skip to main content

Agenda item

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol ag adroddiad trwydded gyrru'r ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd pob sefyllfa yn fanwl yn eu tro. Ategodd ei gyflogwr ei fod yn adnabod yr ymgeisydd yn dda a’i fod yn yrrwr da, yn berson cydwybodol a dibynadwy.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gyflogwr o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor  Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         sylwadau llafar a gyflwynodd ei gyflogwr yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad trwydded gyrru yr ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Ym mis Mai 2017, derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb ar ei drwydded gyrru am dramgwyddo gofynion ynghylch rheoli cerbyd, ffonau symudol ac ati (y pwyntiau hyn yn dod i ben Mai 2019) Ystyriwyd 6 pwynt ychwanegol a dderbyniodd ym mis Medi 2017 am dramgwyddo gofynion ynghylch rheoli cerbyd, ffonau symudol ac ati (y pwyntiau hyn yn dod i ben Medi 2020). Yn mis Rhagfyr 2017 derbyniodd yr ymgeisydd 3 pwynt cosb arall am dorri terfyn cyflymder ar ffordd gyhoeddus (y pwyntiau hyn yn dod i ben Rhagfyr 2020). Nid oedd gan yr ymgeisydd gollfarnau, rhybuddion nac arnodiadau pellach.

 

Ystyriwyd paragraff 2.3 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r bod ‘materion eraill i’w hystyriedyn cynnwyshysbysiadau cosb benodedig neu hysbysiadau cosb eraill’. 

 

      Ystyriwyd paragraff 12.2 sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi.

 

Ystyriwyd paragraff 13.1 sydd yn nodi y caiff troseddau traffig eraill sydd heb eu rhestru yn y polisi yn cael eu trin felmân droseddau traffig’. Mae’r paragraff hefyd yn ddryslyd, yn  cyfeirio at ‘mân drosedd gyrrufel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb. Er hynny, argymhellir bod rhaid i unrhyw drosedd sydd yn denu mwy nag 3 pwynt cosb, a heb ei gynnwys ym mharagraff 12.2, gael ei gyflwyno / ystyried felmân drosedd traffig’.

 

Mae paragraff 13.3 yn nodi y gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i’w ystyried arwain at wrthod cais, yn enwedig os oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried ar gyfer yr un drosedd.

 

Gan fod yr ymgeisydd eisoes yn ddeilydd trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat, fe ystyriodd yr Is Bwyllgor amod 6 o’i drwydded bresennol. Mae’r amod yn nodi bod gofyn i yrrwr hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu ar ôl derbyn collfarn am unrhyw drosedd dan ddeddfwriaeth traffig. Os canfyddir bod tor-amod, gall paragraff 17.1 o’r Polisi fod yn berthnasol lle amlinellir na fydd cais fel rheol yn cael ei ganiatáu oni bai bod 12 mis wedi mynd heibio ers yr achos mwyaf diweddar o hynny.

 

Prif ystyriaethau yn codi o’r drafodaeth:

·         Bu i’r Is Bwyllgor sefydlu bod yr arnodiadau gyrru, er yn fater o bryder, ddim yn cyrraedd trothwy gwrthod y cais.

 

·         Ni ystyriwyd y troseddau fel troseddau traffig difrifol gan nad ydynt wedi eu rhestru ym mharagraff 12.2 o’r polisife’u hystyriwyd fel mân droseddau traffig.

 

 

·         Daeth yr Is Bwyllgor i’r canlyniad bod mwy nag un mater i’w ystyried am yr un drosedd, sef Mai 2016 a Medi 2017 ac felly yn amlygu’r angen i ystyried paragraff 13.3. Fodd bynnag, yn wahanol i ddarpariaethau eraill y Polisi, nid yw paragraff 13.3 yn gosod rhagdybiaeth o blaid gwrthod ac yn hytrach mae'n cynghori mae’n bosibl(yn hytrach na ddylai) fod gwrthodiad. O ganlyniad i ddiffyg arweiniad, ni chafodd yr Is-bwyllgor ei darbwyllo bod achos dros wrthod yn deillio o’r mater yma.

 

·         Yn dilyn cadarnhad gan yr ymgeisydd mai dirwy drwy rybudd cosb benodedig a phwyntiau yn unig a dderbyniodd mewn perthynas â’r arnodiadau (ac nid collfarn droseddol), nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod amod 6 o’r drwydded gyrru cerbyd hacni a hurio preifat, yn dechnegol wedi ei dorri. Er hynny, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn, fel ymarfer da, y dylid adrodd ar unrhyw fater ac argymhellwyd, bod yr ymgeisydd yn hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu o unrhyw arnodiadau i’r dyfodol.

 

·         O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hur preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy      lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned Drwyddedu yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r     drwydded.