Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol (ynghlwm).
Penderfyniad:
Cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith a
nodi’r diweddariadau ar gynnydd prosiectau unigol, yn unol â’r adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo
statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith a nodi’r diweddariadau ar gynnydd
prosiectau unigol, yn unol â’r adroddiad.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Diweddaru ar gynnydd tasgau’r Rhaglen Waith.
Diweddaru ar gynnydd prosiectau unigol.
TRAFODAETH
Nodwyd, oherwydd
yr angen i neilltuo cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 21 Mehefin ar gyfer cyfweld ymgeiswyr
ar gyfer y swydd Cyfarwyddwr Rhaglen, y cynhelid cyfarfod ychwanegol o’r Bwrdd
ar 28 Mehefin i drafod materion eraill o bwys sy’n rhan o’r rhaglen waith.
Nodwyd, yn sgil
cyflwyno’r achosion busnes amlinellol ar gyfer y prosiectau unigol, y cafwyd
adborth cychwynnol positif gan y ddwy lywodraeth ac na ragwelid unrhyw rwystrau
ar hyn o bryd.
Cyfeiriwyd at
gyfarfodydd penodol gydag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Kevin
Foster, yr Is-weinidog, a nodwyd bod y cyfarfodydd hynny wedi bod yn adeiladol
ac yn bositif, gyda’r dyhead i gyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn mis Gorffennaf
wedi’i amlygu’n gryf. Nodwyd bod y
berthynas gyda gweision sifil y ddwy lywodraeth yn gryf iawn hefyd, gyda
chydweithio agos yn digwydd ar lefel swyddogion.
Nodwyd y cynhelid
cyfarfod gyda Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yr wythnos
ganlynol. Yn y cyfarfod hwnnw, byddai’r
Cadeirydd yn cyfleu’r dymuniad i’r ddeialog wleidyddol fod yn un fwy cyson er
sicrhau nad oes unrhyw beth yn mynd ar goll yn y trafodaethau.
Rhoddwyd sicrwydd
y byddai Penawdau’r Telerau yn ymgorffori’r 14 prosiect yn y Cynllun Twf.
Cyfeiriwyd at
benderfyniad blaenorol y Bwrdd i gyflwyno adroddiad cynnydd chwarterol ar waith
y Bwrdd i’r partneriaid unigol ar gyfer dibenion adrodd a chraffu'r cyrff
unigol, a gofynnwyd am gynnwys cyfeiriad at hynny yn y categori ‘Llywodraethu’
o’r rhaglen waith.
Nodwyd bod angen
cynnwys bloc ychwanegol yn y tabl ynglŷn â GA2, yn nodi’r amserlennu o ran
y sefydliadau, ayb. Mewn ymateb,
eglurwyd bod hynny wedi’i gynnwys o dan y categori ‘Cyfreithiol a Chaffael’,
ond efallai bod angen amlygu’r risgiau yn gliriach. Nodwyd hefyd bod GA2 yn rhan o’r cytundeb
ehangach, a’i fod, felly, i lawr ar y cynllun.
Gan gyfeirio at y
Prosiect Morlais, awgrymwyd bod angen nodi yn y golofn ‘sylwadau eraill’ bod y
rhanbarth yn colli’r £21m a gadarnhawyd o Ewrop gan fod yr arian hwnnw yn
gorfod cael ei ddychwelyd. Mewn ymateb,
eglurwyd y byddai cyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn Gorffennaf yn rhoi digon o
sicrwydd i Ewrop bod modd tynnu’r arian i lawr er mwyn bwrw ymlaen gyda’r
cynllun.
Nodwyd bod y
llywodraethau wedi gofyn am achos busnes mwy manwl mewn perthynas â’r £40m
ychwanegol a geisiwyd, ac y bwriedid cyflwyno’r wybodaeth honno iddynt erbyn
diwedd yr wythnos ganlynol.
Eglurwyd bod y
ddwy lywodraeth yn gweithio ar Benawdau’r Telerau ar hyn o bryd ac y gobeithid
y byddai drafft o’r ddogfen ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf fel y gellid ei
chylchredeg i aelodau’r Bwrdd a’i thrafod yn y cyfarfod nesaf.
Pwysleisiwyd bod
rhaid cyrraedd Penawdau’r Telerau erbyn cychwyn gwyliau’r haf. Mewn ymateb, nodwyd mai dyma’r neges sydd
wedi, ac sy’n dal i gael ei chyfleu, i’r 2 lywodraeth.
Mynegwyd dymuniad
y Bwrdd Cyflawni Busnes i gael mewnbwn i’r trafodaethau gyda’r ddwy lywodraeth
er mwyn cynorthwyo’r broses. Cadarnhawyd
y byddai gan Gadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes rôl allweddol o ran hynny.
Dogfennau ategol: