Cofnod:
Cais ôl-weithredol am gael dymchwel cegin ac ystafell wydr is-safonol y
tu ôl i'r eiddo, ac adeiladu estyniad un llawr ar gefn yr adeilad.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi y cyflwynwyd y cais yn dilyn camau gweithredu gan yr Uned
Gorfodaeth o ganlyniad i dderbyn cwyn ynghylch y datblygiad. Eglurwyd y
cyflwynwyd y cais gerbron y Pwyllgor oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn i
Aelod Lleol.
Nodwyd yr ystyriwyd bod maint a lleoliad yr estyniad yn
dderbyniol mewn egwyddor. Adroddwyd bod preswylwyr Rhif 25 wedi gwrthwynebu'r
cais oherwydd pryderon yn ymwneud â cholli goleuni a gor-edrych
ar eu heiddo o ganlyniad i ffenestr ochr yr estyniad.
Eglurwyd bod y pryderon ynglŷn â'r ffenestr ochr wedi
ei drafod â'r ymgeisydd cyn ac ers cyflwyno'r cais. Nodwyd er bod yr ymgeisydd
wedi cynnig datrysiad, sef gosod gwydr cymylog a bleind parhaol, roedd y
swyddogion o'r farn na fyddai’n ddatrysiad boddhaol gan y byddai canfyddiad o
or-edrych yr un fath. Ni ystyriwyd y byddai'n briodol gosod amod cynllunio er
mwyn mynnu bod y ffenestr yn cael ei chuddio â gwydr cymylog a bleind gan nad
oedd yn debygol o fod yn bosib gorfodi'r amod.
Adroddwyd y gofynnwyd i’r ymgeisydd ar sawl achlysur i
flocio’r ffenestr yn barhaol ond bod yr ymgeisydd yn amharod i wneud hyn ac
felly byddai’n amhriodol i osod amod i’r perwyl hyn, argymhellwyd mai’r unig
ffordd i gael datrysiad i’r sefyllfa byddai i wrthod y cais oherwydd effaith
andwyol y ffenestr ar breifatrwydd y tŷ cyfochrog.
(b) Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y gwrthwynebydd ddim
wedi byw yn yr eiddo ac yn rhentu ei dŷ allan;
·
Bod yr estyniad yn
galluogi ei fam a oedd yn anabl i fyw gartref;
·
Bod ei fam wedi derbyn
cyngor gan adeiladwr nad oedd angen am ganiatâd cynllunio a bod y ffenestr ar
ochr yr estyniad yn dderbyniol;
·
Bod ei fam wedi derbyn
llythyr gan yr Uned Gorfodaeth yn nodi bod angen tynnu’r ffenestr a’r angen i
dderbyn caniatâd cynllunio. Bod ei fam yn poeni am y sefyllfa a'i fod yn cael
effaith ar ei hiechyd;
·
Yn fodlon gosod gwydr
cymylog a bleind parhaol ar y ffenestr yn ogystal ag adfer y ffens wreiddiol;
·
Gobeithio y gellir dod
â’r mater i ben mor gynted â phosibl.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod
lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Fe fyddai’n drueni
gwrthod y cais oherwydd sefyllfa’r ymgeisydd;
·
Deall pryder y
swyddogion a ni fyddai’n bosib i’r eiddo cyfagos godi estyniad oherwydd
lleoliad y ffenestr;
·
Dylid gofyn i’r
ymgeisydd flocio’r ffenestr ochr felly ni fyddai’r estyniad yn amharu ar
breifatrwydd cymdogion.
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Bod yr ymgeisydd wedi
gwrthod blocio’r ffenestr ar sawl achlysur;
·
Dylid ystyried gofyn i’r
ymgeisydd flocio’r ffenestr unwaith yn rhagor cyn gwrthod y cais;
·
Byddai gwrthod y cais yn
rhoi pwysau ar yr ymgeisydd i flocio’r ffenestr;
·
Dylid gohirio’r cais dan
y cyfarfod nesaf er mwyn dod i gytundeb â’r ymgeisydd o ran blocio’r ffenestr;
·
Bod angen ystyried bod
yr ymgeisydd yn hŷn ac yn anabl a byddai derbyn llythyr gan y Cyngor o ran
dymchwel yr estyniad o bosib yn sioc iddi;
·
Ddim yn gefnogol yn
arferol i ganiatâd ôl-weithredol ond ei fod yn edrych yn debyg bod yr ymgeisydd
wedi derbyn cyngor anghywir gan adeiladwr. Roedd gofyn i’r ymgeisydd flocio’r
ffenestr yn gais rhesymol;
·
Bod angen ystyried yr
effaith hirdymor ar yr eiddo cyfagos o ran mwynderau a’i fod yn atal yr eiddo
cyfagos i godi estyniad. Mi fyddai’n anodd gorfodi bod gwydr cymylog a bleind
parhaol ar y ffenestr. Dylid bod yn gadarn a gwrthod y cais oherwydd yr effaith
andwyol ar drigolion yr eiddo cyfagos i’r dyfodol;
·
Dylid gwrthod y cais gan
roi 2 fis i’r ymgeisydd flocio’r ffenestr.
(d) Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion:
·
Bod yr
ymgeisydd wedi nodi ei amharodrwydd i flocio’r ffenestr mewn sawl e-bost mewn
ymateb i gyngor gan swyddogion, felly'r ffordd orau ymlaen oedd gwrthod y cais;
·
Er eglurder,
yr unig beth a ofynnwyd i’r ymgeisydd wneud oedd blocio’r ffenestr yn barhaol.
Roedd y swyddogion wedi bod yn rhesymol gan nodi sefyllfa’r ymgeisydd;
·
Bod angen
bod yn gadarn oherwydd bod y ffenestr yn gwbl annerbyniol. Yn cydnabod
sefyllfa’r ymgeisydd a pe gwrthodir y cais gofynnir i’r ymgeisydd flocio’r
ffenestr o fewn 2 fis neu cymerir camau gorfodaeth ffurfiol i flocio’r
ffenestr.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rheswm:
Ystyrir nad yw'r ffenestr ochr yn yr estyniad sy'n wynebu iard/gardd gefn
25 Ffordd Belmont yn dangos dyluniad o ansawdd uchel,
a'i bod yn creu nodwedd ymwthgar sy'n cael effaith andwyol annerbyniol ar
fwynderau preswyl yr eiddo hwnnw ar sail colli preifatrwydd, ac sydd â'r
potensial i achosi tarfu annerbyniol. Mae'r datblygiad felly yn groes i Faen
Prawf 7 polisi PCYFF 2 ac Maen Prawf 1 polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar
y Cyd Ynys Môn a Gwynedd, ac i ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys yng
Nghanllawiau Dylunio Gwynedd a NCT12: Dylunio.
Dogfennau ategol: