I ystyried
cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a
rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Nododd bod y
troseddau yn deillio o un digwyddiad pan oedd yn ifanc a ffol ac iddo dderbyn
dirwy sylweddol am ei ffolineb. Ategodd ei fod yn gweithio fel gyrrwr i gwmni
lleol a bod y cwmni hwnnw wedi cynnig swydd iddo gel gyrrwr hanci / hurio
preifat petai ei gais yn cael ei ganiatau.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
sylwadau
llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad trwydded gyrru yr
ymgeisydd a ddarparwyd gan Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Derbyniodd
yr ymgeisydd gollfarn yn Nhachwedd 2010 oddi wrth Lys Ynadon Caernarfon am
gyfres o droseddau Dwys gipiodd gerbyd
gan achosi damwain a difrod i eiddo yn groes i adran 12A, Deddf Lladrata 1968.
Derbyniodd ddirwy o £85, gorchymyn i dalu costau o £85 ac iawndal o £1,400, a'i
wahardd o yrru am 12 mis. Ar yr un achlysur cafodd ei gyhuddo o yrru cerbyd heb
yswiriant, yn groes i adran 143(2) Deddf Traffig Ffyrdd 1988 lle cafodd ddirwy
o £85 ac arnodiad ar ei drwydded gyrru. Cafodd hefyd ei gyhuddo o yrru’n groes
i amodau trwydded gyrru, yn groes i’r Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 adran 87 (i)
lle derbyniodd ddirwy o £15 ac arnodiad pellach ar ei drwydded gyrru.
Derbyniodd
yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am dorri terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus
ym Mehefin 2016.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i
berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael
trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod
priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas
a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn
berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn
cadarnhau bod “materion eraill i’w hystyried” yn cynnwys rhybuddion.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r
Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Ystyriwyd paragraff
12.2 sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y
troseddau mae IN10 (defnyddio cerbyd sydd heb ei yswirio yn erbyn risgiau
trydydd parti), LC20 (gyrru yn groes i amodau trwydded gyrru) a UT50 (dwys
gipio cerbyd). Nodir ym mharagraff 12.4 y byddai cais fel arfer yn cael ei
wrthod os yw’r ymgeisydd wedi cyflawni trosedd traffig difrifol o fewn y 5 mlynedd diwethaf ac ni ddylid
ystyried unrhyw gais pellach hyd nes bod cyfnod o 3 blynedd o leiaf wedi mynd
heibio o fod yn rhydd rhag collfarnau.
Ystyriwyd paragraffau
12.6 i 12.11 sydd yn trafod gwahardd rhag gyrru. Nodir ym mharagraff 12.10 y
bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd gollfarn sy'n
arwain at waharddiad o 12 mis neu fwy, oni bai bod cyfnod o 18 mis wedi mynd
heibio o ddiwedd y cyfnod gwahardd.
Ystyriwyd paragraff
13.1 sydd yn nodi ‘mân droseddau traffig’, fel trosedd sydd yn derbyn rhwng 1 a
3 pwynt cosb. Mae paragraff 13.2 yn nodi na fyddai collfarn neu fater arall i’w
ystyried am fân drosedd traffig yn debygol o arwain at wrthod cais.
Daeth yr Is bwyllgor
i’r casgliad bod troseddau Tachwedd 2010 yn droseddau traffig difrifol. Fodd
bynnag, gan fod y troseddau hyn wedi digwydd dros 5 mlynedd yn ôl, nid oedd
paragraff 12.4 yn berthnasol ac felly, yr Is bwyllgor yn fodlon nad oedd hyn yn
sail i wrthod y cais. O ystyried bod un o’r troseddau wedi arwain at waharddiad
gyrru, amlygwyd bod y drwydded wedi ei hadfer yn Nhachwedd 2011. O ganlyniad,
nid oedd paragraff 12.10 yn berthnasol gan fod cyfnod o 18 mis wedi mynd
heibio. Yn ychwanegol, ystyriwyd bod y digwyddiad o oryrru yn 2016 yn
berthnasol i fân drosedd traffig ac wrth ystyried paragraff 13.2 o’r Polisi,
nid oedd yr Is bwyllgor o’r farn y dylai’r drosedd yma ffurfio sail i wrthod y
cais.
O dan yr amgylchiadau, roedd yr
Is-bwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hur preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned
Drwyddedu yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r drwydded.