigion hyd yma. Cyfeiriwyd at eglurhad gan yr asiant, oedd wedi ei nodi dan baragraff 5.6 yn yr adroddiad, yn egluro pam na allent ddarparu’r tai.

 

         Cyfeiriwyd at sylw gan wrthwynebwyr y dylid ystyried fforddiadwyedd y tai presennol sydd ar gael o fewn y ffin datblygu cyn dod i benderfyniad ar y cais gerbron. Fodd bynnag wedi ystyried mai tai marchnad agored yw’r tai sydd ar werth o fewn y ffin, ni fyddent yn cwrdd â’r un angen a’r tai a fwriedir, megis tai cymdeithasol ar rent wedi ei dylunio i safon Gofynion Ansawdd Datblygu (DQR). Gan fod y cynllun yn union gerllaw ffin datblygu, ystyriwyd bod y datblygiad yn cyfarch galw lleol am dai cymdeithasol ar rent a bod hyn wedi ei gadarnhau gan Uned Strategol Tai’r Cyngor. Ystyriwyd bod y cynllun yn cwrdd gyda gofynion Polisïau TAI 8 a TAI 16 y Cynllun Datblygu Lleol ac y byddai yn cyfrannu tuag ar gwrdd â’r targed a’i gosodir gan Polisi PS18.

 

         Amlygwyd bod agweddau eraill o’r bwriad yn dderbyniol ac er bod cyn ddryswch wedi bod ymysg y gymuned leol am asesiad gwrthdrawiad traffig, amlygwyd mai asesiad mewnol oedd wedi ei weithredu ac nid un ar gyfer dibenion y cais. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad.

 

         Yng nghyd-destun materion draenio, derbyniwyd ymateb gan yr Uned Draenio Tir/Ymgynghoriaeth Gwynedd oedd yn cwestiynu rhai elfennau o’r Strategaeth Ddraenio cyn rhoi barn bendant ar y cynllun. Nodwyd bod y trafodaethau hyn yn parhau ac fod yr Uned Draenio Tir/Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi cadarnhau eu bod yn ffyddiog fod datrysiad posibl yn bosibl ar y safle.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn derbyn yr angen am dai, ond nad oedd y safle yn addas

·         Bod y ffyrdd i’r safle yn anaddas ac annigonol – cyflwr gwael ac yn gul iawn

·         Nad oedd ymateb i asesiad gwrthdrawiad traffig yn yr adroddiad ac felly nid yw’r broses wedi bod yn dryloyw

·         Bod cais blaenorol gan ymgeisydd preifat wedi ei wrthod, pam felly bod Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn cael caniatâd?

·         Nid yw’r tanciau tanddaearol yn ddibynadwy - angen asesiad llawn o’r capasiti oherwydd risgiau llifogydd. Y system ddŵr yn  annigonol i’r isadeiledd cyfredol

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y datblygiad ar safle eithriedig yn cynnig 100% o dai fforddiadwy

·         Mewn ymateb i bryderon trafnidiaeth, gwelliannau hir dymor yn cael eu gwneud i’r ffordd gyda llwybr cerdded newydd yn cael ei gyflwyno

·         Bod pob eiddo gyda dau le  parcio – hyn yn cyfarch yr anghenion statudol

·         Bod y datblygiad yn cynnwys cymysgedd da o dai

·         Galluogi tenantiaid i symud fel nad ydynt yn cael eu cosbi gyda threthi llofft wag

 

(ch)   Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod cais cyffelyb wedi ei wrthod ar gyfer datblygiad tai oherwydd cyflwr ffordd. Pam felly bod argymhelliad yma i ganiatau. Derbyn gwelliannau, ond y lôn yn parhau yn gul

·         Cais am 9 tŷ, amlwg bydd ceisiadau pellach yn y dyfodol ac felly  angen gwella materion trafnidiaeth. Bod y nifer yn isel er mwyn cynnig datblygiad mewn 2 gyfnod

·         Pam nad oedd y safle wedi e gynnwys o fewn y ffin datblygu pan gafodd y Cynllun Datblygu Lleol ei fabwysiadu yn 2017?

·         Dau safle arall wedi ei ddynodi (cyfanswm tai caniatadau byw yn 53) - byddai hyn yn cynyddu i 62 sydd yn ormod i’r pentref

·         Cais blaenorol wedi ei wrthod yng Nghlwt y Bont am 12 tŷ oherwydd ei fod tu allan i'r ffin - dim cyfiawnhad a chysondeb

·         Datganiad cyffredinol yw ‘angen tai yn lleol’ - nid oes cadarnhad mai pobl Deiniolen a Chlwt y Bont fydd yn cael y tai - angen gwybodaeth fyddai yn cadarnhau yr angen

·         Prisiau fforddiadwy eisoes ar dai sydd ar werth yn y pentref

·         Dim tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi trafod gyda’r ddau safle arall - dim esgus fod angen datblygu tu allan i’r ffin

·         Bod gosodiadau’r tai allan o gymeriad – rhai yn goredrych

·         Bod problemau draenio ar y tir

·         Siomedig gyda’r cais ac felly yn gwrthod

 

(d)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(dd)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod hwn yn gyfle arbennig i bobl leol ac wedi ei gyflwyno yn ôl yr angen am dai cymdeithasol

·         Er y tu allan i’r ffin datblygu, y datblygiad yn cwrdd â'r angen

·         Allanfa newydd yn cael ei chreu i leihau pryderon isadeiledd

 

·         Y safle yn anaddas

·         Deiniolen, wedi derbyn nifer o geisiadau am dai; ceisiadau byw heb eu datblygu

·         Bod angen ystyried materion goredrych ymhellach

 

         PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad oddi wrth yr Uned Ddraenio Tir bod y trefniadau ar gyfer draenio’r safle yn dderbyniol ac hefyd i sicrhau nad oedd gor-edrych annerbyniol yn bodoli rhwng Plot 1 a Tan y Caerau gerllaw:

 

1.         Amser cychwyn y datblygiad

2.         Datblygiad yn llwyr unol â'r cynlluniau

3.         Toeau llechi

4.         Amod Dŵr Cymru

5.         Rhaid gweithredu’r cynllun tirlunio a sicrhau bod y coed yn cael eu hamddiffyn yn yr hirdymor

6.         Rhaid i’r tai fod yn fforddiadwy yn barhaus

7.         Tynnu hawliau datblygiad a ganiateir

8.         Amodau draenio fel bo angen

 

 

Nodiadau :        Dŵr Cymru

                        Cyfoeth Naturiol Cymru

                        Priffyrdd

 

Dogfennau ategol: