Cyflwynwyd gan:Cyng. W Gareth Roberts a Cyng. Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
Cymeradwyo
ymrwymiad Cyngor Gwynedd i weithredu’r Strategaeth Anableddau Dysgu yn lleol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan
PENDERFYNWYD
Cymeradwyo ymrwymiad Cyngor Gwynedd i weithredu’r Strategaeth Anableddau
Dysgu.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Strategaeth
yn un cyffroes ar gyfer pobl sydd ag Anableddau Dysgu o bob oed. Mynegwyd fod y
Strategaeth yn nodi sut fydd y bydd yr Awdurdodau Lleol yn gweithio yn
integredig a'r Gwasanaeth Iechyd ar draws y Gogledd. Ychwanegwyd fod y
strategaeth wedi ei ddatblygu mynd cydweithrediad rhwng chwech o Gynghorau’r
Gogledd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a chyfraniadau gan bobl ag
anableddau dysgu a'u gofalwyr.
Nodwyd fod gweledigaeth y strategaeth yn
cyd-fynd a gweledigaeth yr adran, ac ychwanegwyd ei fod yn cydnabod beth sydd
yn bwysig i bobl sydd ag anableddau dysgu. Mynegwyd fod y rhanbarth wedi bod yn
llwyddiannus yn cael arian gan Gronfa Drawsffurfio’r Llywodraeth er mwyn
cyflawni pum pecyn gwaith sydd wedi ei gynllunio o fewn y strategaeth.
Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Anableddau Dysgu
fod y strategaeth yn gosod cyfeiriad cadarn i’r Cyngor i weithio gyda’r
Gwasanaeth Iechyd, a'i fod yn plethu i mewn i waith yr adran. Ychwanegwyd fod
yr Adran dros y 3 blynedd diwethaf wedi bod yn gweithio gyda phobl a phlant
gydag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u cymuned i greu cynlluniau a bod y
cynlluniau yma bellach wedi eu datblygu i greu timau ataliol o fewn hybiau yn y
gymuned.
Ategwyd fod trefn ymgysylltu gryfach wedi ei
greu yn ystod y tair blynedd diwethaf rhwng staff, darparwyr, gofalwr a
defnyddwyr gwasanaeth. Ychwanegwyd drwy greu gwasanaeth sydd yn ymgysylltu yn
aml mae wedi datblygu a chreu gwasanaeth mae pawb yn teimlo’n rhan ohoni.
Ychwanegwyd fod newidiadau cyffroes ar droed a bod strategaeth yn sylfaen gadarn
a fydd yn gweithio’r rhaglen waith ymlaen i godi statws bobl ag anableddau
dysgu o fewn cymunedau.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
-
Holwyd
sut y bydd modd rhoi'r strategaeth yma ar waith, a nodwyd fod llawer o’r ymgysylltu
a gafwyd er mwyn creu'r strategaeth wedi eu cynnal gyda phobl Gwynedd ac felly
mae lleisiau pobl Gwynedd i’w gweld yno. Mynegwyd wrth edrych ar raglen waith y
strategaeth fod Gwynedd o flaen y gad yn rhai meysydd tra angen datblygu mewn
meysydd eraill. Prif ffocws Gwynedd, ychwanegwyd, fydd i blethu gwaith y
gwasanaeth a’r strategaeth.
-
Nodwyd
mai gobaith yw y bydd gweledigaeth y strategaeth yn annog gwaith integredig yn
lleol a bydd gwaith integredig cyson dros yr adrannau yn y cyngor yn ogystal,
yn arbennig yr Adran Addysg ac yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd.
-
Tynnwyd
sylw at y gwaith sydd yn cael ei wneud yn yr adran Addysg yn y maes Anableddau
Dysgu gan nodi fod y strategaeth yn cyd-fynd a chynlluniau Anghenion Dysgu
Ychwanegol yr adran.
Nodwyd fod y Strategaeth yn un pum mlynedd ond fod arian ar o Gronfa Drawsffurfio’r Llywodraeth ar gyfer cynllun gweithredu am gyfnod o 2 flynedd. Ychwanegwyd os na fuasai’r rhanbarth wedi derbyn yr arian hwn y bydda’i strategaeth wedi parhau i gael ei chymeradwyo. Mynegwyd fod cael ychydig o arian ychwanegol yn lleihau’r rhwystrau a oedd yn codi.
Awdur:Morwena Edwards
Dogfennau ategol: