I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am
gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod yr holl
ddigwyddiadau yn rhan o’i orffennol ac erbyn hyn gyda pherthynas dda gyda'i gyn
bartner a’i fod yn gweithio yn galed i gefnogi ei blant.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
b)
PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd, ar hyn o bryd,
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
sylwadau
llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad
·
geirda
a dderbyniodd gan ei ddarpar gyflogwr
·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
Derbyniodd
yr ymgeisydd gollfarn yn Awst 2012 gan Lys Ynadon Gwynedd am drosedd o
ddinistrio eiddo yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Cafodd orchymyn i
dalu iawndal o £300 a chostau o £85. Yn Rhagfyr 2012 cafodd ei ddyfarnu yn euog
gan Lys Ynadon Gwynedd ar ddau gyhuddiad o guro. Derbyniodd orchymyn atal,
gorchymyn cymunedol am 18 mis a chostau o £200. Yn mis Hydref 2013 cafodd ei
ddyfarnu yn euog am beidio â chydymffurfio gyda gofynion y gorchymyn cymunedol
yn groes i ofynion Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003. Derbyniodd ddirwy o £50 a
gorchymyn i dalu £50 o gostau.
ch) Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â
chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu
beidio.
Mae paragraff 6 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais ac fe nodir ym mharagraff 6.5 o’r Polisi y
bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater
i’w ystyried am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y
cais. Mae'r paragraff yn rhestru troseddau o ddifrod troseddol a throseddau o
ymosodiadau cyffredin. Mae paragraff 6.6 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod
os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd o
fewn y 10 mlynedd diwethaf.
Mae paragraff 16.1 o
bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r
polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo. O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd
heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.
d) Rhoddodd yr Is bwyllgor ystyriaeth benodol i’r
materion canlynol
Daeth yr Is bwyllgor i benderfyniad bod troseddau 2012 yn droseddau o
drais. Gan fod y troseddau hyn wedi digwydd llai na 10 mlynedd yn ôl
rhagdybiwyd yr angen i wrthod y cais o dan baragraffau 6.6 a 16.1 o’r Polisi.
Nid yw darpariaethau’r Polisi yn orfodol a gellid gwyro oddi arnynt os gellid
cyfiawnhau ffeithiau’r achos. Er mwyn ystyried y posibilrwydd o wyro rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw arbennig i bwyntiau bwled paragraff 5.1 o’r
polisi sydd yn cynnwys difrifoldeb,
perthnasedd, dyddiad y comisiwn, dyddiad euogfarn, oedran yr ymgeisydd yn amser
euogfarn, y ddedfryd a roddwyd, os oes patrwm o droseddu, yn ogystal ag unrhyw
ffactorau perthnasol eraill.
Ystyriwyd bod
troseddau 2012 wedi deillio o ddigwyddiadau domestig gyda chyn partner yr
ymgeisydd. Amlygwyd bod y collfarnau oddeutu 6 – 7 oed a’r Polisi'n nodi'n glir
y dylai 10 mlynedd fod wedi mynd heibio. Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn y byddai
gadael y Polisi yn gynamserol ac o ganlyniad nid
oeddynt yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol, ar hyn o bryd, i
ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd