Agenda item

AELOD CABINET: Cynghorydd Catrin Wager

 

I ystyried adroddiad yr Ymchwiliad Craffu

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu Gorfodaeth Gwastraff i’r Aelod Cabinet Catrin Wager. Atgoffwyd pawb beth oedd cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd Stephen Churchman, Cadeirydd yr ymchwiliad.

 

Ategodd yr Aelod Cabinet ei diolch i’r aelodau am eu hymchwiliad trylwyr a’r gwaith ymgysylltu da a wnaed gyda gwahanol grwpiau o bobl. Cydnabuwyd bod yr adroddiad yn adlewyrchiad teg o’r gwaith a croesawodd yr angen i ymgymryd ag ymgyrch hyrwyddo sirol i godi ymwybyddiaeth o’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu. Amlygodd nad oedd bwriad dechrau dirwyo pawb ar unwaith a chreu incwm o gyflwyno pwerau Adran 46 a 47 o’r Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990). Pwysleisiodd y byddai pob achos yn cael ei drin fel achos unigol a cyfeiriodd ar y Siart Lif oedd yn amlinellu’r camau gweithredu.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod angen asesu pob sefyllfa yn unigol

·         Awgrym defnyddio bagiau duon / plastig clir ar strydoedd trafferthus fel bod y strydoedd yn lan a chlir ar ôl casgliadau

·         Pwysig sefydlu trefn a chadw at newidiadau

·         Croesawu’r casgliadau arbennig - pwysig bod urddas a pharch yn cael ei ystyried

·         Croesawu’r bwriad o siarad efo unigolion i ddatrys y problemau - nifer o strydoedd bach, cul, grisiau, diffyg storfa yn creu problemau i rai

·         Bod casglwyr sbwriel yn gadael llanast - nid yw yn adlewyrchiad da ein bod yn colli gwastraff rydym yn ei gasglu!

·         Angen sicrhau bod y casglwyr yn cau drysau’r lori wrth gasglu

·         Bod cynnydd mewn defnydd o drigolion yn defnyddio biniau cyhoeddus i waredu eu sbwriel

·         Angen cosbi cwmnïau sydd yn cynhyrchu plastig

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Cadeirydd yr ymchwiliad bod y gweithgor wedi derbyn nad oedd yr un trefniant yn gweithio i bawb ac felly ceisiwyd yr argymhelliad i gyd weithio gydag adrannau eraill megis Tai ac Amgylchedd (Cynllunio)  i geisio datrysiadau. Ategwyd bod y Gwasanaeth hefyd wedi adolygu eu trefniadau casglu gwastraff gyda’r gobaith y bydd arferion a diwylliant yn newid o ganlyniad. Y gobaith yw y bydd staff yn cadw at yr un teithiau gan ymgyfarwyddo gydag anghenion ac arferion pobl. Nodwyd bod y newidiadau yn dechrau yn Nwyfor (Gorffennaf 2019)

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn y 6 argymhelliad ynghyd ac ychwanegu argymhelliad i weithwyr y gwasanaeth casglu weithredu yn briodol fel nad yw gwastraff yn dianc allan o’r cerbydau.

 

PENDERFYNWYD

·         diolch i’r gweithgor am adroddiad trylwyr

·         derbyn y chwe argymhelliad oedd wedi ei cynnwys yn yr adroddiad

 

1.    Defnyddio pwerau Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) Adrannau 46 a 47 sy’n ymwneud a chynhwysyddion gwastraff i gyflwyno trefn newydd lle a phryd a bo’r angen, i ddirwyo trigolion a busnesau sy’n gwaredu eu gwastraff ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd  anghywir fel mater o flaenoriaeth. 

 

2.    Ymgymryd ag ymgyrch hyrwyddo sirol i godi ymwybyddiaeth o’r trefniadau gwastraff ac ailgylchu gyda ffocws penodol ar Ddinas Bangor a chydnabod y gwahaniaethau daearyddol a demograffig yn y sir ar wahanol adegau o’r flwyddyn.

 

3.    Gosod sticeri “QR code” ar gynhwysyddion ailgylchu er mwyn darparu mynediad 24 awr i drigolion at eu diwrnodau casglu gwastraff ac ailgylchu a gwybodaeth am eitemau y gellir eu hailgylchu.

 

4.    Ffurfioli trefniadau cydweithio rhwng Adrannau’r Cyngor.

 

5.    Cynyddu ymwybyddiaeth o’r Gwasanaeth Casgliadau Clinigol a’r Gwasanaeth Casglu Arbennig sydd ar gael i helpu pobl hŷn a phobl anabl i waredu eu gwastraff.  Bydd modd gwneud hyn fel rhan o’r ymgyrch hyrwyddo ehangach. 

 

6.    Hyrwyddo rhwydwaith presennol o Ganolfannau Ailgylchu a chynnal ymgyrch benodol ar gyfer y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus.

 

·         cynnwys argymhelliad ychwanegol a gynigiwyd gan aelodau’r Pwyllgor

 

7.    I weithwyr y gwasanaeth casglu weithredu yn briodol fel nad yw gwastraff yn dianc allan o’r cerbydau

 

·         cyflwyno adroddiad cynnydd ar weithredu’r argymhellion ymhen 6 mis yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet ar yr argymhelliad cyntaf (gweler 1. uchod)

 

Dogfennau ategol: