· Cynnig Prifysgol Bangor ‘Re-connect’.
· Ymateb llythyr gan Kirsty Williams.
Cofnod:
CYNNIG PRIFYSGOL BANGOR –‘RE-CONNECT’:
Mynegodd y Cynghorydd Menna Baines,
ddiddordeb yn y newidiadau sydd ar droed yn yr Adran Addysg yn y Brifysgol ym
Mangor. Materion sy’n creu pryder yn y Sir am ddyfodol hyfforddi athrawon sy’n
addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog yng Ngwynedd.
Ymatebodd y Cadeirydd bod y wybodaeth bellach
yn gyhoeddus a bod ymddiswyddiadau athrawon yn dilyn yn brifysgol, bydd hyn yn
cael effaith mawr ar Addysg yn gyffredinol, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nododd y Cadeirydd, mae yn y cyfarfod
diwethaf gofynnwyd am ystadegau ar nifer o ddisgyblion yn y Sir sydd yn sefyll
TGAU a lefel A, mewn Addysg Grefyddol.
Mae posibilrwydd o ddefnyddio'r ystadegau hyn i fedru monitro a chael
gweld y nifer o fyfyrwyr a all symud ymlaen i ddilyn y pwnc i addysgu.
Gweler
yr ystadegau isod:
Coleg
Meirion Dwyfor (Haf 2018) Lefel A AS Pwllheli 3
(1 Cym) 5 (3 Cym) Dolgellau 0 1 (Saes) Coleg
Menai 0 0 |
|
Ysgolion
Gwynedd (Haf 2018) AS
|
Lefel A
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
TGAU
|
TGAU
byr
|
Mynegodd y Cadeirydd i’r Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG,
yrru'r ystadegau hyn i’r Aelodau er gwybodaeth.
Nododd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Menna Baines, eu bod wedi ymweld â
Joshua Andrews, a’i gydweithiwr yn y Brifysgol ym Mangor yn Rhagfyr 2018. Gwaith yn dilyn ar ddarparu deunyddiau ar
hyfforddi cyrsiau i athrawon o fewn y pwnc Addysg Grefyddol, wedi eu cwblhau yn
y Gymraeg a Saesneg, roeddynt hefyd ar fin lansio gwefan gyda’r manylion. Maent
wedi cysylltu â Phenaethiaid ysgolion uwchradd gyda’r wybodaeth yma, er mwyn
i’r deunyddiau gael eu rhannu ymlaen i’r athrawon.
PENDERFYNWYD:
Cadw golwg ar y mater gan adrodd yn nôl i’r
pwyllgor yn Nhachwedd 2019.
YMATEB LLYTHYR KIRSTY WILLIAMS:
Ymateb i lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyda
chyfarwyddion gan y Gweinyddwr Addysg a Chadeirydd y pwyllgor, ynglŷn â
phryderon am ddiffyg deunyddiau adolygu yn y Gymraeg ar gyfer y cwrs TGAU
Astudiaethau Crefyddol newydd.
Sylwadau a godwyd:
Nodwyd gan yr Aelodau bod y llythyr yn codi pryder, gan amlygu tri pwynt
yn bennaf:
·
Menter fasnachol ydi
cynhyrchu gwers lyfrau o’r Saesneg i’r Gymraeg.
·
Mater i’r cyhoeddwyr yw
penderfynu mentro creu adnodd neu beidio?
·
Rwyf
wedi ymrwymo i wella’r
ddarpariaeth o adnoddau perthnasol ac amserol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer
ein dysgwyr?
Nid yw’r pwyntiau uchod yn ymateb cadarn i lythyr gwreiddiol yrrwyd gan
Garem Jackson i Kirsty Williams. Mae'r
pwyntiau uchod yn cyfleu argraff ar yr Aelodau, ar pam mae'r dewis o amseru
argraffu deunyddiau Cymraeg yn benderfyniad i’r cyhoeddwyr?
PENDERFYNWYD:
Ysgrifennu yn ôl at Kirsty Williams,
Gweinidog dros Addysg yng Nghymru, y Gweinidog Cysgodol Sian Gwenllïan (Aelod
Seneddol dros Arfon). Gofynnwyd y
pwyllgor i’r Swyddog Adnoddau Addysg
Gynorthwyol a Chlerc CYSAG ysgrifennu at y rhain gan gyfleu ein pryder fel
pwyllgor statudol ar yr ymateb a gafwyd.
Ychwanegwyd bod angen dychwelyd y llythyr i’r Pwyllgor Craffu Addysg ag
Economi gan nodi'r pryderon a godwyd yng nghyfarfod y pwyllgor hwn.
Dogfennau ategol: