I ystyried cais Mr A
(copi arwahan
i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am adnewyddu trwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir y drosedd ac amgylchiadau
personol yr ymgeisydd.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad
·
sylwadau ei gynrychiolydd
/ darpar gyflogwr
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol
Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd yn Rhagfyr 2012 oddi wrth Heddlu
Gogledd Cymru ar un cyhuddiad o fod mewn meddiant delweddau
pornograffig eithafol, yn dangos cyfathrach
rywiol neu ryw geneuol
(oral sex) rhwng person ac anifail,
trosedd yn groes i adran
63(1)(7)(D) o’r
Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008. Adroddwyd nad
oedd gan yr ymgeisydd gollfarnau na rhybuddion eraill.
Ystyriwyd paragraff
2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad
oes rheidrwydd i berson sydd
â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl
iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn
y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded.
Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i
brofi ei fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn cadarnhau
bod “materion eraill i’w hystyried” yn cynnwys rhybuddion.
Amlygwyd bod rhan 7 o’r Polisi yn
cyfarch troseddau rhyw ac anwedduster. Ym mharagraff 7.1, nodir y mabwysiadir agwedd lem tuag
at ymgeiswyr sydd â chollfarnau am droseddau rhyw neu faterion
eraill sy’n gysylltiedig â hynny oherwydd bydd gyrwyr
trwyddedig yn aml yn cludo
teithwyr sy’n teithio ar eu
pen eu hunain ac sy’n ddiamddiffyn. Nodir y bydd cais
fel arfer yn cael ei
wrthod os oes collfarn neu
fater i’w ystyried yn gysylltiedig
â’r troseddau rhyw mwyaf difrifol.
Nodir hefyd y bydd disgwyl i
ymgeiswyr, mewn perthynas â throseddau
rhyw eraill, ddangos cyfnod sylweddol heb unrhyw
gollfarn na
mater i’w ystyried cyn cymeradwyir cais. Er hynny,
er nad yw
paragraff 7.1 yn diffinio beth yw’r
troseddau rhyw mwyaf difrifol mae paragraff 7.2 yn rhestru’r troseddau
mwyaf difrifol sydd yn cynnwys,
ymhlith pethau eraill, meddu ar
ffotograffau anweddus a pornograffi plant ac fe argymhellir gwrthod cais os
oes collfarn neu faterion eraill
i’w hystyried.
Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y rhybudd o 2012 yn ymwneud â throsedd o feddu ar ffotograffau
anweddus, ac felly fe’i hystyriwyd fel mater o drosedd ryw ddifrifol
gyda’r rhagdybiaeth o blaid gwrthod y cais o dan baragraff
7.2.
Adroddwyd bod yr Is-bwyllgor
yn ymwybodol nad yw darpariaethau’r
Polisi yn orfodol a bod modd gwyro oddi wrth
yr argymhellion os yw ffeithiau’r
cais yn cyfiawnhau
hynny ac ystyriaeth arbennig wedi ei
roi i baragraff
5.1 o’r polisi: difrifoldeb y drosedd, ei pherthnasedd, dyddiad cyflawni, dyddiad collfarn, eich oed adeg
collfarnu, y ddedfryd a roddwyd, a oes patrwm o ymddygiad troseddol, yn ogystal
ag unrhyw ffactorau perthnasol eraill.
Prif ystyriaethau yn codi o’r drafodaeth:
Wedi ystyried yr holl
faterion roedd yr Is-bwyllgor o’r farn y gellid
cyfiawnhau gwyro oddi wrth yr
argymhelliad yn y Polisi yn yr
achos yma. O dan yr amgylchiadau,
roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon
bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol i ddal trwydded gyrrwr
cerbyd hacni a hur preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr
i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned
Drwyddedu yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r drwydded.