Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Cofnod:

Tywysodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Rhagwelwyd y byddai archwiliad tanddwr o'r angorfeydd yn yr harbwr yn cael ei gynnal cyn cyfnod y Pasg, yn amodol ar ymrwymiadau'r contractwr angorfeydd a’r amodau tywydd.

·         Hysbysebir swydd Cymhorthydd Harbwr llawn amser yn Harbwr Porthmadog, byddai’r swyddog yn rhoi cymorth i’r Harbwr Feistr gyda’i ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau yn ogystal â gweithio yn harbyrau Aberdyfi ac Abermaw pan fod angen.

 

Rhannwyd crynodeb bras o gyllidebau'r harbwr a'r sefyllfa ariannol hyd at ddiwedd Chwefror 2019. Manylodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ar y cyllidebau gan nodi bod yr incwm a gasglwyd, £10,754 yn is na’r targed incwm. Nododd y rhagwelwyd gorwariant o oddeutu £20,000 ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018/19 ond o ystyried maint a chyfrifoldebau’r Harbwr a bod adnoddau ariannol wedi eu hymrwymo ar gyfer cynnal a chadw a oedd yn fuddsoddiad yn yr Harbwr. Tynnodd sylw at ffioedd a thaliadau 2019/20.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod o ran incwm parcio Traeth y Greigddu, eglurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod costau traethau yn cael eu cyllido dan gyllidebau traethau a nid oedd gwariant a incwm traethau yn rhan o gyllideb harbyrau.

 

Tynnodd aelod sylw bod swyddogion yr Harbwr yn gweithio ar adegau ar y traethau. Holodd os oedd yr oriau a dreulir yn cwblhau’r gwaith yn cael eu had-dalu o’r gyllideb traethau. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod trefniant yn bodoli lle'r oedd swyddogion traethau a swyddogion yr Harbwr yn cydweithio ar adegau ar waith yn yr Harbwr ac ar y traethau er cyflwyno y budd gorau i drigolion Gwynedd yn unol â Ffordd Gwynedd. 

 

Cyflwynodd Harbwr Feistr Porthmadog adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o'r materion mordwyo a gweithredol a gododd yn ystod y cyfnod rhwng mis Hydref 2018 a mis Chwefror 2019, gan gynnwys materion cynnal a chadw a digwyddiadau yn ystod y cyfnod. Nododd bod bwi mordwyo rhif 10 wedi dod i’r lan,felly roedd Rhybudd i Forwyr wedi ei rhyddhau yn ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Nododd aelod ei fod yn braf gweld lluniau yn nodi gwerthfawrogiad o’r gwaith ynghlwm â’r morglawdd ym Morth-y-Gest gyda gwrthwynebwyr i’r bwriad bellach yn ei groesawu gan ei fod wedi gwella’r sefyllfa.

 

Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod arwyddion diogelwch Sefydliad y Bâd Achub a fwriedir eu gosod yn ardal Morfa Bychan yn arwyddion da iawn. Tynnodd sylw bod Bâd Achub Cricieth wedi achub 10 unigolyn oddi ar Fanc y Gogledd ger Traeth y Greigddu yn ystod 2018 a oedd yn ganran sylweddol o’r nifer o fywydau a achubwyd yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn ystod y flwyddyn gyda 182 bywyd wedi eu hachub yn y cyfnod. Nododd aelod bod y Gwasanaeth yn un effeithiol a phwysig iawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt y consesiwn hufen iâ, nododd Harbwr Feistr Porthmadog y byddai’r tendr yn cael ei hysbysebu yn ystod mis Mawrth. Ychwanegodd yr aelod ei fod yn awyddus i’r tendr gael ei hysbysebu mor fuan â phosib.

 

Nododd aelod mai’r Cynghorydd Nia Jeffreys oedd yn ymgymryd â’r gwaith Caru Port yn ei le a bod bwriad i ymestyn y goleuadau oedd wrth ochr Y Ganolfan i fynd o amgylch.

 

Derbyniwyd diweddariad gan Gynrychiolydd Buddiannau Hamdden ar Gynllun Clwb Hwylio Madog i gynyddu nifer y pontŵns yn yr harbwr. Nododd bod yr holl waith papur perthnasol o ran gosod y pontŵns yn yr harbwr, gan gynnwys union safle'r prif estyniad a'r bysedd pontŵn, wedi ei gyflwyno i Cyfoeth Naturiol Cymru. Eglurodd bod Clwb Hwylio Madog wedi derbyn ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadarnhau y derbyniwyd yr holl waith papur perthnasol. Ymhelaethodd y bwriadwyd gosod y prif adrannau pontŵn ychwanegol 24 medr a’r bysedd pontŵn dechrau mis Ebrill, mewn pryd ar gyfer y tymor i ddod, ac fe gwblheir y gwaith gan Intermarine UK Limited.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: