Agenda item

Mae atodiad ar wahân ar gyfer aelodau’r Pwyllgor yn unig.

 

Mae’r atodiad yn eithriedig o dan Baragraff 12 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn ag unigolyn penodol.

 

Mae’r atodiad i’r adroddiad yn son am faterion yn ymwneud a chyflogaeth aelodau a staff penodol, eu hamodau gwaith a thrafodaethau ynglŷn â’r materion yma sydd yn eu hanfod yn gyfrinachol

 

Penderfyniad:

a)    Yn amodol ar (b), cytuno gydag asesiad y Prif Weithredwr fod y strwythur rheolaethol a ddangoswyd yn Atodiadau 1 i 10 yn addas i bwrpas.

b)    Cytuno i leihau’r nifer uwch o swyddi o fewn y Cyngor o 40 i 37 fel y nodir yng nghymalau 61, 62 a 64 yr adroddiad gan arbed isafswm o £211,000 yn flynyddol. 

c)    Gan nodi’r gofynion ym mharagraff 95 o’r adroddiad, cytuno i greu Adran Tai ac Eiddo newydd er mwyn ein galluogi i roi mwy o ffocws ar gyflawni ein Strategaeth Tai a gofyn i’r Prif Weithredwr ail edrych ar sefyllfa Ymgynghoriaeth Gwynedd er mwyn gweld a oes modd arall o wireddu’r amcanion a nodir yn yr adroddiad o ran strwythur rheolaethol ac arbedion effeithlonrwydd pellach. 

ch)  Nodi’r man newidiadau pellach y bwriedi’r eu gweithredu fel y’u hamlinellir yng  nghymalau 76-88 yr adroddiad sy’n cynnwys symud rheolaeth adeiladu i’r adran Amgylchedd er mwyn iddo fod yn agosach at Cynllunio.

d)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol addasu Cynllun Dirprwyo’r Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau wrth iddynt ddod yn weithredol.

 

Cofnod:

PENDERFYNIAD

 

a)    Yn amodol ar (b), cytuno gydag asesiad y Prif Weithredwr fod y strwythur rheolaethol a ddangoswyd yn Atodiadau 1 i 10 yn addas i bwrpas.

b)    Cytuno i leihau’r nifer uwch o swyddi o fewn y Cyngor o 40 i 37 fel y nodir yng nghymalau 61, 62 a 64 yr adroddiad gan arbed isafswm o £211,000 yn flynyddol. 

c)    Gan nodi’r gofynion ym mharagraff 95 o’r adroddiad, cytuno i greu Adran Tai ac Eiddo newydd er mwyn ein galluogi i roi mwy o ffocws ar gyflawni ein Strategaeth Tai a gofyn i’r Prif Weithredwr ail edrych ar sefyllfa Ymgynghoriaeth Gwynedd er mwyn gweld a oes modd arall o wireddu’r amcanion a nodir yn yr adroddiad o ran strwythur rheolaethol ac arbedion effeithlonrwydd pellach. 

ch)  Nodi’r man newidiadau pellach y bwriedi’r eu gweithredu fel y’u hamlinellir yng nghymalau 76-88 yr adroddiad sy’n cynnwys symud rheolaeth adeiladu i’r adran Amgylchedd er mwyn iddo fod yn agosach at Cynllunio.

d)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol addasu Cynllun Dirprwyo’r Cyngor i adlewyrchu’r newidiadau wrth iddynt ddod yn weithredol.

 

 

TRAFODAETH

 

 Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y mater wedi codi yn dilyn trafodaeth a gynhaliwyd y llynedd wrth ystyried toriadau i wasanaethau. Mynegwyd fod y drafodaeth wedi codi’r cwestiwn os yw’r drefn reolaethol yn un cywir. Ategwyd fod cyhoedd yn aml yn holi faint o reolwyr ac uwch-reolwyr sydd gan y Cyngor ac os yw’r niferoedd yn gywir. Mynegwyd fod y Cabinet wedi comisiynu’r Prif Weithredwr i adolygu’r drefn reolaethol.

 

Tynnwyd sylw at y drefn a ddilynwyd o adolygu’r strwythur bresennol gyda Phenaethiaid, lle cafodd yr Aelodau Cabinet a'r Cadeiryddion ac Is Gadeiryddion Craffu y cyfle i glywed y gwaith herio. Ychwanegwyd fod Rhaglen Ffordd Gwynedd wedi amlygu’r angen am fod yn gliriach ynglŷn â rolau swyddi penodol o fewn y sefydliad, gan amlygu rôl gyda phwyslais gwahanol ac aeddfetach ar gyfer rheolwyr. Ychwanegwyd fod y Prif Weithredwr wedi iddo weld y darlun cychwynnol o strwythurau adrannol wedi dod i’r casgliad fod nifer o swyddi oedd yn dwyn teitl “rheolwr” wedi esblygu dros amser, ac nad oedd oeddent yn arddel swydd rheolwr fel yr oedd yn cael ei ddisgrifio yn y swydd ddisgrifiad diiwygiedig ar gyfer rheolwyr. Ymhelaethwyd drwy nodi fod gwaith herio wedi ei wneud a bellach mae’r nifer o swyddi wedi newid eu teitlau i wneud yn glir nad rheolwyr yn unol â’r diffiniad yw’r swyddi yma. O ganlyniad i hyn, ychwanegwyd, fod y nifer o reolwyr bellach wedi disgyn o 235 i  111.

 

Edrychwyd yn bellach ar stwythur rheolaethol Uwch Swyddogion gan holi os oes gormod o Uwch Reolwyr. Mynegwyd o edrych dros Gymru mai dim ond 5 Cyngor arall sydd a llai o swyddi Penaethiaid a Chyfarwyddwyr na 12. Ychwanegwyd fod gan y Cyngor 43 o swyddi ar lefel Uwch Reolwr neu uwch yn 1996 ac fod y nifer wedi gostwn erbyn 2004 i 40. Holwyd y cwestiwn os yw’r nifer yn parahu i fod yn rhy uchel, nodwyd mai mater o farn a fyddai hyn.

 

Tynnwyd sylw at rai awgymiadau a oedd o ganlyniad i’r adolygiad. Awgrymwyd y byddai yn bosib gwneud gyda gostynigiad o 4 Uwch Swyddogion yn bendol yn yr yr Adran Amgylchedd, Priffyrdd a Bwrdeistrefol, Ymgynghorieth Gwynedd ac Cefnogaeth Gorfforaethol. Codwyd pryder am y Gwasanaeth Darparu yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gan nodi fod bwriad i ddatrys y sefyllfa.

 

Tynnwyd y sylw at adolygiad Ffordd Gwynedd sydd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd yn y Maes Cynllunio a Rheolaeth Adeiladu. Mynegwyd er nad oes canlynaidu i’r adolygiad eto mae ymdeimlad yn ymddangos y byddai maneision i dirigolion Gwynedd os y buasai’r ddau wasanaeth yn nes at ei gilydd. Awgrymwyd yn ogystal, er fod Ymgynghriaeth Gwynedd yn uned ar wahan o ganlyniad i’w gogwydd masnachol, y byddai modd trosglwyddo’r adran ar holl swyddogethau i adain o fewn yr Adran Amgylchedd o dan Bennaeth Cynorthwyol.  

 

Gyda blaenoriaeth y mae’r Cabinet yn dymuno ei roi i’r Sategaeth Tai, nododd y Prif Weithredwr nad oedd yn credu fod modd rhoi digon o ffocws os yw wedi ei leoli o fewn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, sydd yn barod yn ceisio rhoi sylw i faterion mawr sydd yn wynebu'r maes Gofal.  Ar sail hyn, argymhellwyd y dylid sefydlu Adran Tai ac Eiddo. Ychwanegwyd fod man faterion eraill mewn adrannau amrywiol lle byddent efallai yn gorwedd yn well mewn adrannau gwahanol a byddai trafodaeth bellach ar y rhain gyda’r Penaethiaid Adran berthnasol yn cael eu cynnal cyn gweithredu

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd eu bod yn cytuno a rhan helaeth o’r adroddiad ond mynegodd rhai aelodau efallai nad oedd yn syniad droeth i symud yr uned fasnachol Ymgynghoriaeth Gwynedd o dan yr Adran Amgylchedd, gan y byddai efallai yn ormod o newid mewn cyfnod byr iawn o amser. Ychwanegwyd o ganlyniad i’r gogwydd masnachol yn yr adran Ymgynghoriaeth, sydd â throsiant o tua £4miliwn y flwyddyn, fod y meddylfryd yn yr Adran angen bod yn wahanol i weddill y Cyngor.

¾     Holwyd os na fydda’i Ymgynghoriaeth yn mynd yn adain o dan yr Adran Amgylchedd beth fydda’i canlyniadau peidio a gwneud hyn. Mynegwyd mai y prif newid yw y buasai 10 adran yn hyrtrach na 9 a buasai nifer yr Uwch Swyddogion, os yn dilyn gweddill argymhellion yr adroddiad, yn lleihau i 37 yn hytrach na 36. Ychwanegwyd y byddai cadw’r ddwy adran ar wahan yn lleihau’r risg i’r Cyngor ond y byddai maint yr arbediad yn lleiahau o £297,000 i oddeudtu £221,000.

¾     Mynegwyd fod yr Adran Ymgynghoriaeth yn sicrhau fod swyddi o safon uchel ar gael yn y Cyngor sydd yn ogystal yn creu elw i’r Cyngor. Nodwyd pryderon o golli’r arbenigedd ac yr elw os yn cael rhoi fel adain o dan adran arall. Ategwyd fod yr adran yn arwain ar faes pwysig ar yn o bryd sef Newid Hisawdd a nodwyd risg o ddisodli tim da.

¾     Mynegwyd fod newid y strwythur o fewn adrannau i dair swyddogaeth - Pennaeth, Rheolwr ac Aelod Staff yn ei gwneud yn llawer yn fwy clir.

¾     Mynegwyd balchder o greu adran Tai ac Eiddo a fydd yn pwyslesio uchelgais y cyngor i roi cartrefi i bawb.

¾     Cytunwyd a’r syniad o symud rheolaeth adeiladu i’r adran Amgylchedd o’r Adran Ymgynghoriaeth.

¾     Cytunwyd ar welliant i’r argymhellion er mwyn cadw’r Adran Ymgynghoriaeth yn adran ar ben ei hun ond gofyn i’r Prif Weithredwr ail edrych ar sefyllfa er mwyn gweld a oes modd arall o wireddu’r amcanion a nodir yn yr adroddiad o ran strwythur rheolaethol ac arbedion effeithlonrwydd pellach

Awdur:Dilwyn Williams

Dogfennau ategol: