Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad yn amlinellu’r prif
negeseuon am berfformiad gwasanaethau cymdeithasol fydd yn cael eu hamlygu yn
yr adroddiad blynyddol maes o law, yn ogystal â rhoi amlinelliad o’r prif
heriau a rhaglenni trawsffurfio ar gyfer 2019/20.
Eglurodd y Cyfarwyddwr:-
·
y byddai’r adroddiad blynyddol ar gael yn ei ffurf
orffenedig ym mis Gorffennaf ac y byddai’n cael ei gylchredeg i holl aelodau’r
Cyngor.
·
oherwydd ymrwymiadau
personol, na fyddai’n bosib’ iddi ddod i’r Cyngor llawn ym mis Gorffennaf i
gyflwyno’r adroddiad, felly eleni roedd adroddiad cynnar lefel uchel yn cael ei
gyflwyno i’r cyfarfod hwn o’r Cyngor.
Manteisiodd y
Cyfarwyddwr ar y cyfle i ddiolch i’r holl staff, yn fewnol ac allanol, am eu
gwaith diflino ac ymroddedig eto eleni.
Diolchodd i Marian Parry Hughes (Pennaeth Plant a Theuluoedd) ac Aled
Davies (Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant) am eu gwaith ymroddgar a
gwerthfawr drwy gydol y flwyddyn.
Diolchodd hefyd i’r craffwyr am eu mewnbwn ac i’r Aelodau Cabinet yn y
maes gofal, y Cynghorwyr W.Gareth Roberts a Dilwyn Morgan am eu cefnogaeth dros
y flwyddyn. Nododd hefyd ei bod yn
edrych ymlaen at weithio gyda’r Cynghorydd Dafydd Meurig, oedd wedi cymryd
drosodd y portffolio oedolion, iechyd a llesiant.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Croesawyd yr adroddiad a nodwyd bod y gyfres o glipiau
fideo ar Hafan y Sêr, Hafod y Gest, Plas Hafan a Go Dementia, a ddangoswyd fel
rhan o’r cyflwyniad, wedi dod â gwaith y gwasanaeth i fyw i’r aelodau.
·
Nodwyd bod y ddarpariaeth wedi’i drawsffurfio yn y blynyddoedd
diwethaf a chroesawyd nifer o gynlluniau newydd ac arloesol, megis tai gofal
ychwanegol Hafod y Gest, y cynllun peilot ym Methesda ar gyfer trawsnewid gofal
cartref a Mwy na Geiriau. Cyfeiriwyd yn
benodol at Hafan y Sêr, a nodwyd y dylid ymfalchïo ynddo, fel yr unig
ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gyfer plant a phobl ifanc anabl, gan
ledaenu’r neges ar draws Cymru i ddangos beth sy’n bosib’.
·
Awgrymwyd y dylai pob
aelod fynd i ymweld â chartrefi henoed yn eu hardal er mwyn gweld y gwaith arbennig
sy’n cael ei wneud gan y staff.
·
Gofynnwyd am gynnwys
adran yn yr adroddiad blynyddol llawn ynglŷn â’r hyn oedd yn digwydd o ran
gwasanaethau ar gyfer unigolion ag awtistiaeth.
Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol, nodwyd:-
·
Bod y cynnydd yn niferoedd plant mewn gofal yn
adlewyrchu ein cymdeithas a’r heriau roedd llawer o’r plant a’r teuluoedd yn
wynebu. Dyna pam bod y gwaith ataliol
a’r ymyrraeth gynnar mor allweddol fel bod modd cynnig y gefnogaeth yma i
deuluoedd a phlant, drwy weithio gyda’r ysgolion, ayb, yn y ffordd fwyaf addas
i atal problemau rhag dwysau. Roedd
disgwyliadau wedi cynyddu yn sgil y gwaith o godi ymwybyddiaeth pobl o faterion
diogelu ac roedd y ffaith bod yna blant mewn gofal bellach yn parhau i fyw
gartref gyda’u rhieni wedi cyfrannu at y cynnydd yn y niferoedd hefyd.
·
Ei bod wedi mynd yn
beth cyffredin i glywed am gwmnïau gofal annibynnol preifat yn mynd i
drafferthion ariannol, felly roedd yn bwysig cloriannu beth oedd y farchnad
gofal mwyaf addas i Wynedd. Gan fod gennym
ddarpariaeth fewnol a llawer o ddarpariaethau wedi tyfu yng Ngwynedd, boed
hynny’n annibynnol, trydydd sector neu breifat, nid oedd y Cyngor hwn mor
ddibynnol ar y cwmnïau mawr ag yr oedd rhai siroedd eraill. Ond, roedd rhaid bod yn glir beth oedd y gofyn
o’r sector gofal, mapio’r gofyn hwnnw ar y cyd â hwy a gwneud yn siŵr bod
y ddarpariaeth, boed yn fewnol neu’n allanol, yn cael ei ariannu, fel ei bod yn
bosib’ iddo weithio’n iawn. O bosib’ nad
oedd yr eglurder wedi bod yn ddigonol dros y blynyddoedd, ond roedd yn rhaid
i’r Cyngor gael darpariaeth gynaliadwy ac o safon wrth symud ymlaen. Roedd gwaith yn digwydd yn rhanbarthol ac yn
lleol ar hynny i wneud yn siŵr bod y balans yn iawn, ond roedd gan y Cyngor
benderfyniadau anodd i’w gwneud mewn hinsawdd ariannol heriol.
·
Mai un o’r anawsterau
mwyaf o ran y maes ‘Mwy na Geiriau’ oedd sut i gael ein darpariaethau allanol,
annibynnol i gydymffurfio’n llawn â’r gofynion.
Er y disgwyliad arnynt, ac er bod yna drafodaethau digon adeiladol wedi digwydd
dros y blynyddoedd, nid oeddent wedi bod yn derbyn cefnogaeth ddigonol o ran
sut i fynd ati i wella’r ddarpariaeth ieithyddol. Bellach, roedd y Cyngor yn eu cefnogi’n
llawer mwy rhagweithiol o ran sut i fynd ati i lunio polisïau, recriwtio’n
wahanol a chreu amgylchedd llawer mwy Cymreig o fewn eu cartrefi.
·
Er mai staff o’r gymuned oedd yn cynnal y gofal yn yr
Hafod y Gest newydd, nad oedd yna unrhyw fwriad i dynnu oddi ar y gymuned. Fel tenantiaid, y model gofal mwyaf addas ar
gyfer trigolion Hafod y Gest oedd gofal cartref, ac felly, yn hytrach na chael
un tîm yn yr adeilad a thîm arall yn y gymuned, penderfynwyd sefydlu un tîm,
oedd yn gallu cyd-drafod a chyd flaenoriaethu’r gwaith. Credid y byddai’r trefniant hwn yn cryfhau’r
gymuned a’r tai gofal ychwanegol, ond cytunodd y Cyfarwyddwr i fynd â’r sylw yn
ôl i’r timau fel y gellid darparu gwybodaeth mewn ymgais i fodloni’r aelod nad
oedd yna risg a bod hyn yn rhywbeth i’r gwasanaeth ei fonitro wrth i amser fynd
yn ei flaen.
·
Bod yna lawer wedi digwydd yn y maes dementia o ran
buddsoddi mewn cartrefi a chydweithio gyda’r Bwrdd Iechyd o safbwynt sicrhau
darpariaeth di-dor a gwell. Gellid anfon
gwybodaeth at yr aelod o ran datblygiadau yn Nolgellau a Bermo yn benodol, ond
roedd y broses yn ymwneud â cheisio gwneud y ddarpariaeth adeiladau yn llawer
mwy addas i bobl â dementia, ac yna edrych sut y gellid cael staff addas gyda’r
sgiliau, ayb, i gyd-fynd â’r buddsoddiad hwnnw.
·
Mewn ymateb i awgrym
bod lle i wella’r trefniadau newydd ar gyfer cysylltu â’r Gwasanaethau
Cymdeithasol y tu allan i oriau, cynigiodd y Cyfarwyddwr ei bod yn cael sgwrs
gyda’r aelod er mwyn gweld beth oedd ei brofiad o ffonio i mewn.
Dogfennau ategol: