Agenda item

2, MITRE PLACE, PWLLHELI, LL53 5HE

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

Ar ran yr eiddo:                     Mr Fatih Yilmaz a Mrs Mary Yilmaz

                                               

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer 2, Mitre Place, Pwllheli. Gwaned y cais mewn perthynas â darparu bwyd poeth fel lluniaeth hwyr yn nos i’w fwyta ar ac oddi ar yr eiddo. Amlygwyd bod perchnogion yr eiddo wedi dal trwydded eiddo gyda Chyngor Gwynedd ers 2005. Nodwyd bod trwydded eiddo gwerthu bwyd poeth gan yr eiddo yn y gorffennol ac nad yw’r oriau a nodwyd ar y cais yn wahanol i’r hyn a oedd wedi ei nodi ar y drwydded honno.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod 2 lythyr wedi ei derbyn yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon y byddai’r gweithgareddau trwyddedig arfaethedig yn tanseilio dau o’r amcanion trwyddedu - atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac anrhefn. Amlygwyd bod e-bost hwyr wedi ei dderbyn gan y Gwasanaeth Tân, ond nid oeddynt yn gwrthwynebu’r cais.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeiswyr ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. Amlygwyd bod deilydd y drwydded flaenorol wedi ildio’r drwydded yn ystod y cyfnod roedd yr ymgeiswyr yn prynu’r eiddo

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Ei bod yn byw yn lleol ac yn manteisio ar y cyfle i brynu eiddo ei hunain

·         Mai ail leoli'r busnes oeddynt o stryd gyfagos

·         Bod ganddynt brofiad o redeg busnes

·         Cadarnhawyd y byddai Teledu Cylch Cyfyng ar gael

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ychwanegu drws cefn i’r eiddo nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda chymdogion a bod cynlluniau ar y gweill i ymestyn y to, cael drws ar gefn yr adeilad ac i ail ddylunio y tu mewn. Nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn ag ail gofrestru’r adeilad gan ei fod wedi cau ers dwy flynedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryderon sbwriel a threfniadau casglu gwastraff, nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r dafarn gerllaw i geisio safle storio biniau. Nodwyd mai trafodaethau ar lafar oedd wedi eu cynnal ond bod disgwyl cadarnhad ffurfiol o’r drafodaeth ar e-bost. O ran cadw dalgylch y siop yn daclus, nodwyd y byddai’r gweithwyr yn casglu sbwriel o gwmpas yr eiddo ar ôl i’r siop gau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â goruchwylwyr drysau amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cymhwyso fel SIA a bod ganddo flynyddoedd o brofiad. Nodwyd nad oedd trafferthion wedi bod ar eu heiddo presennol ac awgrymwyd, petai’r heddlu angen mwy o oruchwyliaeth buasai’r sylw wedi ei nodi ganddynt. Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Mr Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

 

c)            Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog          Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd yn y gwrandawiad.   Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl         ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y        Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

i.     Atal trosedd ac anhrefn

ii.   Atal niwsans cyhoeddus

iii.  Sicrhau diogelwch cyhoeddus

iv.  Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais 

 

1.    Oriau agor: Lluniau 11:00-01:00, Gwener-Sadwrn 11:00-02:00, Sul 11:00-01:00 gydag estyniad i 02:00 ar Sul cyn Llun Gŵyl Banc.

2.    Lluniaeth Hwyr Nos i’w fwyta tu mewn a thu allan: Llun-Iau 11:00-01:00, Gwener-Sadwrn 11:00-02:00, Sul 11:00-01:00 gydag estyniad i 02:00 ar Sul cyn Llun Gwyl Banc.

3.    Ymgorfforir y materion a restrir yn yr Atodlen Weithredol fel amodau ar y drwydded.

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r 2 lythyr a dderbyniwyd gan berchnogion busnesau lleol yn mynegi pryderon bod dalgylch yr eiddo ar hyn o bryd yn dioddef o broblemau yn ymwneud â sbwriel, pobl yn pasio dŵr yn y stryd, sŵn hwyr yn y nos a throseddau trefn gyhoeddus. Dadleuai’r gwrthwynebwyr y byddai rhoi’r drwydded yn arwain at gynnydd yn amledd y problemau hyn.

Nid oedd yr Is bwyllgor yn diystyru’r posibilrwydd bod problemau yn ymwneud â sbwriel, pasio dŵr yn y stryd a sŵn hwyr nos yn bodoli, naill ai gyda’i gilydd neu yn unigol, yn gallu arwain, mewn egwyddor, at niwsans cyhoeddus. Yn yr un modd, derbyniwyd y gallai troseddau trefn gyhoeddus fod wedi digwydd ac yn berthnasol i’r amcan o atal trosedd ac anhrefn. Fodd bynnag, ni ddaeth tystiolaeth i law o ran y nifer, amledd, dwysedd, dyddiadau ac amserau’r digwyddiadau y honnir sydd wedi digwydd na’r cynnydd arfaethedig pe caniateir trwydded. O ganlyniad, nid oedd yr Is-bwyllgor a’r gallu i benderfynu os yw’r problemau, mewn gwirionedd, yn cyrraedd y trothwy o danseilio niwsans cyhoeddus neu drosedd ac anhrefn, nac ychwaith a fyddai rhoi’r drwydded yn arwain at gyrraedd y trothwy.

Nododd yr Is-bwyllgor nad oedd Adran Iechyd Amgylcheddol y Cyngor (o ran sbwriel, pasio dŵr neu sŵn) na’r Heddlu (o ran troseddu) wedi cyflwyno unrhyw sylwadau ar y  cais. Awgrymai hyn yn gryf nad yw’r problemau yn rai difrifol. Nid oedd yr Is bwyllgor wedi ei berswadio ar y dystiolaeth bod rhoi’r drwydded yn tanseilio’r amcanion o atal niwsans cyhoeddus neu atal trosedd ac anhrefn, ac felly yn fodlon bod y cais yn gydnaws ar amcanion trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw

 

Dogfennau ategol: