Agenda item
- Cyfarfod Y Cyngor, Dydd Iau, 7fed Mawrth, 2019 1.00 y.h. (Item 18.)
- Datganiadau o fuddiant ar gyfer eitem 18.
Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20
o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn cynnig fel a ganlyn:-
Gan gydnabod mai mater i’r Cabinet yw unrhyw
benderfyniad ar y mater, bod y Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun
neu fwriad i newid cyfansoddiad, trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith
Gwynedd, yn wyneb eu llwyddiant digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr
i fewnfudwyr fel y bo iddynt gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion.
Cofnod:
(2) Cyflwynwyd
y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd o dan Adran 4.20 y
Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
“Gan gydnabod mai mater i’r Cabinet yw unrhyw benderfyniad ar y mater,
bod y Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun neu fwriad i newid cyfansoddiad,
trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith Gwynedd, yn wyneb eu llwyddiant
digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr i fewnfudwyr fel y bo iddynt
gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion.”
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig, sef:-
“Gan gydnabod a
chondemnio yn llwyr y toriadau ariannol erchyll mae Llywodraeth Cymru wedi
orfodi ar gynghorau lleol, yn benodol y toriad i’r grant gwella addysg i
Wynedd, ac mai mater i’r Cabinet yw unrhyw benderfyniad ar y mater, bod y
Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun neu fwriad i newid
cyfansoddiad, trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith Gwynedd fyddai’n cael
effaith andwyol ar eu gallu digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr i
fewnfudwyr ac i gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion. Mae’r Cyngor hefyd yn galw ar y Cabinet i
sefydlu trefn fonitro gref – boed newid neu beidio – er sicrhau’r canlyniadau
gorau bosib’ i’r dysgwyr.”
Esboniodd cynigydd y gwelliant ei fod yn croesawu sylwadau cadarnhaol
cynigydd y cynnig gwreiddiol, ond ei fod o’r farn bod y cynnig hwnnw yn
ymrwymo’r Cyngor i beidio gwneud unrhyw newid byth i gyfansoddiad, trefniadaeth
na staffio’r canolfannau iaith. O bosib’
y byddai angen ehangu’r gwasanaeth yn y dyfodol petai yna fwy o fewnfudwyr, neu
gellid bod yna lai o alw am y gwasanaeth, ac ‘roedd y methodoleg o ddysgu
ieithoedd yn datblygu hefyd ac yn sicr o ddatblygu ymhellach eto i’r
dyfodol. Hefyd, roedd angen amlygu’r
ffaith mai Llywodraeth Cymru, ac nid y Cyngor hwn, sy’n torri’r grant.
Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan
aelodau unigol:-
·
Bod angen lobïo
Llywodraeth Cymru am fwy o arian i’r cynghorau.
·
Bod yr alwad ar y
Cabinet i sefydlu trefn fonitro gref yn cryfhau’r cynnig gwreiddiol.
·
Bod Llywodraeth San
Steffan yn cynnig gwersi Saesneg am ddim i fewnfudwyr ac y dylid galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau’r un ddarpariaeth yng Nghymru o ran yr iaith
Gymraeg, yn enwedig os am wireddu’r weledigaeth o sicrhau miliwn o siaradwyr
Cymraeg erbyn 2050. Hefyd, yn Ngwynedd,
mae’n rhaid i blant sy’n mewnfudo i’r sir gael cwrs Cymraeg cyn gallu ymdopi
â’r gwersi yn yr ysgolion.
·
Bod Canolfannau Iaith
Gwynedd yn enghraifft lachar o ymarfer da, ac yn hytrach na chwtogi, dylai’r
Cyngor hwn arddel a meithrin y gwasanaeth.
·
Dylai Cabinet y
Cyngor ddiogelu’r gwasanaeth gwerthfawr hwn a galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi
ar gyfer dyfodol yr iaith.
·
Bod y Canolfannau
Iaith yn tynnu pwysau oddi ar yr athrawon yn yr ysgolion i ddysgu Cymraeg i’r
plant.
·
Er bod y gwelliant
i’w groesawu, nad oedd yn ddi-wall chwaith a bod y geiriau ‘a fyddai’n cael effaith niweidiol ar eu
gallu ...’ yn agored i gael eu camddehongli oherwydd y gellid dadlau nad
yw’r peth hwn neu’r peth arall yn mynd i gael effaith andwyol ar allu’r unedau
i gyflawni eu gwaith.
·
Bod y canolfannau
iaith yn un o’r pontydd sy’n uno ein cymunedau yng Ngwynedd, ac nid yn unig yn
trochi ac yn cymhathu, ond hefyd yn meithrin ymdeimlad o berthyn i’r gymuned
i’r plant yma.
·
Ei bod yn ymddangos
mai hanfod y cynllun yw di-swyddo athrawon arbenigol a phrofiadol a phenodi
cymorthyddion yn y gobaith y byddent yn gallu cyflawni’r un gwaith i’r un
safon. Rhoi cymorth i athrawon yw gwaith
cymhorthydd, nid i gymryd eu lle, ac mae’n bwysig, nid yn unig peidio
tanseilio’r gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, ond rhoi’r gwaith hwnnw ar
seiliau cadarn i’r dyfodol.
·
Y dylid anfon neges
glir iawn bod rhaid amddiffyn y gwasanaeth hollbwysig hwn, ac amddiffyn ei
ansawdd hefyd.
·
Bod pawb yn gytûn bod
yr iaith Gymraeg yn greiddiol i holl waith y Cyngor a bod ymrwymiad y Cyngor
i’r Gymraeg yn ddigamsyniol.
·
Y dymunid gweld y
canolfannau iaith yn gwella ac yn cryfhau i’r dyfodol, a bod y gwelliant yn
mynd i gryfhau’r ddarpariaeth.
Nododd yr Aelod Cabinet Addysg:-
·
Y gwerthfawrogir y
gwaith arbennig sy’n mynd ymlaen yn y canolfannau iaith ond bod yna waith
arbennig yn mynd ymlaen yn yr ysgolion cynradd hefyd, yn benodol yn y cyfnod
sylfaen gyda phlant yn cychwyn heb air o Gymraeg ac yn diweddu’r cyfnod sylfaen
yn gwbl rhugl.
·
Bod y Llywodraeth
wedi bod yn torri grantiau, ac yn benodol grantiau addysg, ers tua 4 blynedd
neu ragor. Gwelwyd gostyngiad o 34% yn y
Grant Gwella Addysg mewn 4 blynedd, a thros yr un cyfnod ‘roedd y cyfnod
sylfaen wedi cael toriad o £1.2m a 70 cymhorthydd wedi colli eu swyddi.
·
Bod y toriadau drws
cefn yma’n warthus o ran Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi gydag un law ac yn cymryd
yn ôl gyda’r llall, ac ynghyd ag Arweinydd y Cyngor, roedd wedi bod yn lobïo’n
gryf ac yn barhaus yn erbyn y toriadau hyn.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd.
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant ychwanegol i’r gwelliant a gafodd ei
gario, sef i ychwanegu’r geiriad a ganlyn ar ddiwedd y gwelliant:-
“Yr ydym, fodd
bynnag, yn datgan y byddai israddio swyddi athrawon a’u troi yn swyddi cymorthyddion
yn niweidiol ac felly yn andwyo ar allu’r unedau i ddysgu’r Gymraeg yn
effeithiol, ac felly, ein bod yn gofyn i’r Cabinet sicrhau bod yr adnoddau
angenrheidiol ar gael er mwyn sicrhau nad yw hynny’n digwydd.”
Nodwyd ei bod yn amhosib’ i’r Cyngor gynllunio ei waith tra bo’r system
grantiau mewn bodolaeth, a phwysleisiwyd y dylai cynghorwyr, penaethiaid a
llywodraethwyr ysgrifennu at yr Aelodau Cynulliad a’r Aelodau Seneddol yn
condemnio’r toriadau difrifol i’r grantiau addysg.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant ychwanegol ac fe gariodd.
Gan i’r gwelliant ychwanegol gael ei dderbyn, eglurodd y Swyddog Monitro
fod y cynnig gwreiddiol wedi’i addasu a bod angen pleidlais bellach gyda
geiriad y gwelliant ychwanegol yn hytrach na’r geiriad gwreiddiol. Pleidleisiodd mwyafrif o blaid y cynnig.
PENDERFYNWYD, gan
gydnabod a chondemnio yn llwyr y toriadau ariannol erchyll mae Llywodraeth
Cymru wedi orfodi ar gynghorau lleol, yn benodol y toriad i’r grant gwella
addysg i Wynedd, ac mai mater i’r Cabinet yw unrhyw benderfyniad ar y mater,
bod y Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gynllun neu fwriad i newid
cyfansoddiad, trefniadaeth na staffio Canolfannau Iaith Gwynedd fyddai’n cael
effaith andwyol ar eu gallu digamsyniol i ddysgu’r Gymraeg mewn cyfnod byr i
fewnfudwyr ac i gymathu’n hwylus i ethos Gymraeg ein hysgolion. Mae’r Cyngor hefyd yn galw ar y Cabinet i
sefydlu trefn fonitro gref - boed newid neu beidio - er sicrhau’r canlyniadau
gorau bosib’ i’r dysgwyr. Yr ydym, fodd
bynnag, yn datgan y byddai israddio swyddi athrawon a’u troi yn swyddi
cymorthyddion yn niweidiol ac felly yn andwyo ar allu’r unedau i ddysgu’r
Gymraeg yn effeithiol, ac felly, ein bod yn gofyn i’r Cabinet sicrhau bod yr
adnoddau angenrheidiol ar gael er mwyn sicrhau nad yw hynny’n digwydd.