Adroddiad
gan Iwan Trefor Jones, Cyngor Gwynedd
(ynghlwm).
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Cynllun
Gweithredu fel sail ar gyfer trafodaethau pellach gyda
Llywodraeth
y DU a Llywodraeth Cymru ar gytundeb Penawdau’r Telerau Posib ar gyfer Cynllun
Twf Gogledd Cymru yn ddarostynedig i’r addasiadau isod yn cael eu ymgorffodi yn
y Cynllun:
1. Hyblygrwydd o ran
amerlenu, proffilio gwariant a blaenoriaethu prosiectau yn Rhan 7 o’r Cynllun
Gweithredu ar sail eu haeddfedrwydd a’u fforddiadwyedd.
2. Hyblygrwydd ar y pecyn
cyllideb gan y ddwy Lywodraeth ar gyfer gweithredu’r prosiectau yn y Cynllun
Gweithredu.
3. Ychwanegu amserlen ar
gyfer sefydlu Gorffennaf 2019 fel y dyddiad ar gyfer cytuno Pennawdau’r Telerau i’r naill Lywodraeth.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu fel sail ar gyfer
trafodaethau pellach gyda
Llywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru ar gytundeb Penawdau’r Telerau Posib ar gyfer Cynllun Twf
Gogledd Cymru yn ddarostynedig i’r addasiadau isod yn cael eu ymgorffodi yn y
Cynllun:
1.
Hyblygrwydd o ran amerlenu, proffilio gwariant a
blaenoriaethu prosiectau yn Rhan 7 o’r Cynllun Gweithredu ar sail eu
haeddfedrwydd a’u fforddiadwyedd.
2.
Hyblygrwydd ar y pecyn cyllideb gan y ddwy Lywodraeth ar
gyfer gweithredu’r prosiectau yn y Cynllun Gweithredu.
3.
Ychwanegu amserlen ar gyfer sefydlu Gorffennaf 2019 fel y
dyddiad ar gyfer cytuno Pennawdau’r
Telerau i’r naill Lywodraeth.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
mai pwrpas y Cynllun Gweithredu yw amlygu cynnig y Bwrdd Uchelgais yngyd ag
amlygu cyd-destun ynghyd a gweledigaeth TWF. Mynegwyd fod y ddogfen wedi ei
greu drwy gydweithrediad ac wedi ei gymeradwyo gan y Grŵp Gweithredol.
Ategwyd fod y cynllun yn dod a’r prif faterion at ei gilydd gan gynnwys
amserlen y cynlluniau, cynlluniau busnes amlinellol a threfniadau swyddfa
raglen. Esboniwyd y bydd y Cynllun Gweithredu yn amlygu i Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru fod y cynlluniau yn gyffroes a bod trefn effeithiol yn y
rhanbarth.
Tynnwyd sylw at Wylfa gan nodi fod
y Cynllun yn rhoi ystyriaeth lawn i Wylfa ynghyd a’r camau nesaf fydd angen eu
cymryd. Ychwanegwyd fod rôl busnesau i’w gweld yn y Cynllun yn llawn bellach
gyda Phencampwr o’r Sector Fusnes i’w gweld ym mhob prosiect.
Nodwyd fod y Cynlluniau Busnes
Amlinellol yn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer yr holl brosiectau yn rhan o’r
Cynllun Gweithredu. Nodwyd fod cyfarfod wedi cael ei gynnal wythnos diwethaf
gyda’r Gweithdy Busnes Gogledd Cymru i drafod yr holl brosiect gan nodi’r
deilliannau a phryderon gan amlygu’r cyd-gysylltu a fydd rhwng y Sector Breifat
a’r Bwrdd Uchelgais. Yn ychwanegol at hyn pwysleisiwyd yr angen i symud ymlaen
gyda rhai prosiectau.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd cyfarfod oedd wedi ei gynnal gyda’r Grŵp Cyflawni
Busnes Gogledd Cymru ac amlinellwyd y drafodaeth adeiladol a gafwyd yno.
Mynegwyd fod aelodau’r grŵp yn teimlo yn bositif fod llawer o’r gwaith
wedi ei wneud. Nodwyd fod angen codi momentwm a datblygu cynlluniau, gan nodi
pwysigrwydd datblygu swyddi yn y blynyddoedd cyntaf. Wrth edrych ar y gyllideb,
mynegwyd fod y Grŵp yn hapus fod mwy o arian yn mynd at gyflawni y thema
Safleoedd ac Eiddo. Ategwyd y bydd angen
mwy o arian ar gyfer cyflawni’r thema Digidol. Amlinellwyd fod busnesau
allweddol bellach yn rhan o’r cynllun ac felly roedd y Grŵp yn credu nad oedd angen ail fwrdd ymgynghorol.
Pwysleisiwyd fod gwaith pellach angen ei wneud i gyfathrebu ac adeiladu ar yr
hyder sydd i’w gweld yn y rhanbarth.
-
Ychwanegwyd balchder fod busnesau eisiau bod yn rhan o’r
cynllun, rhywbeth oedd wedi codi pryder ar ddechrau’r cynllun.
-
Trafodwyd yr angen i brosiectau bellach symud yn eu blaenau
er mwyn cadw hygrededd yr holl gynllun. Mynegwyd fod sialensiau am godi ond
angen dangos arweinyddiaeth glir i symud cynlluniau yn eu blaenau. Ychwanegwyd
nad oes angen i bob prosiect symud ar yr un cyflymder, ac fod amserlen y
cynlluniau yn hyblyg ac felly yn gallu datblygu pan fyddant yn barod.
-
Pwysleisiwyd pwysigrwydd i’r Bwrdd Uchelgais roi amserlen i
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno cytundeb Penawdau’r
Telerau erbyn mis Gorffennaf er mwyn sicrhau fod y prosiectau yn cael ei symud
ymlaen gan fod rhai themau megis Trafnidiaeth yn barod am y camau gweithredol.
-
Holwyd os y bydd meini prawf gwrthrychol ar gyfer unrhyw
weithredu/blaenoriaethu prosiectau pellach ac os y bydd cyfle i wahodd achosion
busnes llawn.
-
Holwyd os oes gwaith wedi ei wneud i gysylltu ag adeiladwyr
tai yn uniongyrchol - nodwyd fod cyswllt wedi ei wneud gyda hwy ond fod gwaith
pellach angen ei wneud.
-
Amlygwyd yr angen i symud y Cynllun Gweithredol yn ei blaen,
ac i wneud yn sicrhau fod TWF y Gogledd ar agenda Llywodraeth Cymru.
-
Ychwanegwyd yr angen i fod yn cyfathrebu y gwaith mae TWF yn
ei wneud ymlaen i’r holl aelodau etholedig y rhanbarth fel bod pob un ohonynt
yn ymwybodol o’r Cynllun.
Dogfennau ategol: