Agenda item

I ystyried cais  Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr i ymhelaethu ar y cais a chynnig eglurhad am y drosedd. Gan nad oedd gan yr ymgeisydd bellach yr hawl i fudd-dal na chredyd pensiwn roedd angen swydd arno. Ategodd y darpar gyflogwr bod ganddo swydd 16 awr ar gyfer yr ymgeisydd a'i fod yn ymddiried ynddo i gyflawni’r gwaith, wedi ei adnabod ers dros 50 mlynedd.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         sylwadau ei ddarpar gyflogwr

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru (Tachwedd  2017) am gyhuddiad o dwyll gan nad oedd hysbysu newid amgylchiadau fyddai yn effeithio ar ei hawl  i fudd-dal (Chwefror 2014). Roedd y drosedd yn groes i adran 111A(1A) Deddf Gweinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1992 a derbyniodd yr ymgeisydd ddirwyo £180.00 a gorchymyn i dalu costau o £85.00 a gordal dioddefwr o £30.00. Amlygwyd nad oedd ganddo gollfarnau na rhybuddion pellach

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt          wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Ystyriwyd paragraff 8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd. Mae  paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei wrthod, neu drwydded bresennol yn cael ei hatal neu ei dirymu os bydd collfarn yn erbyn yr ymgeisydd / deilydd y drwydded am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill, twyll budd-dal.

 

Prif ystyriaethau yn codi o’r drafodaeth:

·         Dim ond un gollfarn oedd gan yr ymgeisydd

·         Roedd y drosedd o dwyll budd-dal yn ymweld yn disgyn ar waelod y sbectrwm o ddifrifoldeb (oherwydd natur a swm y gosb). Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei sefyllfa o fethu â datgan bod ei wraig yn derbyn tâl gan gymydog oedrannus am gymorth o amgylch y cartref. Nid oedd tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi gwneud budd ariannol sylweddol o ganlyniad i gyflawni’r drosedd. Mae’r ddedfryd cymharol isel a dderbyniodd am y gollfarn (dirwy, yn hytrach na charchar) yn cadarnhau barn yr Is-bwyllgor nad oedd y drosedd ymhlith yr achosion mwyaf difrifol o dwyll.

·         Bod lefel uchel o ymddiriedaeth yn y gymuned tuag at yr ymgeisydd

·         Bod ei ddarpar gyflogwr, yn awyddus iddo ymuno a’i gwmni i wneud gwaith gyrru tacsi.

 

Wedi ystyried yr holl faterion roedd yr Is-bwyllgor o’r farn y gellid cyfiawnhau gwyro oddi wrth yr argymhelliad yn y Polisi yn yr achos yma. O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hur preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned Drwyddedu yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r drwydded