AELOD CABINET:
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
I ystyried yr adroddiad blynyddol
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Dyfrig Siencyn yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf gan
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Atgoffwyd yr aelodau bod y
Bwrdd wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth fyddai’n gwella llesiant economaidd,
amgylcheddol a diwylliannol y ddwy sir.
Adroddwyd bod y Bwrdd yn derbyn yr angen i ganolbwyntio
ar yr hyn y gellid ei gyflawni yn yr hinsawdd sydd ohoni gan fod adnoddau’r
corff cyhoeddus o dan bwysau a bygythiadau pellach mewn arbedion. Er hynny,
drwy gydweithio gellid manteisio ac
adnabod cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd gwahanol a chyflwyno dulliau arloesol o
weithredu.
Rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn
y chwe maes blaenoriaeth.
Adroddwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn
destun craffu gan Bwyllgor Craffu /
Sgriwtini dynodedig awdurdodau lleol Gwynedd ac Ynys Môn ac y byddai panel
craffu ar y cyd rhwng y ddwy sir yn cael ei ddatblygu i graffu’r gwaith. Nodwyd
bod swyddogion craffu Cyngor
Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn trafod camau gweithredu allweddol mewn
perthynas â’r opsiwn o sefydlu panel ar y cyd yn ystod y misoedd nesaf.
Roedd yr Aelod Cabinet yn hyderus yng ngwaith y
Bwrdd ac yn adrodd bod ymdeimlad o ymddiriedaeth ymysg Partneriaethau ac awydd
a brwdfrydedd o fod eisiau llwyddo. Diolchodd i bawb am eu cyfraniad.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diffyg
adnoddau i wireddu’r amcanion ynghyd a cholli grantiau yn sgil Brexit, nododd
yr Aelod Cabinet, er yr angen i ddefnyddio arian presennol, drwy rannu a
chydweithio gellid llwyddo ar y cyd. Ategodd bod Llywodraeth Cymru eu hunain
mewn sefyllfa anarferol o orfod gosod cyllidebau heb wybod beth fydd eu
cyfraniad. Er i’r sefyllfa fod yn un ddryslyd, rhaid dyheu am y gorau gan ddarganfod ffordd well, arloesol o
weithio.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Newid Hinsawdd – mynegwyd siom mai adweithiol oedd y
gwaith yng nghyd-destun llifogydd yn hytrach nag arloesol ac uchelgeisiol.
·
A oes dyhead i gydweithio gyda’r Asiantaethau Tai
Cymdeithasol o ran adeiladu tai / cartrefi carbon isel
·
Angen ystyried dulliau rhad o adeiladu a chynnal tai
– e.e., ynni isel, ynni haul, gwres daear, fyddai yn sicrhau arbedion i’r
dyfodol ac elfen fforddiadwy i’r tenant
·
Cartrefi ar gyfer Pobl Leol – rhaid adnabod
safleoedd yn y llefydd cywir a bod y cartrefi yn ymateb i’r angen
·
Bod angen manylion mesuryddion a cherrig milltir ar
y prosiectau ynghyd a gosod amserlen gadarn yn hytrach na nodi tymor byr,
canolog, hir
·
Angen cydnabod ac ymateb i faterion tlodi – posib
ystyried banciau bwyd
·
Angen ail asesu niferoedd / anghenion tai yn sgil
oediad Cynllun Wylfa Newydd
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r
berthynas gyda Llywodraeth Cymru a gallu'r Bwrdd i ddylanwadu ar addasu polisïau i gyflawni
newid, nododd yr Aelod Cabinet bod y bartneriaeth yn cynrychioli nifer o gyrff
cyhoeddus ac felly petai barn neu sylw angen ei fynegi, byddai pwysau ar hynny.
Derbyniwyd mai anodd fyddai cael dylanwad ar bolisïau ond angen sicrhau bod y
negeseuon yn cael eu rhannu. Ategwyd bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn
cymryd diddordeb yn y gwaith ond eto, dim gyda grym efallai i addasu polisïau.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r elfen
economaidd, nododd nad oedd yr economi wedi ei adnabod fel un o feysydd gwaith
y Bwrdd gan mai Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru fydd yn gwneud hyn ar draws y
Gogledd..
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gyda chais am
ddiweddariad ar ddatblygiadau’r bartneriaeth bob 6 mis.
Dogfennau ategol: