I ysytried adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau
Cofnod:
(a)
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbwr
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch
Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad byr i’r Pwyllgor
ar faterion yr harbwr am y cyfnod mis Hydref 2018 - Mawrth 2019.
Yn dilyn adolygiad o gyfrifoldebau’r Aelodau Cabinet ym
Mawrth 2019, adroddwyd mai'r Cynghorydd Gareth Thomas oedd â chyfrifoldeb dros faes Datblygu'r
Economi a Chymuned. Diolchwyd i’r Cynghorydd
Ioan Thomas, cyn aelod
Cabinet dros Ddatblygu’r Economi a Chymuned, am ei gefnogaeth a’i
ymrwymiad i’r gwasanaeth morwrol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
ag aelodaeth a phresenoldeb
rhai aelodau o’r Pwyllgor, amlygwyd
mai cyfrifoldeb yr Aelod Cabinet yw aelodaeth y Pwyllgor ac y byddai unrhyw newid i
aelodaeth neu gyfansoddiad y Pwyllgor yn cael ei benderfynu gan yr Aelod
Cabinet.
Awgrymwyd gohebu gyda’r holl gymdeithasau
presennol i geisio cynrychiolaeth cyn ymateb i
geisiadau newydd. Mewn ymateb i aelodaeth
y cylch gorchwyl lle nodi’r y gellid
cael ‘hyd at 4 aelod lleol o Gyngor
Gwynedd’, awgrymwyd rhoi gwahoddiad i’r aelod sydd yn
cynrychioli Penmaen-pwl.
Angorfeydd
Yn ymateb i gofnod
mis Hydref ynglŷn â lleihad yn y nifer angorfeydd,
adroddwyd bod bwriad ar y pryd i
adolygu pam bod perchnogion
angorfeydd wedi ymadael. Cyfaddefwyd nad oedd hyn
wedi ei weithredu
ond bod dymuniad i ymgysylltu i
geisio barn defnyddwyr. Gwnaed cais i’r swyddogion holi’r defnyddwyr am y sefyllfa ar hyd
yr arfordir,
Awgrymwyd bod angen ymateb i’r
newid mewn ymddygiad gan ystyried
marchnata angorfeydd ar gyfer beiciau
dŵr (jet-skis). Amlygwyd
y byddai defnyddwyr, yn debygol o ddefnyddio
angoriad sefydlog petai un ar gael,
ond yn y cyfamser yn angori
dros dro gyda chychod eraill.
Gyda digwyddiadau sydd yn cael
eu trefnu gyda mewnbwn y Swyddfa Harbwr e.e., The Blackrock Blast, nodwyd
bod modd hwyluso’r ddarpariaeth, ond nad oedd modd
rheoli unigolion. Os nad yw
pobl yn ymweld
â’r swyddfa, anodd iawn yw
rheoli sefyllfa. I gyfarch hyn, awgrymwyd
yr angen i ystyried dulliau
o reoli hyn yn well a darparu cyfleuster penodol ar gyfer beiciau
dŵr. Anogwyd aelodau i drafod
eu syniadau gyda’r Swyddog Harbwr.
Archwiliad Cod Diogelwch
Morol.
Adroddwyd bod archwilwyr yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi
cynnal archwiliad (17-19.09.19) ar drefniadau diogelwch penodol a systemau Harbyrau Bwrdeistrefol Gwynedd er mwyn sicrhau
cydymffurfiaeth a’r Côd Diogelwch Morol. Amlygwyd bod
cyfrifoldeb ar bob aelod o’r Pwyllgor i ymateb i faterion y côd
ac i’r gwasanaeth dderbyn sylwadau a barn yr aelodau am addasrwydd y côd.
Yn dilyn yr adolygiad derbyniwyd adroddiad oedd yn awgrymu gwelliannau a
gafodd ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor. Cafwyd dilyniant i’r ymweliad
cychwynnol yn ystod mis Mawrth 2019 ac fe ddisgwylir adroddiad ysgrifenedig ar
gasgliadau’r ail ymweliad.
Un mater a godwyd oedd yr
angen am gytundeb i reoli’r glanfeydd
ar gyfer yr ysgraff. Nodwyd
yr angen i lunio cynllun
drafft erbyn Hydref 2019 gyda bwriad o gael cytundeb
terfynol yn ei le erbyn Hydref
2020 yn dilyn cyfnod o ymgynghori.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â’r goblygiadau o beidio mabwysiadu cynllun yn unol ag argymhellion
yr Asiantaeth Forwrol, nodwyd bydd bai ar
Cyngor Gwynedd am beidio cymryd
sylw.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:
·
angen adolygu ac
ymgysylltu gyda deilydd y trwyddedau
·
angen asesu risg pont y
rheilffordd – hyn yn cyfyngu defnydd y ysgraff
·
bod
llwybr / taith ddelfrydol yr ysgraff
yn cael ei
gyfyngu i gyfeiriad y Dwyrain
·
bod cytundeb drafft wedi
ei lunio yn 2017 gyda thrafodaeth am lwybr / taith yr ysgraff – cynnig ail
edrych ar y drafft yma
·
cynnig bod trafodaethau yn
cael eu cynnal gyda gweithredwyr yr ysgraff
Mewn ymateb i sylw
am yr angen i garthu’r Harbwr,
mynegodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod carthu yn broses gymhleth a chostus iawn ac i’r dyfodol, ni
ragwelir y byddai gwaith carthu yn
cael ei wneud
yn Abermaw. Ategodd bod yr Harbwr yn un naturiol
gyda nifer o gyfyngiadau gwarchodaeth natur a gyda hinsawdd
y byd yn newid, mae deinameg
yr Harbwr yn newid a’r
amgylchedd o’i gwmpas.
Mewn ymateb i’r sylwadau,
pwysleisiwyd yr angen i’r Cyngor warchod yr Harbwr
yn Abermaw gan ei fod
yn adnodd gwerthfawr i ddenu
twristiaid i’r ardal ac o fudd economaidd i’r Sir. Cynigiwyd yr angen i wahodd
yr Aelod Cynulliad Dafydd Elis Thomas, Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (etholaeth Dwyfor a Meirionnydd) i’r harbwr i
drafod goblygiadau diffyg buddsoddi yn yr harbwr.
Mewn ymateb, nododd yr Uwch
Reolwr Economi a Chymuned yr angen
i ystyried ymarferoldeb cynllun carthio Abermaw. Ategwyd y byddai angen rhagbaratoi drwy gwblhau asesiadau
amgylcheddol / technegol fyddai yn ddrud
iawn. Os daw cyfleodd bydd rhaid
ystyried pecyn ehangach ac awgrymwyd yr angen i
drefnu gwaith sgopio.
Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol:
·
bod croniad o dywod o fewn
y sianeli – cadw’r sianel yn agored yw’r prif flaenoriaeth
·
nad yw carthio
lleol (localised dredging)
yn ddrud ar raddfa fechan
·
rhaid cynnal a chadw'r Harbwr
·
rhaid ceisio lleihau
problemau rhwng y sianel a wal yr Harbwr
Awgrymwyd i Mr Matrin
Parouty gyflwyno ei sylwadau am waith sgopio i’r
Uwch Reolwr ac i’r Cynghorydd Chris Triggs gyflwyno ei sylwadau ynglŷn
ag anghenion penodol ar gyfer yr
Harbwr.
Cyfeiriwyd at ddigwyddiad
galw heibio, a gafodd ei drefnu
gan Ymgynghoriaeth Gwynedd
(YGC) i rannu gwybodaeth i’r cyhoedd am y Cynllun Lliniaru Llifogydd yn Abermaw (25.3.19). Amlygwyd mai trafod
opsiynau cychwynnol oedd y bwriad fyddai’n
cael i ariannu
gan Lywodraeth Cymru.
Tynnwyd sylw at y materion canlynol,
·
Bod
y gwaith o osod ffens castan wedi
ei ddyrchafu fel blaenoriaeth gyda’r safle wedi
ei baratoi ar gyfer dechrau'r
gwaith 1.4.19
·
Bod
dwy swydd harbwr feistr cynorthwyol
yn cael eu
creu, un i’w leoli yn harbwr
Porthmadog a’r llall yn harbwr
Aberdyfi, gyda chyfrifoldeb i weithio ar draws yr holl harbyrau.
Cefnogaeth dymhorol fydd ar gael
i Abermaw eleni, ond y sefyllfa
i’w adolygu i’r dyfodol.
·
Dosbarthwyd taflen
gyllideb Harbwr Abermaw ac adroddwyd y rhagwelir gorwariant o £22k erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
(b)
Adroddiad yr Harbwr Feistr
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Harbwr
feistr yn manylu ar faterion
mordwyo, gweithredol, cynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y materion canlynol
·
Yn dilyn archwiliad manwl gan weithwyr Network Rail a chontractwyr cysylltiedig o draphont Abermaw adroddwyd bod angen gwneud gwaith cynnal
a chadw angenrheidiol dros y tair blynedd
nesaf. Ategwyd nad oedd amserlen
ar gyfer y gwaith wedi ei
gyhoeddi. Nododd yr Harbwr feistr
bod perthynas dda gyda chwmni Network Rail. Cynigiwyd yr angen i sicrhau
bod cyfathrebu clir yn parhau rhwng
Network Rail a’r Harbwr feistr fel bod diweddariadau a materion dydd i ddydd
yn cael eu
trafod yn amserol.
·
Bod
yr arwyddion diogelwch sydd yn cael eu
harddangos mewn mannau strategol o gwmpas yr Harbwr
yn welliant
·
Dychweliadau tystysgrifau
angori - trefniadau gweinyddol wedi eu tynhau. Hyn
i’w groesawu ac yn welliant sylweddol
Materion i’w hystyried ar gais Aelodau’r Pwyllgor
·
Hen risiau’r ysgraff / grisiau cyhoeddus - gwaith adfer angen ei
wneud
·
Llwyfan heb ei atgyweirio eleni, angen edrych ar
gynlluniau ymarferol - ystyried llwyfan fetel ac nid concrid
·
Byrddau gwybodaeth cyhoeddus wedi ei symud o draeth
Friog. Er nad yn disgyn
o dan gyfrifoldebau’r Harbwr, adroddwyd bod y sefyllfa yn cael
ei adolygu gan Swyddog Traethau.
Nodwyd na fyddai'r byrddau yn cael eu
hailosod erbyn y Pasg. Mewn ymateb,
dadleuwyd yr angen am fyrddau gwybodaeth/ rhybuddion i’r cyhoedd ac awgrymwyd mai Ffordd
y Traeth fuasai’r safle gorau.
·
Parcio yn yr Harbwr – cais
i ystyried llinellau dwbl o’r swyddfa
hyd at y loceri.
·
Yr
angen i glirio'r
compownd. Nid cyfrifoldeb y Cyngor yw'r ardal ac felly amlygwyd pryder gan Cyngor Gwynedd o’r awgrym i osod
sgip ar y safle. Awgrymwyd i ddefnyddwyr y compownd dalu am gael bin gwastraff cwmni masnachol. Cynigiwyd i’r Uwch
Swyddog Harbyrau a’r Harbwr feistr i wneud
ymholiadau pellach.
·
Pontŵn yr
Harbwr - amlygodd bod cyfarfod wedi ei
gynnal i geisio perchnogaeth a gweithrediad ar y cyd o reolaeth y pontŵn. Amlygwyd bod peiriannydd wedi gwneud arolwg o strwythur y pontŵn a bod angen gwariant sylweddol i’w gael
i’r safon briodol. Ategwyd bod gwaith codi arian
yn cael ei
drefnu i dalu am y gwaith cynnal a chadw sylfaenol fel bod y pontŵn yn barod ar gyfer
dechrau’r tymor.
Dogfennau ategol: