skip to main content

Agenda item

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/0125/17/MW i ganiatáu 5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd, Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones a’r Cynghorydd  Edgar Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/0125/17/MW i             ganiatáu          5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y         Sadwrn.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff yr ar gefndir y cais, gan nodi bod y gweithredwr yn cynnig amrywio’r amod perthnasol ar bob caniatâd presennol ar y safle i waredu’r cyfleuster ar gyfer mynediad i gerbydau HGV ar ddyddiau Sadwrn ac yn ei dro caniatáu un symudiad ychwanegol y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddai hyn yn arwain at gyfanswm o 21 cerbyd HGV yn cael mynediad i’r safle bob wythnos fyddai yn cynrychioli cynnydd o un symudiad ychwanegol yr wythnos yn unig.

 

         Amlygwyd mai prif fuddion y cynnig fyddai atal cerbydau rhag teithio drwy Benyffridd, Rhosgadfan a Rhostryfan ar ddyddiau Sadwrn, pan ei bod yn debygol y bydd mwy o drigolion yn parcio ar y ffordd a mwy o draffig lleol.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelodau lleol (nad oedd / ac oedd yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ers sefydlu Grŵp Cyswllt dros dair blynedd yn ôl, cydweithio da wedi bod gyda gweithredwr y chwarel a’r gymuned leol. Drwy gynnal trafodaethau, problemau a phryderon yn cael eu datrys.

·         Y cais yn cynnig gwelliannau i’r drefn bresennol. Hyn i’w groesawu

·         Cefnogol i’r cais

 

(c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch)   Wrth drafod y cais, nododd un o’r aelodau bod y cwmni yn cael ei reoli yn dda , yn gwneud          gwaith da yn lleol ac yn cyflogi yn lleol.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amodau 4 a 10            o gais cynllunio C18/0125/17/MW:

 

4.    Ac eithrio mewn argyfwng fel bod modd parhau i weithio yn ddiogel yn y chwarel (ac fe roddir gwybod am hyn i'r Awdurdod Cynllunio Mwynau cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosib), neu oni bai bod yr Awdurdod Cynllunio Mwynau wedi dod i gytundeb i'r gwrthwyneb yn ysgrifenedig:-

i)    ni ellir ymgymryd â gweithrediadau sy'n gysylltiedig â gwaredu deunydd o ddyddodion gweithio mwynau, gwaredu priddoedd a gorlwyth, gwaith adfer, gwasanaethu, cynnal a chadw a phrofi offer sefydlog a symudol ac eithrio yn ystod yr amseroedd a ganlyn:

·         07.30awr i 18.00awr ddydd Llun i ddydd Gwener a 07.30awr i 13.00awr ar ddydd Sadwrn,

ii)   Ni fydd gwaith mathru a sgrinio'n digwydd ac eithrio yn ystod yr oriau a ganlyn:

·           10.00 i 15.00 awr, ddydd Llun i ddydd Gwener.

iii)  Ni fydd cerbydau HGV yn mynd i mewn nac allan o'r safle ac eithrio rhwng yr amseroedd a ganlyn: 

·                 08.00awr i 16.00awr o ddydd Llun i ddydd Gwener 

iv) Ni fydd unrhyw weithrediadau ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â monitro brys neu amgylcheddol neu bwmpio dŵr yn digwydd ar y safle ar ddyddiau Sul neu ar wyliau Cyhoeddus neu wyliau Banc.

 

10.     Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall yn y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na phum llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn.  Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

Y datblygiad i fod yn destun yr un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio            blaenorol a roddwyd C18/0125/17/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg,            gwarchod yr      amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r           cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.

 

Dogfennau ategol: