Agenda item

Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle Gypsy Wood yn gweithredu fel atyniad parc teuluol. Eglurwyd bod safle’r cais wedi ei leoli oddeutu 250m i ffwrdd o ffin ddatblygu pentref Bontnewydd, roedd wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored yn nhermau’r Cynllun Datblygu Lleol. Yn sgil yr angen i gynnal a gwarchod cefn gwlad roedd angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu adeiladu tai newydd yno. Nodwyd bod Polisi PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn datgan mai dim ond datblygiadau tai a oedd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, fyddai’n cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored.

 

         Tynnwyd sylw bod paragraff 4.3.1 o’r NCT6 yn nodi mai un o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fo angen llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd bod yr angen hanfodol am lety yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar ddewis nac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Ychwanegwyd y dylid asesu ceisiadau am ganiatâd cynllunio ar gyfer anheddau mentrau gwledig newydd yn ofalus i sicrhau y gellir cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi arferol o gyfyngu ar ddatblygiad newydd yng nghefn gwlad agored.

 

         Eglurwyd, o’r wybodaeth a gyflwynwyd datgenir fod yr ymgeisydd wedi ymgymryd mewn partneriaeth 50% gyda Mr a Mrs Evans, perchnogion y tir. Nodwyd oherwydd bod Mr a Mrs Evans yn parhau gyda 50% o’r busnes; yn berchen ar y tir ble leolir y busnes ac yn byw ar y safle; ystyriwyd fod unrhyw angen swyddogaethol, sef yr angen i weithiwr llawn amser fodoli ar y safle drwy’r adeg i ddelio gyda sefyllfaoedd annisgwyl neu unrhyw argyfwng, wedi ei ddiwallu gan yr eiddo presennol. Tynnwyd sylw nad oedd yr NCT yn caniatáu ail-dŷ ar safle menter gwledig ac felly ystyriwyd fod gofynion swyddogaethol y fenter wledig wedi ei ddiwallu yn gyfan gwbl gyda’r ddarpariaeth bresennol. 

 

         Argymhellwyd i’r Pwyllgor wrthod y cais oherwydd bod safle’r cais wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored o safbwynt polisi cynllunio a bod unrhyw angen swyddogaethol a oedd yn bodoli gyda’r busnes ar y safle wedi ei ddiwallu’n barod a byddai codi annedd ychwanegol ar y safle yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a PS 17 o’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

         Adroddwyd y derbyniwyd llythyr hwyr gan gyfreithiwr perchennog y tir a oedd yn nodi bod perchnogion y tir am gytuno les gyda’r ymgeisydd am y safle yn ei gyfanrwydd. Nodwyd na welwyd diben mewn gohirio’r cais oherwydd gallai trefniant o’r fath gymryd amser i ddod yn weithredol a byddai angen ail-asesu’r cais yng nghyd-destun Nodyn Cyngor Technegol 6.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod yr ymgeisydd wedi datblygu’r safle yn sylweddol yn y 2 flynedd diwethaf;

·         Bod y busnes yn bwysig i’r economi leol a Gwynedd yn ei gyfanrwydd;

·         Gofyn i’r Pwyllgor ganiatáu neu ohirio’r cais yng ngoleuni’r llythyr dyddiedig 26 Ebrill gan gyfreithiwr y perchennog tir. Ni fyddai’r perchennog tir yn berchen ar y busnes yn y dyfodol ac mi fyddai’r ymgeisydd yn parhau gyda’r busnes;

·         Bod y busnes yn cyflogi 6 staff llawn amser ac yn ystod yr Haf yn cyflogi hyd at 25 o staff;

·         Bod y cais yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y busnes ac fe ddylid ystyried gohirio’r cais oherwydd nad oedd y Pwyllgor wedi cael amser i ystyried y llythyr gan gyfreithiwr y perchennog tir a oedd yn ddogfen bwysig yng nghyd-destun y cais.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais.

 

         Nododd y Rheolwr Cynllunio y byddai gohiriad yn benagored, pe byddai’r Pwyllgor yn gwrthod y cais mi fyddai gan yr ymgeisydd yr hawl i gyflwyno cais arall am ddim o fewn blwyddyn o ddyddiad y gwrthodiad. Ychwanegodd nad oedd amheuaeth bod y busnes yn cyfrannu i’r economi ond byddai angen ail-asesu’r cais a bod opsiwn yn ogystal i’r ymgeisydd dynnu’r cais yn ôl.

 

         Nododd aelod nad oedd pwrpas i ohiriad penagored, holodd os oedd yr eiddo presennol wedi ei glymu i’r busnes. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio nad oedd yr eiddo presennol wedi ei glymu i’r busnes. Holodd yr aelod pe byddai’n bosib caniatáu’r cais gan glymu’r eiddo i’r busnes i sicrhau na fyddai’r eiddo yn cael ei werthu ar wahân i’r busnes. Ychwanegodd ei fod yn cydymdeimlo gyda’r aelod lleol ond ni warchodir y fenter wrth ganiatáu’r tŷ, gellir dadlau os nad oedd yr eiddo presennol wedi ei glymu i’r busnes ni fyddai’n angenrheidiol yn diwallu’r angen yn y tymor hir.

 

         Mewn ymateb i sylwadau’r aelod, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr hyn a nodwyd yn hollol wir ond nid oedd sicrwydd ar hyn o bryd yr arwyddir les ac ni fyddai’r eiddo presennol ar gael. Ymhelaethodd yr argymhellir gwrthod y cais er mwyn i’r ymgeisydd gyflwyno cais yn y dyfodol ar ôl arwyddo’r les, gan gyflwyno cais am gyngor cyn cyflwyno cais gan y byddai’r ystyriaethau wedi newid oherwydd yr amgylchiadau newydd.

 

         Nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn deall yr awydd i ohirio’r cais, roedd angen ail-asesu’r cais yn gyfan gwbl oherwydd y newid yn y sefyllfa yn y dyfodol a oedd yn rhy annelwig i wneud penderfyniad. Ychwanegodd nad oedd y Pwyllgor wedi cael cyfle i weld y llythyr a bod gan y Pwyllgor yr opsiwn i ohirio’r cais am gyfnod byr i dderbyn eglurder.

 

         Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio fel ymateb pragmataidd y gallai’r Pwyllgor ystyried gohirio’r cais i’r cyfarfod nesaf yn mis Mai a byddai’r adroddiad a gyflwynir i’r cyfarfod yn cynnwys gwybodaeth am y llythyr.

 

Nododd aelod mai gwrthod y cais fyddai’r peth glanaf gan y byddai’r cais yn gryfach gyda les yn weithredol. Ychwanegodd aelod bod yr angen wedi ei ddiwallu gyda’r eiddo presennol ar hyn o bryd ond bod angen ystyried cynnwys y llythyr gan gyfreithiwr y perchennog tir felly roedd yn gwneud synnwyr i ohirio’r cais.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais tan y Pwyllgor Cynllunio nesaf yn mis Mai.

Dogfennau ategol: