skip to main content

Agenda item

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Catrin Wager yn cynnig fel a ganlyn:-

 

 

Bellach, mae’r dystiolaeth yn argyhoeddiadol fod newid hinsawdd yn digwydd.

Mae newid hinsawdd yn gysylltiedig â digwyddiadau tywydd eithafol, cynnydd yn lefelau’r môr, sychder a llifogydd. Mae canlyniadau cynnydd o dros 1.5°C yn nhymheredd y byd mor eithafol fel bod yn rhaid gwneud y dasg o atal hyn yn brif flaenoriaeth.

Mae canfyddiadau astudiaeth 1.5C yr IPCC ym mis Hydref wedi datgan fod gan ddynoliaeth 12 mlynedd i gymryd camau pendant ar newid hinsawdd.

Mae dyletswydd ar bob llywodraeth (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol) i gyfyngu ar effeithiau negyddol Newid Hinsawdd.

Mae goblygiadau ar y Cyngor, dan ‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ i ystyried effaith unrhyw benderfyniad a wna ar y cenedlaethau sydd i ddod.

Yn ogystal, mae goblygiadau ar y Cyngor i warchod y cyhoedd.

 

Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:

Bod effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu teimlo yn y sir yn barod.

Mae 23,244 o drigolion Gwynedd yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o orlifo.

Dros y ganrif nesaf, disgwylir i lefelau’r môr godi 1.1m.

Yn barod, mae llifogydd yn costio oddeutu £200,000,000 i economi Cymru bob blwyddyn.

Mae tirwedd Gwynedd yn cynnig cyfleoedd i gynhyrchu ynni, adfywio bioamrywiaeth a lliniaru llifogydd dŵr ffo.

 

Felly, penderfyna’r Cyngor i:

Wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y sir yn parhau i fod yn gartref bywiog, hyfyw a chynaliadwy i’n plant ac i blant ein plant am genedlaethau i ddod. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

Ddatgan Argyfwng Hinsawdd

Ymrwymo i gymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon ac ymdrechu am ddyfodol di-garbon

Chwilio am ffyrdd arloesol o gyflawni targedau di-garbon

Adrodd yn ôl ymhen 6 mis ar y camau cadarnhaol y mae’r Cyngor wedi’u cymryd i leihau allyriadau carbon.

 

Cofnod:

(3)     Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Catrin Wager o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Bellach, mae’r dystiolaeth yn argyhoeddiadol fod newid hinsawdd yn digwydd. Mae newid hinsawdd yn gysylltiedig â digwyddiadau tywydd eithafol, cynnydd yn lefelau’r môr, sychder a llifogydd. Mae canlyniadau cynnydd o dros 1.5°C yn nhymheredd y byd mor eithafol fel bod yn rhaid gwneud y dasg o atal hyn yn brif flaenoriaeth.  Mae canfyddiadau astudiaeth 1.5C yr IPCC ym mis Hydref wedi datgan fod gan ddynoliaeth 12 mlynedd i gymryd camau pendant ar newid hinsawdd.  Mae dyletswydd ar bob llywodraeth (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol) i gyfyngu ar effeithiau negyddol Newid Hinsawdd.  Mae goblygiadau ar y Cyngor, dan ‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ i ystyried effaith unrhyw benderfyniad a wna ar y cenedlaethau sydd i ddod.  Yn ogystal, mae goblygiadau ar y Cyngor i warchod y cyhoedd.

 

Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:

·         Bod effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu teimlo yn y sir yn barod.

·         Mae 23,244 o drigolion Gwynedd yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o orlifo.

·         Dros y ganrif nesaf, disgwylir i lefelau’r môr godi 1.1m.

·         Yn barod, mae llifogydd yn costio oddeutu £200,000,000 i economi Cymru bob blwyddyn.

·         Mae tirwedd Gwynedd yn cynnig cyfleoedd i gynhyrchu ynni, adfywio bioamrywiaeth a lliniaru llifogydd dŵr ffo.

 

Felly, penderfyna’r Cyngor i:

Wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y sir yn parhau i fod yn gartref bywiog, hyfyw a chynaliadwy i’n plant ac i blant ein plant am genedlaethau i ddod. Byddwn yn gwneud hyn drwy:

·         Ddatgan Argyfwng Hinsawdd.

·         Ymrwymo i gymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon ac ymdrechu am ddyfodol di-garbon.

·         Chwilio am ffyrdd arloesol o gyflawni targedau di-garbon.

·         Adrodd yn ôl ymhen 6 mis ar y camau cadarnhaol y mae’r Cyngor wedi’u cymryd i leihau allyriadau carbon.

 

Nodwyd bod plant a myfyrwyr yn gwbl effro i’r sefyllfa a phwysleisiwyd y dylai aelodau etholedig, fel arweinwyr gwleidyddol, chwarae eu rhan hefyd.  Ar sail hynny, cynigiwyd ac eiliwyd i ychwanegu’r geiriad a ganlyn at y cynnig gwreiddiol:-

 

“Galw ar Lywodraeth Cymru a San Steffan i ddarparu’r pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni’r targed o Wynedd ddi-garbon erbyn 2030.”

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y Cyngor.

 

Mynegwyd cefnogaeth frwd i’r cynnig wedi’i ddiwygio gan aelodau a nododd:-

 

·         Bod allyriadau carbon yn cael effaith ar fioamrywiaeth a’r eco-system hefyd a bod plastigion yn gwneud eu ffordd drwy’r gadwyn fwyd.  Tynnwyd sylw at ail weithdy amgylcheddol i’w gynnal ym Mhlas Tan y Bwlch ar 17 Mai.

·         Hyd yn oed pe byddem yn cymryd camau pendant ar newid hinsawdd o fewn 12 mlynedd, byddem yn dal i weld yr hinsawdd yn newid am flynyddoedd y tu hwnt i hynny, a bydd plentyn sy’n 10 oed heddiw yn profi rhywbeth na fydd yr un ohonom ni byth yn ei brofi. 

·         Mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i ddyfodol dynolryw a rhaid i ni chwarae ein rhan, fel awdurdod lleol, i arwain y ffordd a gweithredu i leihau’r effaith ar yr hinsawdd a’r amgylchedd a sicrhau dyfodol i’n plant a phlant ein plant.

·         Y dymunid gweld y cynnig yn esgor ar gynlluniau ymarferol, e.e. cynlluniau i leihau’r defnydd o geir, ayb.

·         Bod angen mynd yn garbon negyddol, drwy blanu mwy o goed, ayb.

 

Nododd yr Arweinydd y bu’r Cyngor yn flaengar ac yn effeithiol yn y maes gostwng defnydd carbon ers rhai blynyddoedd bellach a bod ganddo darged i wireddu gostyngiad carbon o 40% erbyn 2021, gan arbed £3.3m i’r Cyngor.  Awgrymodd hefyd, y gellid edrych ar gynnwys adran dan Adran yr Amgylchedd yng Nghynllun y Cyngor ynglŷn â’r mater newid hinsawdd.

 

PENDERFYNWYD bellach, mae’r dystiolaeth yn argyhoeddiadol fod newid hinsawdd yn digwydd. Mae newid hinsawdd yn gysylltiedig â digwyddiadau tywydd eithafol, cynnydd yn lefelau’r môr, sychder a llifogydd. Mae canlyniadau cynnydd o dros 1.5°C yn nhymheredd y byd mor eithafol fel bod yn rhaid gwneud y dasg o atal hyn yn brif flaenoriaeth.  Mae canfyddiadau astudiaeth 1.5C yr IPCC ym mis Hydref wedi datgan fod gan ddynoliaeth 12 mlynedd i gymryd camau pendant ar newid hinsawdd.  Mae dyletswydd ar bob llywodraeth (lleol, rhanbarthol a chenedlaethol) i gyfyngu ar effeithiau negyddol Newid Hinsawdd.  Mae goblygiadau ar y Cyngor, dan ‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ i ystyried effaith unrhyw benderfyniad a wna ar y cenedlaethau sydd i ddod.  Yn ogystal, mae goblygiadau ar y Cyngor i warchod y cyhoedd.

 

Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:

·         Bod effaith newid hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu teimlo yn y sir yn barod.

·         Mae 23,244 o drigolion Gwynedd yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o orlifo.

·         Dros y ganrif nesaf, disgwylir i lefelau’r môr godi 1.1m.

·         Yn barod, mae llifogydd yn costio oddeutu £200,000,000 i economi Cymru bob blwyddyn.

·         Mae tirwedd Gwynedd yn cynnig cyfleoedd i gynhyrchu ynni, adfywio bioamrywiaeth a lliniaru llifogydd dŵr ffo.

 

Felly, penderfyna’r Cyngor i:

Wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y sir yn parhau i fod yn gartref bywiog, hyfyw a chynaliadwy i’n plant ac i blant ein plant am genedlaethau i ddod.  Byddwn yn gwneud hyn drwy:

·         Ddatgan Argyfwng Hinsawdd.

·         Ymrwymo i gymryd camau pendant i leihau allyriadau carbon ac ymdrechu am ddyfodol di-garbon.

·         Chwilio am ffyrdd arloesol o gyflawni targedau di-garbon.

·         Adrodd yn ôl ymhen 6 mis ar y camau cadarnhaol y mae’r Cyngor wedi’u cymryd i leihau allyriadau carbon.

·         Galw ar lywodraeth Cymru a San Steffan i ddarparu’r pwerau a’r adnoddau angenrheidiol i gyflawni’r targed o Wynedd di-garbon erbyn 2030.