Agenda item

Dymchwel Canolfan Penrhosgarnedd ac adeiladau canolfan cymundeol newydd ac ehangu Ysgol y Faenol, ffordd mynediad newydd ynghyd â maes parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Dymchwel Canolfan Penrhosgarnedd ac adeiladau canolfan cymunedol newydd ac ehangu Ysgol y Faenol, ffordd mynediad newydd ynghyd a maes parcio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer ail drefnu a chyfuno safleoedd Ysgol y Faenol a’r Ganolfan Gymunedol ym Mhenrhosgarnedd. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal anheddol gyda’r rhan fwyaf ohono o fewn ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y caiff ei ddiffinio gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.  Amlygwyd bod y bwriad yn cynnwys y nodweddion canlynol :

 

·      dymchwel y ganolfan gymunedol bresennol

·      creu maes parcio ar safle’r ganolfan gymunedolfe fydd prif fynedfa gerbydol yr ysgol yn symud i fynedfa’r maes parcio ac fe fydd 60 gofod parcio a 7 man gollwng yno

·      creu ffordd gyswllt yn arwain o’r maes parcio at safle presennol yr ysgol (fe fyddai hwn y tu allan i ffin ddatblygu’r ddinas) – bydd pedwar gofod parcio ar gyfer yr anabl ger yr adeilad

·      cau'r brif fynedfa ar gyfer cerddwyr ac agor un newydd 55m i’r gorllewin

·      dymchwel adeiladau allanol i’r cefn o’r ysgol

·      codi estyniadau i’r adeilad presennol gan gynnwys gofod ychwanegol ar gyfer canolfan gymunedol newydd.

 

Adroddwyd bod Polisi ISA 2 o’r CDLL yn gefnogol i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd ac ystyriwyd  bod y cynnig yn cwrdd â holl feini prawf y polisi hwnnw. Er i ôl troed yr adeilad newydd fod rhyw draean yn fwy na’r adeiladau presennol, ystyriwyd bod y dyluniad yn welliant pensaernïol ar yr adeiladau di-nod presennol. Oherwydd natur drefol y safle, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol hirdymor i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol, er yn anorfod, bydd peth cynnydd mewn sŵn ac aflonyddwch.  Ategwyd y byddai modd rheoli unrhyw effeithiau niweidiol drwy osod amodau priodol ar y datblygiad.

 

Mewn ymateb i sylwadau hwyr gan Chwaraeon Cymru awgrymwyd mai ymarfer desg oedd wedi ei weithredu gan Chwaraeon Cymru ac nad oeddynt yn gyfarwydd â’r safle. Ategwyd bod y bwriad yn gwella’r adnoddau, yn welliant sylweddol i’r llecyn chwarae ac yn dderbyniol o ran mwynderau gweledol.

 

(a)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg ymateb gan rai asiantaethau ac a ddylid bwrw  ymlaen heb eu sylwadau, adroddwyd bod y sefyllfa o beidio derbyn sylwadau yn eithaf cyffredin a’r tebygolrwydd yw y byddai ymateb neu sylw wedi ei dderbyn petai pryderon gan yr asiantaethau hyn. Nid oedd gan y Rheolwr Cynllunio farn ar yr awgrym bod rhai o’r asiantaethau hynyn  methu ag ymateb oherwydd pwysau gwaith.

 

(ch)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pharchu'r amod archeolegol, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r amod yma.

 

(c)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â llygredd golau a’r effaith debygol ar yr amgylchedd naturiol sydd yn ffinio’r datblygiad, cyfeiriwyd at baragraff 5.8 o’r adroddiad lle nodi’r bod bwriad gan y datblygwr i osod goleuadau LED ar bolion ac ar folardiau sydd wedi eu dylunio i liniaru  llygredd goleuni. Eglurwyd bod potensial i lygredd goleuni fod yn niwsans i drigolion ac i niweidio bywyd gwyllt. Ystyriwyd y byddai’n rhesymol gosod amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio i gyflwyno cynllun goleuo manwl i sicrhau na fydd niwed annerbyniol yn deillio o’r agwedd hon.

 

(dd)   Mewn ymateb i sylw gan Chwaraeon Cymru y byddai’r datblygiad yn gyfrifol am golli cae chwarae a chwrt gemau ynghyd a’r angen statudol i warchod isafswm gofynnol o ran maint y cae chwarae, nododd y Rheolwr Cynllunio bod llawer o’r safle fel y mae yn anaddas ar gyfer cynnal chwaraeon gan ei fod ar lethr. Ategwyd bod y pryderon wedi eu cyfarch ac y byddai’r ddarpariaeth a gyflwynir gyda’r cynllun yn welliant sylweddol - yn gynnydd o 300m2.

 

(e)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod angen sicrwydd y gall y ganolfan gymunedol barhau fel safle sydd yn agored i’r cyhoedd ar gyfer oriau a chyfnodau tu hwnt i amserlen yr ysgol

·         Bod y datblygiad yn brosiect cyffrous

·         Bod cyfle yma i dacluso’r safle

·         Bod y cynlluniau yn gwella diogelwch ffyrdd

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais gan ddirprwyo’r hawl i’r Uwch Swyddog caniatau’r cais yn ddarostyngedig i’r cyfnod ail-ymgynhori gyda Cyngor Chwaraeron Cymru dod i ben ac i amodau ychwanegol yn ymwneud a chyflwyno cynllun golau a chynllun rheoli traffig ac i’r amodau isod.

 

1.      Amser (5 mlynedd)

2.      Yn unol â’r cynlluniau

3.      Cytuno ar ddeunyddiau a lliwiau terfynol

4.      Amodau trafnidiaeth

5.      Cyflwyno a chytuno Datganiad Dulliau Adeiladu Amgylcheddol manwl ar gyfer y cyfnod o ddatblygu’r safle i gynnwys cyfyngiadau ar oriau gweithio ar y safle.

6.      Cyflwyno a chytuno Cynllun Ffiniau Manwl

7.      Rhaid dilyn yn union argymhellion yr Arolwg Ecolegol

8.      Cyn i’r ysgol ddod yn weithredol rhaid cyflwyno a chytuno Cynllun Dymchwel ar gyfer y ganolfan gymunedol bresennol a fydd yn cynnwys amserlen ar gyfer y gwaith dymchwel ac adfer tir.

9.      Amod Archeolegol

10.   Dim datblygu o fewn y Safle Bywyd Gwyllt dynodedig heb ganiatâd ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

Nodiadau

1.   Dŵr Cymru

2.   Priffyrdd

3.   Cyfoeth Naturiol Cymru

4.   Cyngor safonol parthed SUDS

 

Dogfennau ategol: