I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies ar weithgareddau harbwr Abermaw gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-
(A) Cod Diogelwch Harbyrau
Atgoffwyd
Aelodau nad oedd y Cod Diogelwch yn statudol
a byddir yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gan
Aelodau ar faterion iechyd a diogelwch.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(B) Mordwyo ac Angorfeydd
Adroddwyd:
(i)
Bod
y Gwasanaeth wedi buddsoddi yn sylweddol
yn y cymhorthion a oedd yn cynnwys
goleuadau, cadwyni, a.y.b. ac o ganlyniad bod pob un ar ei
safle priodol ar hyn o bryd.
(ii)
Bod
angen gosod goleuadau ar rhai
cymhorthyddion ond nid oedd y Gwasanaeth
yn orbryderus gan fod gwyliau’r
Pasg yn gynnar
eleni ac na fyddai efallai lawer o gychod ar y dŵr. Fodd bynnag sicrhawyd y byddai’r Uwch Swyddog
Harbyrau a’r Harbwr Feistr yn
eu gosod cyn gynted ag y bo modd.
(iii)
Y
byddir yn ystyried buddsoddiad flwyddyn nesaf i osod bwi
starbord ger y morglawdd fel bo
modd i gychod
ymwelwyr fordwyo i’r Harbwr yn
rhwydd
(iv)
Derbyniwyd archwiliad gan Ty’r Drindod
ynghyd ag awdit trylwyr ac o ganlyniad pwysleisiwyd i’r trefniadau gweinyddol fod i fyny
i safon
(v)
Cytunwyd i beidio gwneud buddsoddiad
yn y bwiau traeth heblaw'r porth wrth ymyl
pont droed y rheilffordd
(vi)
Bod
y Gwasanaeth wedi cysylltu hefo perchnogion
angorfeydd ac allan o’r nifer o gwsmeriaid
presennol derbyniwyd 60 o geisiadau hyd yma
sydd yn lleihad
o’i gymharu a’r blynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, nodwyd
bod y trend morwrol yn lleihau ymhob harbwr
(vii)
Pwysleisiwyd na fyddir yn caniatáu
cychod angori yn yr harbwr
oni bai bod y gwaith gweinyddol ysgrifenedig yn gyflawn a chywir sy’n cynnwys dogfennaeth
yswiriant, tystysgrif angorfa, a.y.b.
(viii)
Fe
fyddir yn gofyn i’r contractwr
lleol dynnu’r angorfeydd sydd ddim mewn defnydd
ac ni fydd unigolion yn cael
hawlio lleoliadau penodol
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(C) Materion Harbwr
Adroddwyd:
(i)
Bod
oddeutu £8,000 wedi ei fuddsoddi i
atgyweirio'r pontŵn llynedd ac erbyn hyn wedi bod yn
rhan o gyfrifoldeb y Gwasanaeth Harbwr ac ni wyddys pa mor
hir y gellir ei gynnal a’i
gadw o ystyried yr hinsawdd ariannol
sydd ohoni a chyn lleied o incwm
yn dod ohono. Pwysleiswyd mai at ddefnydd ymwelwyr yn unig
ydoedd bwriad y pontwn ac y byddai’r Harbwr Feistr yn
monitro’r defnydd. Nodwyd ymhellach y byddir yn trefnu i
roi'r bysedd yn ol ar
y pontwn yn fuan.
Mewn ymateb
i ymholiadau gan Aelodau unigol, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig:
·
Bod
yn rhaid cael rheolaeth ar gychod lleol
sy’n angori ar y pontwn
·
O
safbwynt cwch yr Harbwr wedi
ei angori ar y pontwn, bod llawer o waith atgyweirio ar y cwch ac fe fyddai’n
rhaid ystyried ffyrdd amgen o gyrraedd at y cwch megis trefniadau fel sy’n bodoli
yn Aberdyfi sydd wedi angori
gyda chwch gweini ar gael
i fynd ati
·
Nid cyfrifoldeb yr Harbwr Feistr
ydoedd ymateb i argyfwng yn
yr Harbwr ond yn hytrach
i’r Gwasanaethau Brys a’r Bad Achub
ond wrth gwrs fe fyddai’r
Gwasanaeth Morwrol yno i gynorthwyo
pe byddai angen
(ii)
Bod
oddeutu 47 ciwb medr o goncrid wedi ei ddefnyddio
i atgyweirio'r gerddi, 1,000 litr o resin ynghyd a 16 ciwb medr i wal
y cei ac nid oedd hyn yn
ddigonol i lenwi’r gwagleoedd.
(iii)
Hyderir y byddai’r ysgraff yn gweithredu
erbyn y Pasg ond apeliwyd ar
y gweithredwyr i gyflwyno ceisiadau am drwydded mewn da bryd gan nad
oedd diwrnod neu ddau o rybudd
yn ddigonol i’r Gwasanaeth Morwrol fedru eu
prosesu.
Nododd Aelod
bod yn rhaid bod yn llym o safbwynt
derbyn ceisiadau mewn pryd i’w
prosesu ac y dylid nodi na fydd
unrhyw drwydded yn cael ei
brosesu oni bai bod y ddogfennaeth briodol wedi eu
cyflwyno erbyn y dyddiad dynodedig.
(iv)
Bod
trefniadau mewn lle ar gyfer
y consesiynau traethau er mwyn cael
gwell rheolaeth ar weithgareddau glan y môr. Hysbysebir y consesiynau yn y papurau lleol gan
wahodd unrhyw fusnes i gyflwyno
cais. Byddir wedyn yn
asesu’r ceisiadau er mwyn sicrhau
bod pob consesiwn yn cydymffurfio a’r gofynion priodol. Derbyniwyd un cais cyflawn ar
gyfer gweithgareddau trampolîn / siglenni / mulod.
(v)
O
safbwynt symud tywod, nodwyd nad
oedd Ymgynghoriaeth Gwynedd
yn symud tywod eleni ond
fe fyddir yn ceisio cadw’r
llwybrau yn glir dros fisoedd
yr haf. Ychwanegwyd bod gwaith sylweddol wedi ei gyflawni
yn y gorffennol ond nad oedd
cyllideb ar gael i logi
peiriannau i’w symud ond byddai’r
Harbwr Feistr yn monitro’r sefyllfa.
Adroddodd y Cadeirydd
bod oddeutu 15-20 tunnell o
dywod wedi ei symud yn
y gorffennol a bod trafodaethau
yn mynd rhagddynt
gyda’r Cyngor Tref, Cynllun Rheoli
Traethlinau, ac eraill ar gyfer datrys
y broblem yn y tymor hir ac fe
fyddir yn rhoi ystyriaeth i’r twyni, “marram grass”, gweithgareddau, a.y.b.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(CH) Cyllidebau Harbyrau
Cyflwynwyd
taflen yn crynhoi’r cyllidebau i’r Aelodau a thywyswyd hwy drwy’r penawdau
gan dynnu sylw bod targed incwm yr Harbwr
yn £45,100 gyda £43,637.69 eisoes wedi ei
wario a diffyg o £9,296.91 ar ddiwedd Chwefror
2016.
Cyfeiriwyd
at y ffioedd a thaliadau
a fydd yn codi 1% ar
gyfer 2016-17. Tynnwyd sylw bod ffi trwydded
Angorfeydd Trwyn y Gwaith wedi lleihau
i gyfiawnhau nad oedd darpariaeth
mewn rhannau penodol o’r môrgainc.
Tynnwyd
sylw bod cyfanswm targed incwm yr
Harbyrau yn oddeutu £2m gyda chwyddiant ar incwm
yn 0.70%.
Pwysleiswyd bod blwyddyn heriol
yn wynebu’r Gwasanaeth o safbwynt cyllidebau / toriadau ac mai dim ond cyfrifoldeb dros y traethau hynny sydd wedi
bod yn llwyddiannus mewn derbyn gwobr
Baner Las fyddai’n syrthio ar y Gwasanaeth
Harbwr.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(D) Staff
Harbwr
Adroddwyd:
·
bod
swydd Cymhorthydd Harbwr wedi ei
hysbysebu gyda chyfweliadau i’w cynnal yn fuan.
·
Y
byddai’r Harbwr Feistr a’r Uwch
Swyddog Harbyrau ar ddyletswydd dros wyliau’r Pasg
·
Hyderir y byddir yn penodi 4 Swyddog
Traeth ar gyfer y tymor
·
Apeliwyd ar Aelodau i gysylltu gyda’r
Harbwr Feistr, os oes unrhyw
waith a ragwelir i’w gwblhau neu
os oes ganddynt
bryder ynglŷn ag unrhyw fater
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(E) Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, lythyr a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol
Cymru parthed ymgynghoriad ar ardaloedd cadwraeth arbennig arfaethedig ar gyfer llamhidyddion
yr Harbwr ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig arfaethedig newydd ac estynedig ar gyfer adar
y môr.
Nodwyd,
mewn ymateb i ymholiad, nad
oedd y Gwasanaeth yn cyflwyno ymateb.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
(F) Gwasanaeth Cofio - Cwch Fferi'r
“Prince of Wales”
Deallwyd
bod bwriad i gynnal Gwasanaeth Cofio'r trychineb uchod ar 22 Mehefin
1966 gyda Chyngor Tref Dolgellau yn arwain. Bu i’r Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn gwrdd gyda Chyngor
Tref Dolgellau. Teimlwyd y dylai’r plac coffa
gael ei osod
ar dir y Parc Cenedlaethol. Nodwyd pryder ynglŷn
â’r oediad mewn gwneud cysylltiadau.
Yn
ogystal teimlwyd y dylai dau unigolyn
sef Mr Ron Davies o Bontddu
ac Mr Williams o Brithdir a oedd
yn gweithio i’r Cyngor ar
y pryd dderbyn cydnabyddiaeth am eu dewrder mewn achub
bywyd bachgen bach 7 mlwydd oed
o’r trychineb.
Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod.
Dogfennau ategol: