Rheilffordd
Y Wyddfa, Llanberis
I ystyried
cais yr eiddo uchod
Cofnod:
Ar ran yr eiddo: Mr
Chris Jones
a)
Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Rheilffordd Fynydd yr Wyddfa
Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth
ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei
argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod 3 llythyr wedi ei derbyn yn
gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon y byddai’r gweithgareddau trwyddedig
arfaethedig yn tanseilio dau o’r amcanion trwyddedu - sicrhau diogelwch y
cyhoedd a diogelu rhag niwsans cyhoeddus. Mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau,
amlygwyd bod cyfarfod cyflafareddu wedi ei gynnal ar yr 20fed o Chwefror 2019 er mwyn i’r
gwrthwynebwyr drafod eu pryderon gyda’r ymgeisydd. O ganlyniad, cytunodd yr
ymgeisydd i gyfaddawd sylweddol gan gynnig newidiadau a derbyn amodau newydd ar
y cais. Adroddwyd bod y gwrthwynebwyr bellach wedi derbyn y cais a bod y cais
yn cael ei gyflwyno i’r Is Bwyllgor i gadarnhau'r newidiadau hynny yn ffurfiol.
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau
·
Rhoi cyfle
i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded.
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn unol â’r amodau diwygiedig
1.
Cytunwyd i gyfyngu oriau gwerthiant alcohol yn y Trading Post i 09:00 tan
18:00
2.
Cytunwyd i werthu poteli
cwrw a gwirodydd ‘arbenigol’ yn unig
yn y Trading Post
3.
Cytunwyd i werthu alcohol i’w yfed oddi
ar yr eiddo
Trading Post yn unig.
4.
Dim cerddoriaeth wedi ei recordio
i’w chwarae o’r Trading Post nac y Maes Parcio ar
unrhyw adeg.
5.
Oriau gweithgareddau trwyddedig
ac amodau arfaethedig i aros yr
un fath a’r cais gwreiddiol ar gyfer Caffi
Gorsaf Llanberis a’r Siop Anrhegion
Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor
ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb,
adroddiad y Swyddog Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar cynrychiolydd yr
ymgeisydd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd
hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u
mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o
dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:
i. Atal trosedd ac anhrefn
ii. Atal niwsans cyhoeddus
iii. Sicrhau diogelwch cyhoeddus
iv. Gwarchod plant rhag niwed
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r 3 llythyr a dderbyniwyd
gan drigolion cyfagos yn mynegi pryderon
y byddai’r cais ar ei ffurf wreiddiol yn niweidio’r amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a sicrhau diogelwch
cyhoeddus. Yn gryno, codwyd pryderon y byddai caniatáu’r
cais gwreiddiol yn golygu bod y Trading Post yn benodol,
·
yn agos
at y briffordd, ac felly yn denu mwy o brysurdeb, a fyddai’n arwain at broblem diogelwch cyhoeddus;
·
yn agos
at eiddo preswyl cyfagos, ac felly byddai chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio yn arwain at darfu sŵn, a
fyddai yn ei dro yn achosi problem niwsans cyhoeddus.
Fodd bynnag, yn dilyn y
cyfarfod cyflafareddu, roedd yr ymgeisydd wedi cytuno diwygio’r cais er mwyn
lliniaru’r risg o unrhyw broblemau diogelwch cyhoeddus neu niwsans cyhoeddus a
fyddai’n codi mewn perthynas â’r Trading Post.
Nid
oedd gofyn i’r Is-bwyllgor wneud penderfyniad ar sylwedd sylwadau’r trigolion cyfagos,
gan nad oedd angen hynny ar yr achlysur yma oherwydd canlyniad y cyfarfod cyflafareddu. Derbyniwyd, fodd bynnag, y byddai caniatáu’r drwydded yn unol
â’r cais gwreiddiol wedi gallu arwain at fwy o brysurdeb a sŵn o gwmpas y
Trading Post. Derbyniwyd hefyd mewn egwyddor y gallai’r materion hyn fod wedi
arwain at broblemau o ddiogelwch
cyhoeddus a niwsans cyhoeddus.
O dan yr amgylchiadau ac ar y sail nad oedd y
gwrthwynebiadau yn parhau, roedd yr Is- bwyllgor
yn fodlon bod y cais diwygiedig yn gydnaws a’r amcanion trwyddedu.
Dogfennau ategol: