I dderbyn
cyflwyniad gan Capten Forkanul Quader o Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a
Gwarchodwyr y Glannau.
Cofnod:
Croesawyd Mr Forkanul Quader o Arolygaeth
Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau.
Gosododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
y cyd-destun, gan nodi bod y Gwasanaeth Morwrol wedi ymateb i argymhellion a
nodwyd yn yr adroddiad a dderbyniwyd gan Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a
Gwarchodwyr y Glannau ar drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol
Gwynedd a chydymffurfiaeth â’r Cod Diogelwch Morol yn dilyn archwiliad yn 2017.
Nododd ei werthfawrogiad o waith yr Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistri.
Eglurodd y cynhaliwyd archwiliad dilynol ar 5-6 Mawrth 2019 lle nodwyd gan yr
archwiliwr bod gan y Gwasanaeth seiliau cadarn gan nodi awgrymiadau i wella.
Nododd bod holl aelodau’r Pwyllgorau Harbwr wedi derbyn gwahoddiad i’r Pwyllgor
ar gyfer y cyflwyniad. Datganodd ei ddiolch am waith Forkanul Quader a’i
arweiniad proffesiynol.
Derbyniwyd cyflwyniad gan Forkanul Quader,
nododd nad oedd y Cod yn statudol ond ei fod yn berthnasol a’r angen i systemau
rheoli diogelwch ac asesiadau risg fod mewn lle a’u bod yn cyd-fynd â maint a
gweithgareddau a wneir yn yr Harbwr. Rhestrodd y ddeddfwriaeth berthnasol a
nodir yn y Cod.
Nododd y prif bwyntiau canlynol o ran yr hyn
a oedd angen sylw gan y Cyngor:
·
Bod
gan Harbwr Porthmadog statws fel Awdurdod Harbwr Cymwys, gan nad oedd llong
fasnachol wedi mordwyo yn yr Harbwr ers 23 mlynedd, fe ddylai’r Cyngor ystyried
os am barhau i ddal y statws a oedd yn golygu gofynion ychwanegol ar y Cyngor.
·
Bod
trefniadau adolygu mewnol wedi eu sefydlu ond bod gwaith gweithredol angen ei
wneud gyda lle i’r Harbwr Feistri gydweithio.
·
Bod
angen adolygu Is-ddeddfau Harbwr Porthmadog er sicrhau eu bod yn cyd-fynd gydag
arferion cyfredol.
·
Efallai
y gallai Harbwr Pwllheli gael ei eithrio o ran rhai gofynion yn ymwneud â
llygredd.
·
Bod
Hafan Pwllheli yn creu incwm, gyda’r sianel yn culhau roedd yn anodd i gychod
groesi a mordwyo i fyny’r sianel. Roedd angen cynnal arolwg hydrograffeg a
gwneud gwaith carthu.
Cadarnhaodd bod gan y Gwasanaeth Morwrol
arferion da iawn gan gynnwys y defnydd o telimetrics. Nododd bod ymrwymiad i’r
system rheoli diogelwch gyda’r Deiliad Dyletswydd yn cymryd cyfrifoldeb ar
dudalen gyntaf Cod Diogelwch Morol y Cyngor.
Nododd yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi ei fod wedi cyfarfod gyda’r
archwilydd i drafod ei adroddiad a bod ambell i beth angen sylw. Ymhelaethodd
ei fod yn eithaf hyderus y gellir ymateb i’r hyn a godwyd gan yr archwilydd.
Eglurodd bod yr archwilydd wedi canmol proffesiynoldeb ac ymroddiad swyddogion
y Gwasanaeth Morwrol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig y bwriedir cysylltu â Uned Gyfreithiol y Cyngor, Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth Prydain i gyflwyno cais diddymu statws Harbwr Porthmadog fel
Awdurdod Harbwr Cymwys. Eglurodd bod gwaith sylweddol a chyfrifoldeb o dan
Ddeddf Peilota 1987 yn dod gyda’r statws ac ni fyddai diddymu’r statws yn atal
llong rhag tramwyo yn yr Harbwr fel rhan o gynllun gwaith trawsnewidyddion yn
Nhrawsfynydd a Ffestiniog. Nododd ei fod yn gobeithio byddai’r aelodau yn
cefnogi’r bwriad.
Mewn ymateb i gwestiwn pellach, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig y byddai diddymu statws Harbwr Porthmadog fel Awdurdod Harbwr Cymwys yn
golygu byddai Harbwr Porthmadog gyda’r un statws a’r harbyrau eraill dan
reolaeth y Cyngor. Eglurodd yr archwilydd bod dau fath o statws sef, Awdurdod
Statudol Harbwr ac Awdurdod Harbwr Cymwys, mi fyddai Harbwr Porthmadog yn
parhau fel Awdurdod Statudol Harbwr. Nododd o ystyried nad oedd llong fasnachol
wedi mordwyo yn yr harbwr ers 23 mlynedd, pam cadw’r statws a oedd yn golygu
gofynion ychwanegol ar y Cyngor o ran hyfforddi.
Nodwyd gwerthfawrogiad o’r cyflwyniad.
PENDERFYNWYD derbyn y
wybodaeth.