Cofnod:
Newid defnydd
yr adeilad presennol o glwb nos i 3 uned
manwerthu ynghyd â 8 fflat hunan cynhaliol
a gosod agoriadau newydd (cais diwygiedig
i'r hyn a ganiatawyd o dan rhif C18/0116/11/LL).
(a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais
ar gyfer newid defnydd yr adeilad presennol o glwb nos i 3 uned manwerthu ar y
llawr daear ynghyd â 3 uned breswyl hunangynhaliol y tu cefn iddynt, 4 uned
hunangynhaliol ar y llawr cyntaf gydag un uned hunangynhaliol ar yr ail lawr.
Byddai’r bwriad yn golygu darparu 5 uned un ystafell wely ynghyd â 3 uned 2
ystafell wely.
Nodwyd
bod y safle o fewn ffin datblygu canolfan isranbarthol Bangor. Eglurwyd bod
Polisi TAI9 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn caniatáu isrannu eiddo presennol i
fflatiau hunangynhaliol cyn belled ei fod yn cydymffurfio gyda’r meini prawf
perthnasol, cadarnhawyd bod y cais yn cydymffurfio gyda’r meini prawf.
Tynnwyd
sylw bod Polisi PCYFF2 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn datgan gwrthodir cynigion
os ydynt yn cael effaith andwyol sylweddol ar iechyd, diogelwch neu fwynderau
meddianwyr eiddo lleol, defnyddiau tir neu eiddo arall oherwydd mwy o
weithgareddau, aflonyddwch, sŵn ac yn y blaen. O ran aflonyddwch sŵn,
credir byddai defnydd preswyl a masnachol (siopau) yn cael llai o effaith ar
fwynderau preswyl a chyffredinol preswylwyr cyfagos na’r defnydd cyfreithiol yr
eiddo fel clwb nos.
Nodwyd
bod Polisi TAI15 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio sicrhau darpariaeth
briodol o dai fforddiadwy yn ardal y Cynllun a’r trothwy ar gyfer tai
fforddiadwy ym Mangor oedd 20%. Adroddwyd bod yr Uned Strategol Tai wedi ymateb
i dderbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd parthed prisiad rhentu a
phrisiau gwerthu'r fflatiau arfaethedig, a oedd yn datgan er bod lefelau rhentu
ar gyfer y fflatiau rhywfaint yn uwch na’r raddfa isaf nid oedd hyn yn creu
unrhyw bryder gan fyddai’r fflatiau yn parhau i fod o fewn cyrraedd nifer
helaeth o’r boblogaeth leol.
Parthed
gwerthu’r unedau, a chymharu prisiau fflatiau cyffelyb ym Mangor a werthwyd yn
ddiweddar, roedd y prisiau a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn llawer is a thybir
bod y prisiau isel hyn yn debygol o adlewyrchu maint, lleoliad, safon a
nodweddion perchnogaeth y fflatiau eu hunain. Nodwyd, o ganlyniad nid oedd
cyfiawnhad cyfyngu 2 o’r fflatiau i fod yn fforddiadwy trwy gytundeb 106 na
gofyn am gyfraniad ariannol fel rhan o’r cais.
Roedd
y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol
am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Ei fod yn ymddangos bod
ymgeiswyr yn datgan y byddai unedau yn fforddiadwy beth bynnag er mwyn osgoi
cyflenwi unedau fforddiadwy. Roedd angen cau’r bwlch yn y polisi cenedlaethol;
·
Yn croesawu’r datblygiad
ar safle a oedd yn wag ers blynyddoedd. Pryder y byddai’r fflat llawr gwaelod
yn dywyll oherwydd nad oedd ffenestri ar flaen yr adeilad. Unedau i’w gweld yn
cael eu gwasgu i mewn gan greu fflatiau bach ac nid oedd yn ymddangos bod
mynediad i’r anabl;
·
Cwestiynu’r galw am
unedau o’r fath;
·
Pryder o ran mwynderau
deiliad y fflatiau, roedd yn fater y dylid ei ystyried;
·
Pryder am faint yr
unedau, roedd angen am fflatiau addas i gyplau ac unigolion proffesiynol;
·
Bod angen am fflatiau ym
Mangor, roedd Ysbyty Gwynedd yn ysgol hyfforddi;
·
Bod angen a galw am yr
unedau ac fe fyddai’r datblygiad o gymorth i Stryd Fawr, Bangor.
(c) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion:
·
Derbyniwyd
cadarnhad gan yr Uned Strategol Tai bod angen yn yr ardal am fflatiau 1 a 2
ystafell wely ac angen am y math yma o ddatblygiad;
·
Cydnabod bod
llawer wedi eu prisio allan o’r farchnad ym Mangor. Roedd prisiau’r unedau
oherwydd eu lleoliad a maint wedi ei gyfyngu yn naturiol. Aseswyd y cais yn
gyson a cheisiadau eraill yn Stryd Fawr, Bangor;
·
Cydnabod pryderon
am amgylchiadau byw preswylwyr ond ei fod yn fater rheolaeth datblygu yn
hytrach na mater cynllunio;
·
Er eglurder,
fflatiau unigol yn hytrach na thŷ amlfeddiannaeth oedd dan sylw ac nid
oedd yn llety penodol ar gyfer myfyrwyr;
·
Roedd hyfywdra
datblygiad yn falans anodd ei daro ond o ran y safle
penodol yma dylid cymryd i ystyriaeth bod yr adeilad yn wag ers blynyddoedd a’r
angen i fywiogi’r Stryd Fawr a bod y bwriad yn hyfyw felly roedd angen cadw’r
materion hyn mewn cof a bod yn realistig.
PENDERFYNWYD
caniatáu’r cais.
Amodau:
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r cynlluniau.
3. Cytuno deunyddiau/lliw'r waliau allanol.
Dogfennau ategol: