skip to main content

Agenda item

(a)       Cyflwyno adroddiad Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

(b)       Cyflwyno adroddiad Rheolwr Harbwr a Hafan Pwllheli.

Cofnod:

(a)       Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod cyfansoddiad y Pwyllgorau Harbwr yn nodi eu haelodaeth a bod gofyn i fudiadau gadarnhau yn flynyddol eu cynrychiolydd ynghyd ag anfon copi o gyfansoddiad a chofnodion cyfarfod blynyddol y mudiadau.

·         Bod Prif Archwiliwr Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau wedi cynnal adolygiad dilynol o drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r Cod Diogelwch Porthladdoedd ar 5-6 Mawrth 2019. O safbwynt Hafan a Harbwr Pwllheli, bod y Prif Archwiliwr wedi nodi’r angen i edrych ar y sianel.

·         Nid oedd unrhyw fater neu achos o bryder wedi ei gyflwyno at sylw’r gwasanaeth gan Aelodau o’r Pwyllgor Harbwr yn gysylltiedig â chyfrifoldebau a dyletswyddau statudol yr Harbwr, yn ystod 2018. Roedd y Cod Diogelwch yn cael ei adolygu ac fe anfonir copi o’r Cod i’r aelodau cyn y cyfarfod nesaf ac mi fyddai ar gael ar wefan y Cyngor.

·         Cyfeiriwyd at grynodeb bras o gyllidebau'r Harbwr a’r Hafan a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Chwefror 2019. Bod perfformiad incwm yr Hafan yn £1,198,506 yn erbyn y targed incwm o £1,351,780, yn galonogol o ystyried y nifer o angorfeydd a oedd heb eu dyrannu. Roedd y cyllidebau ar y cyfan yn bositif gyda’r Hafan yn gwneud gwarged er yr holl waith angenrheidiol a thoriadau i’r cyllidebau.

·         Bod ffioedd a thaliadau 2019/20 wedi eu cyhoeddi yn y llawlyfr ac ar wefan y Cyngor yn Nhachwedd 2018. Er cwrdd â her cyllideb a tharged incwm y gwasanaeth roedd ffioedd Harbwr Pwllheli a’r Hafan yn cynyddu 3% ar gyfartaledd ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Ni fyddai cynnydd yn ffioedd angora yn yr Harbwr Allanol.

·         Bod cynlluniau manwl Grwyn y Crud wedi eu cwblhau a bod yr amcan bris cychwynnol a gyflwynwyd yn rhagweld byddai cost adnewyddu’r grwyn oddeutu £200,000. Roedd gwaith angenrheidiol ar gyfer cyflwyno Trwydded Forol wedi ei gwblhau a’r cais wedi ei gyflwyno i Gyfoeth Naturiol Cymru. Adroddwyd y disgwyliwyd canlyniad y cais cyn 27 Mehefin 2019 a byddai’r cyfnod ymgynghori yn bedwar mis. Eglurwyd ei fod yn hanfodol bod y Cyngor yn cyflwyno cais Trwydded Forol oherwydd bod ôl troed y grwyn yn ymestyn ymhellach na’i ôl troed presennol. Byddai’r Cyngor yn hysbysebu’r gwaith ac yn gwahodd tendrau gan gontractwyr cymwys ar wefan Gwerthwch i Gymru. Rhagwelwyd y byddai gwaith adnewyddu’r grwyn yn cychwyn ym mis Medi 2019.

·         Gwagiwyd y lagŵn distyllu yn ystod misoedd Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019. Cwblheir gwaith i godi uchder y bibell i adael mwy o laid i mewn i’r lagŵn distyllu gan gymryd sampl o’r llaid i mewn ac allan o’r bibell er mwyn gweld faint oedd wedi setlo a faint oedd wedi mynd allan. Roedd angen gwneud gwaith torri tyfiant o amgylch y bwnd cyn cychwyn ar y gwaith carthu ynghyd â gwaith ar y ffens diogelwch.

·         Bod adolygiad hydrograffeg wedi ei gynnal ar 8 Mawrth 2019 ac fe fyddai’r canlyniadau yn cael eu rhyddhau i’r aelodau unwaith derbyniwyd y canlyniadau.

·         Bod cwmni ‘Royal Smals’ wedi eu penodi ar gyfer cynnal gwaith carthu yn y sianel fordwyo ac ym masn yr Hafan/Plas Heli. Byddai’r gwaith yn parhau hyd at 23 Mai 2019. Cost y gwaith byddai oddeutu £130,000 a oedd yn eithaf ffafriol o ystyried y gwaith. Byddai’r carthwr a ddefnyddir gan y cwmni yn golygu y byddai llai o waith symud cychod a ni fyddai angen datgysylltu pontŵn. Roedd y Gwasanaeth wedi adnabod ardaloedd yn yr Harbwr oedd angen eu blaenoriaethu ac fe fyddai’r cwmni yn canolbwyntio ar yr ardaloedd hyn.

·         Bod y domen dywod ger ceg yr Harbwr yn llawn ac nid oedd yn bosibl ymgymryd ag unrhyw waith carthu gan ddefnyddio peiriannau o’r tir hyd fod tywod a gro wedi ei glirio ac wedi ail leoli ar draethau cyfagos Abererch a Charreg y Defaid. Roedd y Cyngor mewn trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru gan ystyried opsiynau posibl. Anfonwyd samplau o’r defnydd i gwmni arbenigol er adnabod a oedd yna unrhyw lygredd yn y tywod, derbyniwyd canlyniadau'r arbrofion a oedd yn nodi bod lefelau hydrocarbon yn uchel yn y defnydd. Casglwyd samplau pellach a derbyniwyd cadarnhad nad oedd y tywod wedi ei lygru ac felly trafodir ymhellach gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

·         Bod angen ystyried y posibilrwydd o ran cymysgu’r llaid yn y bwnd distyllu gyda thywod glan i wneud deunydd adeiladu, gan gymryd i ystyriaeth bod angen lle i wneud y gwaith gyda pheiriannau.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned y derbyniwyd adborth cadarnhaol gan Brif Archwiliwr Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau, ond bod cyfeiriad penodol at y sianel fordwyo a cheg yr harbwr. Ychwanegodd y byddai’r cyfeiriad at y sianel yn cyfrannu at y dystiolaeth o ran effaith a’r pryderon iechyd a diogelwch a fyddai’n bwydo i mewn i drafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau yng nghyswllt y sianel, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod diffyg lled yn sianel fordwyo’r harbwr yn bryder difrifol ac fe adolygir y sefyllfa yn dilyn yr ymgyrch garthu nesaf. Ychwanegodd bod gosod mesurydd llif ar y pontŵn yn opsiwn ond bod rhaid cymryd y costau ynghlwm â gosod teclyn a chynnal a chadw i ystyriaeth. Roedd barn yr arbenigwr yn arf wrth drafod gyda Chyfoeth Naturiol Cymru o ran cyfrifoldebau a gofynion harbwr statudol. Nododd y gobeithir treialu elfennau o waith yn yr harbwr yn dilyn cytundeb gyda Chyfoeth Naturiol Cymru gan atal y gwaith pe byddai unrhyw fater amgylcheddol yn codi.

 

Nododd cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli bod angen bwrw ymlaen gyda’r gwaith carthu yn unol â’r Strategaeth Garthu. Ychwanegodd bod angen codi ymwybyddiaeth morwyr o ran yr amseroedd y dylid bod yn hynod ofalus wrth fordwyo yn y sianel. Cyfeiriodd cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol at galendr Clwb Hwylio Pwllheli gan nodi bod y wybodaeth o ran llanw arno yn ardderchog.

 

Cafwyd trafodaeth bellach am y gwaith carthu yn y sianel fordwyo ac ym masn yr Hafan/Plas Heli, ymatebodd y swyddogion i sylwadau/cwestiynau’r aelodau fel a ganlyn:

·         Bwriedir cwblhau’r gwaith erbyn y Sulgwyn, gobeithiwyd pe byddai amser yn caniatáu treialu gwaith carthu yng Ngheg yr Harbwr gan bwmpio’r gwaddod dros y morglawdd. Nid oedd swyddogion amgylcheddol yn hollol argyhoeddedig ond roedd wir angen gwneud rhywbeth o ran diogelwch;

·         Bod yr harbwr wedi ei leoli tu fewn i Ardal Cadwraeth Pen Llŷn a’r Sarnau. Pe byddai’r gwaith yn cael ei dreialu ei fod yn bwysig y gweithredir yn ofalus heb ddinistrio’r Sarnau amgylcheddol pwysig;

·         O ran y domen dywod, cynhelir trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a oedd yn awyddus i gael deunydd i faethu traeth Abererch.

·         Bod cyfrifoldeb ar y Cyngor i brofi na fyddai’r treial yn creu difrod amgylcheddol;

·         Bod gan y Cyngor fel Awdurdod Harbwr gyfrifoldeb o ran diogelwch gyda’r adroddiad gan Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau yn dystiolaeth o’r angen i wneud y gwaith. Gobeithir y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno i’r treial er mwyn gallu symud gymaint a oedd yn bosib o’r tywod glân o Geg yr Harbwr;

·         Nid oedd y gwaith treialu yn rhan o’r cytundeb gyda’r cwmni ond gobeithiwyd ei wneud yn dilyn y gwaith yn y sianel fordwyo ac ym masn yr Hafan/Plas Heli, am gost ychwanegol;

·         Pe byddai’r gwaith treial yn mynd yn ei flaen, byddai’n rhaid sicrhau diogelwch a safon dŵr ymdrochi Marian y De.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli y byddai’n trosglwyddo’r wybodaeth o ran y sefyllfa carthu i aelodau’r gymdeithas. Ychwanegodd bod aelodau’r gymdeithas yn talu am angorfa yn yr Hafan a’u bod yn disgwyl gallu defnyddio’r Hafan yr un fath a blynyddoedd blaenorol, nid oedd yn rhagweld ymateb da a byddai rhai yn gadael.

 

Mewn ymateb i sylw pellach gan y cynrychiolydd bod trafodaethau o ran y Strategaeth Garthu wedi eu cynnal ers o gwmpas 10 mlynedd, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod prosesau yn cymryd amser gyda gofynion deddfwriaethol amgylcheddol yn trechu gofynion deddfwriaethol eraill.

 

Nododd cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli y byddai’r treial yn ymateb i argyfwng a dylid cwblhau’r gwaith fel gwaith brys cyn yr Haf o dan bwerau’r Cyngor fel Awdurdod Harbwr. Ychwanegodd ei fod yn anodd byw gyda’r sianel yn ei ffurf bresennol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned gellir hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru bod y Pwyllgor oherwydd difrifoldeb y sefyllfa o ran iechyd a diogelwch defnyddwyr, yn nodi y dylai’r Cyngor fel Awdurdod Harbwr wneud gwaith brys cyn yr Haf yng Ngheg yr Harbwr. Mynegodd bod y swyddogion gyda’r un rhwystredigaeth ac aelodau’r Pwyllgor a gobeithir y gellir gwneud gymaint a gellir yng Ngheg yr Harbwr fel rhan o gyfrifoldeb Awdurdod Harbwr.

 

Nododd y Pwyllgor eu cefnogaeth i wneud gwaith ar Geg yr Harbwr fel gwaith brys o dan gyfrifoldebau Awdurdod Harbwr.

 

Holodd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli os oedd y gwaith a fwriedir ei wneud ar Grwyn y Crud yn werth am arian, er bod angen gwneud rhywbeth nid oedd yr ymgynghorydd wedi argymell yr hyn a fwriadwyd. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y gwaith ar Grwyn y Crud yn rhan o’r Strategaeth Garthu ac yn dilyn derbyn tendrau am y gwaith fe asesir y prisiau. Pwysleisiodd ni ellir ei adael yn ei gyflwr presennol.

 

Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli bod cynlluniau ar gyfer Grwyn y Crud yn yr wythdegau i’w wneud yn hirach ond ni allwyd oherwydd pibell dŵr Dŵr Cymru, roedd yn siomedig ni ellir strwythuro Grwyn y Crud yn unol â’r wir angen ond yn awyddus i wneud y gwaith gan adeiladu arno yn y dyfodol. Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol y byddai masnachwyr yn croesawu datrysiad hirdymor neu waith rhannol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod Grwyn y Crud wedi ei ddylunio i warchod ased Dŵr Cymru gan olygu costau ychwanegol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan gynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli yng nghyswllt targed incwm yr Hafan, eglurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod gwir incwm yr Hafan yn deillio o’r holl fusnes yn yr Hafan, megis incwm tanwydd, parcio a lansio a rhenti tir, nid oedd wedi ei gyfyngu i incwm angorfeydd yn unig.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli at ffioedd yr Hafan gan nodi, er bod y ffioedd yn codi yn unol â chwyddiant, bod gwarged elw'r Cyngor yn cynyddu. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod yn deall y ddadl ond bod rhaid dilyn trefn y Cyngor o ran cynyddu ffioedd. Ychwanegodd y derbyniwyd cefnogaeth gan y Cyngor i leihau targed incwm yr Hafan a chodi’r ffioedd llai na chwyddiant.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli bod y ffi ychwanegol ar gwsmeriaid i dalu drwy ddebyd uniongyrchol yn eu cosbi. Ychwanegodd y dylid ystyried y ffi ychwanegol, roedd rhaid ystyried fforddiadwyedd cost o’r fath i gwsmeriaid, fe ddylid gwobrwyo cwsmeriaid yn hytrach na’u cosbi. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ystyrir y ffi ychwanegol fel rhan o’r adolygiad i’r drefn ffioedd ac y gobeithiwyd unioni’r ffioedd erbyn 2020/21.

 

Rhoddwyd diweddariad ar weithgareddau ym Mhlas Heli gan gynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli. Nodwyd y cynhelir y gystadleuaeth gyntaf o’r tymor ym Mis Mai a bod dyddiadau yn eu lle hyd at 2023, gan gynnwys Pencampwriaeth Ieuenctid y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) yn 2020. Eglurwyd bod newidiadau staffio wedi bod yn heriol ond eu bod yn fodlon goroesi. Nodwyd bod y digwyddiadau a gynhelir ym Mhlas Heli yn dod a phobl i’r ardal.

 

Cyfeiriodd aelod at ardal y bwnd distyllu gan nodi ei fod wedi derbyn cwynion gan drigolion o ran ei ymddangosiad a’i fod angen ei dacluso. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y bwriedir gofyn am amcan bris i dynnu’r ffens a gosod ffens wyrdd a fyddai’n ysgafn i’r llygad. Ychwanegodd bod trigolion wedi bod yn amyneddgar a bwriadwyd gwneud y gwaith yn ystod Gaeaf 2019.

 

 

Nododd aelod bod mwy o ddŵr yn hel ar y llwybrau newydd ar yr ynys a bod angen i’r contractwyr ddychwelyd. Diolchodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i’r aelod am dynnu’r mater i’w sylw.

 

(b)     Cyflwynodd Rheolwr Hafan a Harbwr Pwllheli adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar faterion yr harbwr yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2018 a mis Mawrth 2019, gan gynnwys materion gweithredol, staffio ac ystadegau blynyddol yr Harbwr/Hafan. Tynnodd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Byddai Rhybudd i Forwyr yn weithredol o 25 Mawrth 2019 yng nghyswllt y gwaith carthu a thynnir sylw morwyr at ddiffyg lled y sianel yn ardal mynedfa’r harbwr. Rhagwelwyd y byddai’r sefyllfa’n gwella ar ôl cwblhau’r gwaith carthu rhaglenedig yn 2019;

·         Bod rhestr gwaith cynnal a chadw 2018/19 wedi ei gynnwys yn y rhaglen. Gofynnwyd i aelodau’r Pwyllgor hysbysu’r Gwasanaeth o unrhyw waith arall y dylid ystyried ei gynnwys yn y rhaglen waith;

·         Bod pwmp tanwydd petrol gyda chyfleuster hunanwasanaeth wedi ei archebu ar gyfer Cei Petrol yr Hafan. Gobeithiwyd y byddai’r pwmp petrol newydd yn weithredol erbyn mis Ebrill yn dilyn oedi byr gyda’r gwaith papur;

·         Bod cyfanswm o 11 aelod o staff yn yr Hafan/Harbwr gan gynnwys un swyddog diogelwch dros nos o ‘Draig Security’. Byddai swyddog tymhorol y gweinydd tanwydd yn cychwyn ym mis Ebrill;

·         Bod ystadegau’r Hafan a’r Harbwr ar gyfer 2018/19 wedi eu cynnwys yn y rhaglen;

·         O fis Ebrill 2019, byddai system gyfrifo Hafan Pwllheli yn cael ei drosglwyddo a'i ganoli yn adran incwm y Cyngor, byddai pob anfoneb yn y dyfodol e.e. ar gyfer angori, yn cael ei chodi a'i hanfon o'r adran hon. Byddai’r holl daliadau angori, gan gynnwys Debyd Uniongyrchol, yn mynd i’r Cyngor yn uniongyrchol. Disgwylir hefyd y byddai cwsmeriaid yn gallu talu ar-lein am wasanaethau yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli at y nifer o gychod blynyddol gan nodi bod 14 cwch yn llai yn 2018 o gymharu â’r nifer yn 2017. Nododd bod y gostyngiad yn golygu colled incwm sylweddol i’r Cyngor a holodd beth oedd y ffigyrau diweddaraf ar gyfer 2019. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Hafan a Harbwr Pwllheli oherwydd oedi mewn anfon y cytundebau angori ar gyfer 2019, nid oedd cyfanswm nifer deiliaid yr angorfeydd ar gael ond roedd 140 cytundeb ar gyfer yr Hafan a 20 cytundeb ar gyfer yr Harbwr Allanol wedi eu derbyn. Ymhelaethodd y gobeithiwyd y byddai gwell syniad o’r niferoedd erbyn diwedd y mis.

 

Nododd cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli bod cais wedi ei gyflwyno trwy’r Cyngor o ran gwella’r teimlad a thirlunio ym maes parcio’r lan môr a’r cei ynghyd â gwella’r draeniad. Ymhelaethodd y byddai’r polyn fflag yn cael ei symud i fynedfa Plas Heli i wella’r lliw a’i fod yn falch bod y gwaith yn cael ei wneud. 

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiadau.

Dogfennau ategol: