Cyflwynir yr adorddiad hwn er mwyn rhoi cefndir i aelodau’r Pwyllgor am waith a blaenoriaethau cyfredol y fenter.
Cofnod:
Mewn ymateb i gais y Cadeirydd cyflwynwyd diweddariad ar waith
Hunaniaith, gan amlinellu llwyddiannau, gwersi a ddysgwyd, a chymryd y cyfle i
godi ymwybyddiaeth yr Aelodau o’r gwaith.
Trosolwg o waith 2018-19
Adroddwyd fod
2018-19 wedi bod yn flwyddyn dda o ran parhau i ddatblygu rhai partneriaethau
allweddol, megis gyda Chymraeg i Blant a Grŵp Llandrillo Menai, a’i bod yn
ymddangos bod y buddsoddiad amser i gyd-gynllunio a chydweithio yn dechrau
talu.
Yn ogystal, nodwyd
bod y cydweithio ar draws y Mentrau Iaith yn gyffredinol wedi datblygu
ymhellach, gyda Mentrau Iaith Cymru (y sefydliad ambarél sy’n cefnogi gwaith y
mentrau ar draws Cymru) yn arwain at sawl prosiect cenedlaethol. Mae cyfleoedd hefyd ar gyfer mwy o gydweithio
rhwng mentrau iaith rhanbarth y Gogledd yn y dyfodol.
Cafwyd
dau gyflwyniad gan y Swyddogion Iaith:
Blynyddoedd
Cynnar
Esboniwyd fod seminarau wedi eu cynnal er mwyn arfogi gweithlu’r
blynyddoedd cynnar a darparwyr gweithgareddau gyda’r wybodaeth i fynd a’r neges
am werth dwyieithrwydd at deuluoedd.
Nodwyd fod yr adborth o’r seminarau wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac er
na lwyddwyd i ddenu rhai o’r busnesau a mudiadau sy’n darparu gweithgareddau
teuluol oedd wedi eu targedu, teimlai’r Swyddog bod y digwyddiadau wedi bod yn
llwyddiant, ac y bwriedir parhau i gydweithio gyda Chymraeg i Blant a
Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar y Cyngor ar ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Targedu Pobl Ifanc oedran 15+:
Cynhaliwyd cynhadledd i bobl ifanc i drafod gwerth y Gymraeg fel sgil ar
gyfer byd gwaith, gan gyflwyno arfer da a modelau rôl o feysydd proffesiynol a
galwedigaethol. Nod y gynadle oedd annog
pobl ifanc i feddwl am eu dewisiadau gyrfaol gan roi sylw penodol i ystyried y
Gymraeg yn eu dewisiadau.
Cynhaliwyd y gynhadledd ar y cyd gyda swyddogion Grŵp Llandrillo
Menai, a chanolbwyntiwyd ar fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai gyda sectorau
Adeiladwaith, Gwallt a Harddwch a Lletygarwch a Thwristiaeth. Cafwyd adborth da
a chytunwyd bod cynnwys y sesiynau yn fuddiol a phriodol ond bod angen ambell
fireiniad megis symleiddio geirfa, a chynnwys llai o gwestiynau agored, fel modd
i hwyluso cyfranogiad a thrafodaethau.
Cynhaliwyd cyfarfod cloriannu ar ôl y digwyddiadau a chytundeb ymysg y
swyddogion bod y gynhadledd wedi llwyddo o ran y trefniadau a chynnwys, er bod
angen ambell fireiniad a man addasiadau os am gynnal digwyddiad tebyg yn y
dyfodol. Un pryder a fynegwyd oedd y
trafferthion a gafwyd wrth ennyn diddordeb ac ymrwymiad tiwtoriaid y grŵp.
Mynegodd yr Aelodau siom yn hyn, gan nodi awydd i gymryd camau
pellach. Nododd Swyddog Datblygu
Iaith Gwynedd ei bod am ysgrifennu yn swyddogol at Grŵp Llandrillo Menai i
rannu’r adborth ar werthusiad am y cynadleddau er mwyn rhannu’r pryderon.
Cynigodd Aelod y pwyllgor
y byddai yn fodlon ysgrifennu llythyr at Grŵp Llandrillo Menai, ar ran y
pwyllgor.
Derbyniwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau godi cwestiynau cyffredinol am waith
Hunaniaith, gofynnwyd yr Aelodau sut roedd Hunaniaith yn dewis yr ardaloedd i
dargedu. Mewn ymateb, nodwyd bod yr
ardaloedd oedd wedi derbyn sylw dros y tair blynedd ddiwethaf wedi eu dewis yn
bennaf ar sail data’r cyfrifiad ac argymhellion gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod angen edrych ar ffynonellau data
eraill, megis y Siarter Iaith, er mwyn gwneud penderfyniadau am le i dargedu yn
y dyfodol.
Cymraeg Byd Busnes
Cyflwynwyd y wybodaeth gan Swyddog Datblygu Iaith Gwynedd ar ran Paul
Carrol Jones (Byd Busnes).
Un o’r prosiectau
mae Menter Iaith Cymru (MIC) yn gyfrifol amdanynt ar lefel genedlaethol yw
prosiect Cymraeg Byd Busnes.
Nod y prosiect yw:
• Cynnig cefnogaeth a chyngor i fusnesau ar eu defnydd o’r Gymraeg.
• Gwasanaeth rhad ac am ddim.
• Wedi ei deilwra yn bennaf at fusnesau bach a chanolig a busnesau micro.
Esboniwyd y gallai
busnesau bach yng Nghymru ofyn am gymorth gyda chyfathrebu, archebu nwyddau,
llunio gwefannau a chysylltu gyda’r cyfyngau cymdeithasol trwy gyfrwng y
Gymraeg. Esboniwyd hefyd fod cefnogaeth
ar gael i hysbysebu a recriwtio staff ac y gellid cael darpariaeth cyfieithu am
ddim.
PENDERFYNWYD:
Dogfennau ategol: