Dymchwel tŷ presennol ac
adeiladu gwesty 12 lloft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a
newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porth-dy
presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig
AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter
Garlick
Cofnod:
Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 llofft
(3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa
bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porthdy presennol fod yn ddefnydd
atodol i'r gwesty arfaethedig.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd
y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2019 er mwyn
derbyn mwy o wybodaeth am bryderon llifogydd a hygyrchedd i’r safle yn ogystal
â materion yn ymwneud â:
·
Cynllun Rheoli Arfordir.
·
Perchnogaeth y wal rhwng yr arfordir a’r
ffordd sirol dosbarth III (Ffordd yr Aber).
·
Ymateb y Gwasanaeth Tan
i sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru parthed perygl o lifogydd ar hyd y ffordd
sy’n gwasanaethu’r safle.
·
Tebygolrwydd rhwng y cais yma a chais ar gyfer
codi tai newydd yn y Felinheli.
·
Goblygiadau ôl-troed
carbon y datblygiad.
Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.
Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor oherwydd
bod y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau a chyngor cynllunio cyfredol a oedd
yn gefnogol i’r egwyddor o leoli llety gwyliau newydd o ansawdd uchel yng
nghefn gwlad gan ddefnyddio safle addas a ddatblygwyd o’r blaen a safle a oedd
yn hygyrch i fathau gwahanol o gymudo.
Cyfeiriwyd at bryderon yr aelodau yn y cyfarfod blaenorol o
ran materion llifogydd, cadarnhawyd nad oedd y safle o fewn unrhyw barth
llifogydd a bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer defnydd fel gwesty yn
dderbyniol. O safbwynt materion mynediad, nodwyd bod safle’r cais a’r ffordd o
flaen y safle yn hollol glir o unrhyw bryderon llifogydd C2. Cadarnhawyd yn
unol â’r gofyn fe ymgynghorwyd â’r gwasanaethau brys ac mewn ymateb i bryderon
y Pwyllgor, anfonwyd e-bost manwl i’r gwasanaethau brys (yn lle ymgynghoriad
safonol) i esbonio’r sefyllfa ac i fynegi pryderon y Pwyllgor. Adroddwyd y
derbyniwyd ymateb gan y Gwasanaeth Tân yn nodi eu bod yn fodlon gyda’r
sefyllfa.
Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan yr Uned Llifogi pan fo
rhannau o’r ffordd a oedd yn gwasanaethu safle’r cais yn destun llifogydd
llanwol, bod y dŵr yn dueddol o fod yn fas iawn a bod y ffordd yn hygyrch
ar droed ac mewn car gyda gofal. Eglurwyd bod y lôn yn cael ei chau ar rai
adegau i sicrhau diogelwch a hefyd i glirio gwymon, cerrig man ayyb oddi ar y
lôn, ac am gyfnod byr byddai’r ffordd yn cael ei chau os yn angenrheidiol.
Nodwyd pe byddai digwyddiad eithriadol a’r lon yn llifogi byddai’r gwesty a’r
bobl sydd yno yn ddiogel o fewn y safle ac ni fyddai unrhyw risg i’r safle na’r
adeilad ac mai’r unig beth a allai gael ei atal oedd mynediad i’r safle ar hyd
y ffordd. Ymhelaethwyd bod llifogydd o’r math yma yn eithaf hawdd i’w rhagweld
a’u hamseru ac oherwydd hyn bod modd rhybuddio staff a gwesteion ymlaen llaw.
Ystyriwyd y gellir rheoli’r sefyllfa mewn modd derbyniol heb achosi baich
ychwanegol ar y gwasanaethau brys.
Nodwyd yng nghyd-destun cynnwys Nodyn Cyngor Technegol
(NCT) 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd ac ymateb y Gwasanaeth Tân i’r bwriad ni
chredir y byddai’r bwriad yn gwaethygu’r sefyllfa perygl llifogydd presennol i
ddarpar ddefnyddwyr y safle ei hun nac ychwaith i ddefnyddwyr eiddo cyfagos.
Eglurwyd nad oedd y rhan yma o’r arfordir (gyferbyn a
safle’r cais) o fewn Ardal Rheoli Newid Arfordirol (ARhNA) ac o ganlyniad i hyn
nid oedd yn cael ei adnabod fel ardal a fyddai’n cael ei effeithio gan golled
tir neu o ganlyniad i effeithiau erydu arfordirol. Nodwyd o ganlyniad, nid oedd
gofynion Polisi ARNA1 o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn berthnasol mewn
perthynas â’r cais hwn.
Parthed perchnogaeth y wal rhwng yr arfordir a’r ffordd
sirol dosbarth III (Ffordd yr Aber), nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi
cadarnhau fod wal y môr ym mherchnogaeth amryw o adrannau’r Cyngor gan gynnwys
Trafnidiaeth, Hamdden ac Economi. Eglurwyd mai’r Uned Drafnidiaeth a oedd yn
cynnal a chadw’r wal ar ran yr adrannau. Nodwyd bod Ymgynghoriaeth Gwynedd yn
ymgymryd â gwaith cynnal a chadw yn unol â’r angen.
Nodwyd o ystyried yr asesiad o’r cais ynghyd â’r holl
sylwadau a dderbyniwyd, gan aelodau o’r cyhoedd a’r ymgynghorai statudol, yn
ogystal â’r penderfyniad apêl blaenorol, bod y datblygiad yn dderbyniol ac nid
oedd risg o ran llifogydd. Roedd y bwriad yn unol â Nodyn Cyngor Technegol 15
gan y gellir rheoli’r risg mewn modd derbyniol.
(b) Gwnaed y prif
bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):-
·
Bod yr adroddiad swmpus
gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn datgan y sefyllfa bresennol o ran llifogydd,
roedd trigolion yn pryderu be allai ddigwydd yn y dyfodol o ran llifogydd a’r
wal;
·
A fyddai gwaith cynnal a
chadw yn y dyfodol agos ar y wal?
·
Bod tŷ preswyl wedi
ei leoli ar y safle ers yr wythdegau, mi fyddai’r bwriad yn newid tirwedd yr ardal
o harddwch.
(c) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod Polisi TWR 2 o’r
CDLl yn cydnabod yr angen am lety gwyliau gwasanaethol, sut gellir profi bod
gormodaeth o lety ac o le derbynnir yr ystadegau o’r angen? Roedd amryw o
westai o gwmpas yr ardal yn ogystal â llety megis Air BnB;
·
Fe ddifethir rhan o’r
arfordir pe ganiateir adeilad o’r fath;
·
Mai dim ond ar adegau
pan fyddai stormydd eithafol yr oedd llifogydd llanwol ar y ffordd i’r safle;
·
Pryder o ran effaith
adeilad o’r maint ar yr ardal o harddwch;
·
Pryder o ran
trafnidiaeth, roedd digonedd o drafnidiaeth ar y ffordd i’r safle yn barod;
·
Ei fod yn ymddangos o’r
cynlluniau mai 14 o lefydd parcio fyddai ar y safle, a fyddai’r ddarpariaeth yn
ddigonol ar gyfer gwesteion a staff? Pryder y byddai ceir yn cael eu parcio ar
y ffordd i’r safle;
·
Pryder o ran carafanau
modur yn parcio ar y ffordd i’r safle gan achosi trafferth i gerbydau’r Gwasanaeth
Tân o ran mynediad;
·
Pryder o ran y nifer o
geir a fyddai’n parcio ar y ffordd i’r safle o ystyried bod y Clwb Golff
gerllaw;
·
A oedd unrhyw waharddiad
o ran parcio ar y ffordd i’r safle?
·
Bod arogleuon o’r gwaith
carthffosiaeth yn yr ardal eisoes, roedd angen edrych ar y mater;
·
Bod yr apêl ar gais
blaenorol ar y safle wedi cadarnhau y byddai’r adeilad yn dderbyniol o fewn y
dirwedd;
·
O ran materion
llifogydd, nid oedd y Gwasanaeth Tân yn gwrthwynebu’r bwriad a derbyniwyd
cadarnhad ei fod yn bosib gwacau’r safle. Yn fodlon gyda’r ymatebion i’r
pryderon a godwyd gan yr aelodau ym Mhwyllgor 11 Chwefror 2019 ac yn cytuno â’r
argymhelliad;
·
Byddai’r datblygiad o
fudd i’r Clwb Golff a’r economi leol;
·
Bod y bwriad yn unol â’r
Strategaeth Twristiaeth gyda mwy o alw am westy na llety Air BnB.
(ch) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod y
ddarpariaeth parcio ar y safle yn cyrraedd y safonau parcio, ac efallai nad
oedd yn amlwg o’r cynlluniau bod llefydd parcio i fyny ochr yr adeilad yn
ogystal;
·
Pe byddai
cerbydau yn rhwystro llif traffig ar y ffordd i’r safle, mater i’r Heddlu a’r
Cyngor byddai delio a’r sefyllfa ar y pryd;
·
Roedd gwaharddiad
rhag parcio cerbydau ar y ffordd gerllaw Bont yr Aber;
·
O ran
arogleuon carthffosiaeth, bod bwriad fel rhan o’r cais i osod tanc septig.
Gellir adrodd ar unrhyw bryder i’r cyrff perthnasol, nid oedd yr arogleuon yn
gysylltiedig â’r bwriad.
PENDERFYNWYD
caniatáu’r cais.
Amodau:
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol
â’r cynlluniau.
3. Samplau o ddefnyddiau allanol i’w cyflwyno a’u cadarnhau gyda’r ACLL cyn
i unrhyw waith ddechrau ar y safle.
4. Ni cheir defnyddio’r gwesty hyd nes bod y fynedfa a’r llecynnau parcio
wedi eu cwblhau.
5. Cytuno a chynllun dŵr yfed a draenio dŵr hwyneb cyn i unrhyw
waith ddechrau ar y safle.
6. Cyn i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno
manylion parthed amseru a darparu clwyd ystlumod.
7. Dim gwaith dymchwel rhwng 15 Ebrill i 1 Hydref
gyda gweithiwr trwyddedig yn bresennol yn ystod y gwaith dymchwel ynghyd a
thynnu llechi o’r to drwy law.
8. Dim gwaith dymchwel rhwng 1 Ebrill i 31 Awst
oni bai bod modd dangos nad oes adar nythu yn yr adeilad presennol.
9. Cydymffurfio gyda’r adroddiad coed a chynllun
tirweddu.
10. Cyfyngu’r defnydd i ddefnydd gwyliau yn unig.
11. Amodau Priffyrdd.
12. Cytuno a chynllun goleuo.
13. Arwyddion a phecynnau croeso / gwybodaeth ddwyieithog.
14. Tanc septig a’r suddfan ddŵr cysylltiedig i gydymffurfio gyda
Safonau Prydeinig.
15.
Cyflwyno Cynllun Rheoli
Llifogydd e.e. i gynnwys: pecynnau gwybodaeth, system i ragrybuddio gwesteion a
staff, gosod rhybuddion/arwyddion perygl llifogydd o fewn y safle.
Dogfennau ategol: