Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Penderfynwyd
i:
1.1 Nodi sefyllfa ariannol
derfynol adrannau’r Cyngor am 2018/19.
1.2 Cymeradwyo’r
symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad
yn Atodiad 1) sef -
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
15 |
Plant a Theuluoedd |
100 |
Addysg |
100 |
Economi a Chymuned |
28 |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
100 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth Gwynedd |
(59) |
Tîm
rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(76) |
Cyllid |
(59) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(61) |
1.3 Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau
ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –
·
Yr
Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £1,544k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen
gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo
i symud ymlaen i wynebu her 2019/20.
·
Yr
Adran Addysg i dderbyn cymorth ariannol rhannol un-tro o £16k gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario
ymlaen gan yr Adran i £100k.
·
Digolledu'r Adran Economi a
Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o ganlyniad i lithriad yn yr
amserlen sefydlu cwmni Byw'n Iach i redeg y cyfleusterau hamdden, sydd
felly yn cyfyngu lefel y gorwariant i'w gario ymlaen gan yr Adran i £28k.
·
Yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £518k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr
Adran i £100k,
i'w cynorthwyo i wynebu her 2019/20.
·
Yn unol
â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant,
a symud (£392k) sef y swm uwchlaw
(£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2018/19.
·
Ar
gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo:
- (£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i
gronfa benodol i'w ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.
- (£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa
ariannu'r rhaglen gyfalaf.
- (£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.
·
Defnyddio (£1,843k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau
sydd wedi gorwario yn 2018/19.
·
Bydd
gweddill tanwariant Corfforaethol (£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.
1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o
gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn
adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef:
·
Cynaeafu (£3.931m)
o gronfeydd a (£69k) o ddarpariaethau.
·
Trosglwyddo £3m i’r
Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun y Cyngor.
·
Trosglwyddo £1m i
Falansau Cyffredinol y Cyngor.
·
Neilltuo £262k am
gyfnod o flwyddyn o’r gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth
Ariannol i bontio’r ffynhonnell ariannu ymrwymiadau perthnasol i’r
Gronfa
Bensiwn.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNWYD
1.1
Nodi’r sefyllfa ariannol derfynol
adrannau’r Cyngor am 2018/19
1.2
Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn “Gor/(Tan)
Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1) sef –
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a
Llesiant |
15 |
Plant a Theuluoedd |
100 |
Addysg |
100 |
Economi a Chymuned |
28 |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
100 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth Gwynedd |
(59) |
Tîm rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(76) |
Cyllid |
(59) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(61) |
1.3
Cymeradwyo’r argymhellion a’r
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2)
·
Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o
£1,544k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i
£100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2019/20.
·
Yr Adran Addysg i dderbyn cymorth ariannol rhannol un-tro o £16k
gan gyfyngu
lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k.
·
Digolledu'r Adran Economi a Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o
ganlyniad i
lithriad yn yr amserlen sefydlu cwmni Byw'n Iach i redeg y
cyfleusterau
hamdden, sydd felly yn cyfyngu lefel y gorwariant i'w gario mlaen
gan yr Adran i
£28k.
·
Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol
un-tro rhannol o £518k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario mlaen gan yr
Adran i £100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2019/20.
·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn arferol i
ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£392k)
sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi
gorwario yn 2018/19.
·
Ar gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo:
-
(£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i gronfa benodol i'w ystyried ar
gyfer y Strategaeth Dai.
-
(£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.
-
(£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.
·
Defnyddio (£1,843k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau
sydd wedi gorwario yn 2018/19.
·
Bydd gweddill tanwariant Corfforaethol (£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.
1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau
ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn
dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef:
·
Cynaeafu
(£3.931m) o gronfeydd a (£69k) o ddarpariaethau.
·
Trosglwyddo
£3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun y Cyngor.
·
Trosglwyddo
£1m i Falansau Cyffredinol y Cyngor.
·
Neilltuo
£262k am gyfnod o flwyddyn o’r gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i bontio’r ffynhonnell ariannu ymrwymiadau
perthnasol i’r Gronfa Bensiwn.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn manylu ar wariant y Cyngor am 2018/19.
Diolchwyd i’r Cyng. Peredur Jenkins am ei ymrwymiad i sicrhau sefyllfa ariannol y Cyngor dros y
blynyddoedd diwethaf. Mynegwyd fod rheolaeth ariannol y Cyngor wedi bod yn
effeithiol yn ystod y flwyddyn er y gofynion i gyflawni arbedion.
Mynegwyd fod yr
adroddiad yn nodi sefyllfa derfynol yr holl adrannau, a thynnwyd sylw at y prif
faterion. Nodwyd fod hanner yr adrannau wedi medru cadw o fewn eu cyllidebau.
Tynnwyd sylw at welliant yn sefyllfa’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant erbyn
diwedd y flwydd o ganlyniad i dderbyn ac ail-gyfeirio grantiau hwyr. Er hyn,
pwysleisiwyd fod gorwariant o bron i £1m yn y gwasanaeth Darparu a nodwyd angen
i’r Aelod Cabinet a Pennaeth yr Adran Oedolion i edrych ymhellach i mewn i’r
gorwariant yma.
Nodwyd yn yr Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd fod cynnydd wedi ei weld ar draws nifer o benawdau a
olygai erbyn diwedd y flwyddyn fod cynnydd yn y gorwariant net i £1.6m.
Esboniwyd mai lleoliadau all sirol sydd yn gyfrifol am ran helaeth o’r
gorwariant ac mae cyfarfod wedi ei drefnu rhwng yr Aelodau Cabinet perthnasol,
y Prif Weithredwr a swyddogion eraill er mwyn rhoi sylw llawn i’r mater.
Argymhellwyd fod y Cabinet yn cyfyngu lefel y gorwariant i’w gario ymlaen i
£100k.
Tynnwyd sylw at yr
Adran Addysg gan nodi ers yr adolygiad diweddaf fod gwelliant sylweddol i’r
sefyllfa ariannol o ganlyniad i dderbyn ac ail-gyfeirio grant. Er hyn mynegwyd
fod gorwariant yn parhau yn y maes Cludiant, sydd wedi bod yn destun adolygiad
i reoli’r gorwariant, ond mynegwyd yr angen i waith pellach. Argymhellwyd fod y
gorwariant yn cael ei gyfyngu i £100k er mwyn cynorthwyo’r adran yn 2019/20.
Yn yr Adran Economi
a Chymuned, nodwyd canran uchel o’r gorwariant o ganlyniad i lithriad yn
amserlen sefydlu Cwmni Byw’n Iach, ac argymhellwyd i ddigolledu’r adran £157k,
sef gwerth y llithriad. Hefyd, argymhellwyd i’r Cabinet roi cymorth ariannol
un-tro i leddfu’r gorwariant o £0.5m ym maes Gwastraff yr Adran Briffyrdd.
Mynegwyd bydd modd i ddefnyddio tanwariant rhai
adrannau trwy reolaeth effeithiol o’r cyllidebau, er mwyn cyllidebu cyfanswm
gwariant yn unol â’r bwriad am 2018/29, gan ddefnyddio £1.51m o gronfeydd i
ariannu bidiau un-tro 2018/19 a pheidio gwneud defnydd o falansau
cyffredinol y Cyngor. Nodwyd fod y Cyngor wedi llwyddo i gynaeafu dros £4m o
adnoddau gyda £3m yn cael ei neilltuo ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor.
Diolchwyd i’r holl staff am eu gwaith yn sicrhau fod y gwaith cau’r cyfrifon a
chynhyrchu’r datganiad mewn cyfnod llawer byrrach nac y blynyddoedd diwethaf.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd
fod gan yr Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd ffydd yn y gwasanaeth
a lefel diogelwch plant o fewn gofal. Ychwanegwyd fod gorwariant yn destun
trafodaeth yn aml yn yr Adran ac yn Genedlaethol gan ei fod yn broblem sydd i’w
gweld ar draws y wlad. Mynegwyd fod yr adran wedi derbyn adnodd ychwanegol a
fydd yn gwneud adolygiad Ffordd Gwynedd yn yr adran i sicrhau fod eu systemau
yn gwbl effeithlon. Nodwyd y camau nesaf yn dilyn yr Adolygiad Ffordd Gwynedd
fydd codi’r cwestiwn os yw’r gyllideb yn addas i bwrpas.
-
Tynnwyd
sylw at y ffaith fod dau bosibilrwydd yn dilyn yr adroddiad Adran Blant fod y
rheolaeth ariannol yn wael neu fod y gorwariant yn anorfod. Ategwyd nad oedd y
gorwariant yn newyddion i’r swyddogion ac o ganlyniad dangoswyd fod y rheolaeth
ariannol yn dda. Er hyn, nodwyd fod
angen sicrhau fod yr adran yn gweithio mor effeithlon â phosib ac felly
tanlinellwyd pwysigrwydd y cyfarfod a swyddogion er mwyn sicrhau fod pob carreg
wedi ei droi.
-
Nodwyd
fod dros £800,000 wedi’i ychwanegu at gyllideb yr Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd erbyn 2019/20, mewn ymateb i’r cynnydd mewn galw, a bydd trafodaethau
pellach am wireddu cynlluniau arbedion hanesyddol yr Adran.
-
Mynegwyd
mai llithriad sefydlu cwmni Byw’n Iach oedd y swmp o orwariant yr Adran Economi
a Chymuned, ond mynegwyd fod angen rhoi sylw brys i orwariant yn Storiel.
-
Esboniwyd
fod yr Adran Addysg ym mis Tachwedd wedi rhagweld gorwant o dros £700k ond fod
yr adran, drwy grantiau wedi llwyddo i’w leihau i £116k. Mynegwyd fod gwaith
pellach angen ei wneud yng nghyd-destun cludiant. Esboniwyd fod balansau ysgolion yn parhau’n uchel, ond fod hyn yn rhannol
o ganlyniad i dderbyn grantiau Llywodraeth yn hwyr yn y flwyddyn.
-
Nodwyd
yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol fod rhai tagedau
incwm o bosib yn uchel, ond mae’r adran yn monitro hyn. Ychwanegwyd fod newid
am fod i’r Gwasanaeth Gwastraff fydd, ymhen y flwyddyn, yn lleihau’r
gorwariant.
-
Mynegwyd
fod gorwariant yr Adran Oedolion wedi lleihau o ganlyniad i grant yn dod yn
hwyr, ond mynegwyd fod angen i’r adran barhau i edrych ar y mater er mwyn
sicrhau eu bod yn delio ag unrhyw siawns o orwariant.
-
Tynnwyd
sylw at doriadau yn digwydd i wasanaethau o ganlyniad i leihad yn y setliad gan
y Llywodraeth ac ein bod wedi cyfleu’r neges i’r Llywodraeth yn barhaus fod y
lleihad yma yn creu poendod i drigolion Gwynedd.
Awdur:Ffion Madog Evans
Dogfennau ategol: