I ystyried cais gan Mr B
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am
gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Rhoddodd eglurhad llawn am y
pwyntiau cosb a gafodd ar ei drwydded. Amlygodd ei gyflogwr bod collfarnau 1991
a 1998 wedi cael ystyriaethau llawn mewn is-bwyllgor
blaenorol lle caniatawyd cais yr ymgeisydd am drwydded. Ategodd bod yr
ymgeisydd yn yrrwr da ac roedd yn canmol ei waith.
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gyflogwr o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar, a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y
gwrandawiad
·
sylwadau llafar a gyflwynodd ei gyflogwr yn ystod y
gwrandawiad
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r
datganiad DBS ac adroddiad trwydded gyrru'r ymgeisydd a ddarparwyd gan
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn yn Ebrill 1991 gan Lys y Goron Caernarfon
ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol yn groes i adran 47 o Ddeddf Troseddau yn
Erbyn y Person 1861. Cafodd orchymyn cymunedol o 100 awr a gorchymyn i dalu
£100 o iawndal a £124 o gostau. Yn mis Hydref 1998 derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon
Bangor am ddwyn gan ei gyflogai yn groes i adran 1 o’r Ddeddf Dwyn 1968. Cafodd
ddirwy o £350 a gorchymyn i dalu £30 o gostau. Yn Mehefin 2015 gwnaed honiad
gan Gyngor Gwynedd ei fod wedi gweithredu fel gyrrwr hacni heb fod a thrwydded
gyfredol (trosedd yn groes i adran 47 o Ddeddf Cymalau Heddlu’r Dref 1847).
Honnwyd hefyd nad oedd ganddo esgus rhesymol dros beidio â dangos ei drwydded
gyrrwr cerbyd hacni ar gais swyddog awdurdodedig o’r Cyngor (trosedd yn groes i
adran 53 i’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976). Yn dilyn
ymholiadau pellach gan yr Uned Trwyddedu nid oedd gan yr ymgeisydd drwydded
gyrru mewn grym. O ganlyniad, cyflwynodd y Cyngor erlyniad yn ei erbyn yn Llys
Ynadon Caernarfon. Fodd bynnag, yn dilyn pryderon gan yr amddiffyniad o ran
derbynioldeb tystiolaeth yr erlyniad, cytunodd y Cyngor i dynnu’r erlyniad yn
ôl heb i’r mater fynd i dreial.
Yn mis Gorffennaf 2016 derbyniodd yr ymgeisydd 6
pwynt cosb am drosedd MS90 (methu darparu gwybodaeth am hunaniaeth gyrrwr) – amlygwyd
bod y pwyntiau hyn yn dod i ben Gorffennaf 2019.
Nodwyd yn adroddiad y Swyddog Trwyddedu bod swyddogion yr Uned Trwyddedu
wedi amau bod yr ymgeisydd wedi parhau i yrru cerbyd tacsi ar ôl y dyddiad y
daeth ei drwydded i ben (6.3.19) Er hynny, ni chyflwynwyd manylion am y
digwyddiad (amser, lleoliad a disgrifiad o’r hyn a welwyd).
ch) Ystyriwyd paragraff 2.2 o
Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am
drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod
yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a
dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae
cyfrifoldeb ar ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn nodi bod “materion eraill
i’w hystyried” yn cynnwys ymhlith eraill hysbysiadau cosb benodedig, torri
amodau trwyddedu, a chyhuddiadau.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt
wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff 6 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais ac fe nodir ym mharagraff 6.5 o’r Polisi y bydd
cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w
ystyried am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
Mae'r paragraff yn rhestru troseddau sydd yn cynnwys, ymhlith eraill, ymosodiad
sy’n achosi gwir niwed corfforol.
Mae paragraff 8 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau anonestrwydd a pharagraff 8.2 yn nodi byddai cais
yn cael ei wrthod fel rheol os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am drosedd sydd yn
cael ei gynnwys yn y paragraff ac sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.
Mae'r
paragraff yn rhestru ymhlith materion eraill troseddau sydd yn ymwneud a
lladrata.
Ystyriwyd paragraff
12.2 sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae
MS90 - methu darparu gwybodaeth am hunaniaeth gyrrwr yn cael ei gynnwys. Nodir ym mharagraff 12.3 y byddai cais fel
arfer yn cael ei wrthod os yw’r
ymgeisydd wedi cyflawni trosedd traffig difrifol unigol ac nad
ydyw wedi bod yn rhydd o gollfarn am o leiaf 6 mis.
Mae paragraff 16.1
o bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid
sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i
gilydd efallai yn creu hanes o ail droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les
eraill ac eiddo. O dan y Polisi rhaid
bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.
Mae paragraff 17.0
o’r Polisi yn ymdrin â thorri deddf, is ddeddf neu amod trwydded gyda
pharagraff 17.1 o’r Polisi yn nodi y byddai’n annhebygol rhoi trwydded i
ymgeisydd os oes collfarn am drosedd oni bai bod cyfnod o 12 mis wedi mynd
heibio ers y gollfarn ddiweddaraf.
Ystyriwyd amod 6 o
amodau trwydded gyrru cerbyd hacni a hurio preifat, lle nodi’r bod gofyn i
yrrwr hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu ar ôl derbyn collfarn am unrhyw drosedd dan
ddeddfwriaeth traffig. Os canfyddir bod tor amod, gall paragraff 17.1 o’r
Polisi fod yn berthnasol lle amlinellir na fydd cais fel rheol yn cael ei
ganiatáu oni bai bod 12 mis wedi mynd heibio ers yr achos mwyaf diweddar o
hynny.
d) Rhoddodd yr Is bwyllgor ystyriaeth benodol i’r
materion canlynol
Ystyriwyd bod
collfarn 1991 yn ymwneud a throsedd o drais. Gyda’r drosedd wedi digwydd bron i
28 mlynedd yn ôl roedd yr is bwyllgor o’r farn na
ddylai’r gollfarn fod yn sail i wrthod y cais. Yr un
oedd y penderfyniad ar gyfer collfarn 1998 oedd yn ymwneud ag anonestrwydd.
Roedd y gollfarn eto yn un hanesyddol ac yn unol â
pharagraff 8.2 o’r polisi nid oedd yn sail i wrthod y cais.
Yn dilyn
trafodaeth bellach ynglŷn â digwyddiad Mehefin 2015, amlygodd y Cyfreithiwr
bod yr ymgeisydd wedi ei ganfod yn ddieuog gan Lys Ynadon Caernarfon o’r
troseddau honedig hyn. Ategwyd bod yr ymgeisydd, yn dilyn yr erlyniad, wedi bod
gerbron Is bwyllgor ym Mawrth 2016, a bod yr is
bwyllgor ar yr achlysur hwnnw wedi caniatáu’r drwydded gan anwybyddu’r
digwyddiad gan iddo gael ei ganfod yn ddieuog. Ni chafodd y digwyddiad ei
ystyried at ddibenion y cais hwn chwaith.
Wrth drafod y pwyntiau gyrru a gronnwyd yn 2016, fe’i hystyriwyd fel troseddau
moduro difrifol, ond gan nad oedd tystiolaeth bod yr
ymgeisydd wedi derbyn collfarn o ganlyniad i’r troseddau, nid oedd yr is
bwyllgor yn fodlon bod toriad i amod 6. Yn ogystal, roedd y pwyntiau gyrru wedi
cronni dros 2 flynedd yn ôl ac felly o ystyried paragraff 12.3 ni ddylai fod yn
sail i wrthod y cais.
Wrth ystyried
amheuaeth y swyddogion trwyddedu fod yr ymgeisydd yn gyrru tacsi heb drwydded,
cynghorodd y cyfreithiwr nad oedd amheuaeth
gyffredinol yn ddigonol o dan y polisi - rhaid cael tystiolaeth o ddigwyddiad
unigol lle adnabyddir toriad o ddeddfwriaeth benodol. O ganlyniad diystyriwyd y
digwyddiad.
Er bod pob
collfarn wedi ei ystyried yn unigol, bu rhaid i’r is-bwyllgor ei hystyried
gyda’i gilydd, o dan baragraff 16.1. Penderfynodd yr Is
bwyllgor nad oedd collfarnau 1991 a 1998, gyda’i gilydd, yn dangos hanes o
aildroseddu oedd yn dangos diffyg parch at les eraill neu at eiddo. Fodd
bynnag, gyda’r gollfarn ddiweddaraf wedi digwydd dros 10 mlynedd yn ôl, nid
oedd paragraff 16.1 yn dod i rym.
O dan yr
amgylchiadau, roedd yr is bwyllgor yn fodlon bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hur
preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned
Drwyddedu yn cysylltu i gadarnhau dogfennau’r drwydded.