I dderbyn cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 15 Hydref 205.
Cofnod:
Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw gynhaliwyd ar y 15 Hydref 2015.
Penderfynwyd: Derbyn
a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir.
2.1 Materion yn Codi o’r cofnodion:
(a)
Gaeafau Cychod
Mewn
ymateb i ymholiad ynglŷn â gaeafu cychod ar
ran o’r maes parcio, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn dilyn trafodaeth
gyda Mr Colin Jones, Rheolwr Parcio a Diogelwch bod yr egwyddor yn dderbyniol
ond bod angen trafodaethau ar sut i weinyddu’r
trefniadau, cyfrifoldeb am
y cychod, a.y.b. Bu trafodaethau ynglŷn â chost ar ffurf “bond” rhwng £300-£500 fel blaendal ar gyfer
unrhyw lanhau byddai angen ar
ôl symud y cychod. Fel ffordd ymlaen,
awgrymodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i Aelodau ofyn i’w cymdeithasau
os oes diddordeb
yn y ddarpariaeth uchod ac iddynt gofnodi eu diddordeb
gyda’r Harbwr Feistr ac yna gellir
ymrwymo i’r cynllun erbyn gaeaf
nesaf.
Penderfynwyd: Gofyn
i’r cymdeithasau gysylltu â’r Harbwr
Feistr os oes unrhyw ddiddordeb
gan unigolion i aeafu cychod
ar ran o’r maes parcio, fel
bo modd cwblhau’r
trefniadau angenrheidiol ymhellach.
(b)
Mynediad i
Gadeiriau Olwyn ar y Promenâd
Yn
deillio o’r drafodaeth ynglŷn â chyflwyno cais am grant i Gronfa’r Loteri
ar gyfer darparu mwy o fannau
mynediad i gadeiriau olwyn ar y promenad, rhoddwyd diweddariad gan y Cynghorydd Eryl
Jones-Williams nad oedd Grŵp Mynediad Meirionnydd wedi cyflwyno ceisiadau
eu hunain ddim ond fel
rhan o fudiadau eraill. Yn ychwanegol, ar hyn o bryd,
roedd y Grŵp Mynediad yn brin
o Ysgrifennydd a Thrysorydd. Teimlwyd hefyd pe byddai’r
Cyngor Tref yn sefydlu Grŵp
Mynediad Abermaw, byddai hyn yn
darnio'r grŵp ehangach sef Grŵp
Mynediad Meirionnydd. I ychwanegu at y broblem roedd y Cyngor wedi cael
gwared a swydd Swyddog Anabledd. Deallir mai oddeutu 4 man o’r “Black Patch” i Westy’r Arbour sydd yn anghyraeddadwy
i gadair olwyn.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(c)
Lansio o Bwynt Penrhyn
Mewn
ymateb i bryder ynglŷn â goruchwyliaeth lansio o Bwynt Penrhyn, esboniodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd
gan y Gwasanaeth y capasiti i anfon
staff i Bwynt Penrhyn ac mewn cydweithrediad a’r gymuned leol bod arwyddion wedi eu gosod yn
yr ardal. O safbwynt potensial i gael
gwirfoddolwyr i gynorthwyo, ni ragwelwyd unrhyw broblem pe byddai
3 / 4 unigolyn yn fodlon cynorthwyo o dan adain yr
Harbwr Feistr, yn ddibynnol ar
gymwysterau o safbwynt telerau yswiriant. Byddai’n fuddiol hefyd pe byddai
gweithredwyr yr ysgraff yn gallu
hysbysu’r Harbwr Feistr os ydynt
yn gweld cychod yn lansio
heb gofrestru.
Pwysleisiodd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig bod trefn ffurfiol i’w ddilyn sef
bod yn ofynnol i unigolion gwblhau
ffurflenni PG1 (manylion yr unigolion) a PG2 (asesiad risg).
Penderfynwyd: Gofyn
i’r Aelodau wneud ymholiadau gyda’u cymdeithasau er canfod gwirfoddolwyr i gynorthwyo’r Harbwr Feistr gyda
lansiadau heb eu cofrestru o Bwynt Penrhyn ac iddynt gysylltu gyda’r Harbwr Feistr,
os oes unrhyw
ddiddordeb.
Dogfennau ategol: