skip to main content

Agenda item

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Cyflwynwyd:             Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies ar weithgareddau harbwr Abermaw gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:-

 

 

(A)       Cod Diogelwch Harbyrau

 

Atgoffwyd Aelodau nad oedd y Cod Diogelwch yn statudol a byddir yn gwerthfawrogi unrhyw sylwadau sydd gan Aelodau ar faterion iechyd a diogelwch. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(B)       Mordwyo ac Angorfeydd

 

Adroddwyd:

 

(i)            Bod y Gwasanaeth wedi buddsoddi yn sylweddol yn y cymhorthion a oedd yn cynnwys goleuadau, cadwyni, a.y.b. ac o ganlyniad bod pob un ar ei safle priodol ar hyn o bryd.

(ii)           Bod angen gosod goleuadau ar rhai cymhorthyddion ond nid oedd y Gwasanaeth yn orbryderus gan fod gwyliau’r Pasg yn gynnar eleni ac na fyddai efallai lawer o gychod ar y dŵr.  Fodd bynnag sicrhawyd y byddai’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr Feistr yn eu gosod cyn gynted ag y bo modd. 

(iii)          Y byddir yn ystyried buddsoddiad flwyddyn nesaf i osod bwi starbord ger y morglawdd fel bo modd i gychod ymwelwyr fordwyo i’r Harbwr yn rhwydd

(iv)         Derbyniwyd archwiliad gan Ty’r Drindod ynghyd ag awdit trylwyr ac o ganlyniad pwysleisiwyd i’r trefniadau gweinyddol fod i fyny i safon

(v)          Cytunwyd i beidio gwneud buddsoddiad yn y bwiau traeth heblaw'r porth wrth ymyl pont droed y rheilffordd

(vi)         Bod y Gwasanaeth wedi cysylltu hefo perchnogion angorfeydd ac allan o’r nifer o gwsmeriaid presennol derbyniwyd 60 o geisiadau hyd yma sydd yn lleihad o’i gymharu a’r blynyddoedd blaenorol.  Fodd bynnag, nodwyd bod y trend morwrol yn lleihau ymhob harbwr

(vii)        Pwysleisiwyd na fyddir yn caniatáu cychod angori yn yr harbwr oni bai bod y gwaith gweinyddol ysgrifenedig yn gyflawn a chywir sy’n cynnwys dogfennaeth yswiriant, tystysgrif angorfa, a.y.b.

(viii)       Fe fyddir yn gofyn i’r contractwr lleol dynnu’r angorfeydd sydd ddim mewn defnydd ac ni fydd unigolion yn cael hawlio lleoliadau penodol

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(C)       Materion Harbwr

 

Adroddwyd:

 

(i)            Bod oddeutu £8,000 wedi ei fuddsoddi i atgyweirio'r pontŵn llynedd ac erbyn hyn wedi bod yn rhan o gyfrifoldeb y Gwasanaeth Harbwr ac ni wyddys pa mor hir y gellir ei gynnal a’i gadw o ystyried yr hinsawdd ariannol sydd ohoni a chyn lleied o incwm yn dod ohono.  Pwysleiswyd mai at ddefnydd ymwelwyr yn unig ydoedd bwriad y pontwn ac y byddai’r Harbwr Feistr yn monitro’r defnydd.  Nodwyd ymhellach y byddir yn trefnu i roi'r bysedd yn ol ar y pontwn yn fuan.

 

Mewn ymateb i ymholiadau gan Aelodau unigol, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig:

 

·         Bod yn rhaid cael rheolaeth ar gychod lleol sy’n angori ar y pontwn

·         O safbwynt cwch yr Harbwr wedi ei angori ar y pontwn, bod llawer o waith atgyweirio ar y cwch ac fe fyddai’n rhaid ystyried ffyrdd amgen o gyrraedd at y cwch megis trefniadau fel sy’n bodoli yn Aberdyfi sydd wedi angori gyda chwch gweini ar gael i fynd ati

·         Nid cyfrifoldeb yr Harbwr Feistr ydoedd ymateb i argyfwng yn yr Harbwr ond yn hytrach i’r Gwasanaethau Brys a’r Bad Achub ond wrth gwrs fe fyddai’r Gwasanaeth Morwrol yno i gynorthwyo pe byddai angen

 

(ii)                   Bod oddeutu 47 ciwb medr o goncrid wedi ei ddefnyddio i atgyweirio'r gerddi, 1,000 litr o resin ynghyd a 16 ciwb medr i wal y cei ac nid oedd hyn yn ddigonol i lenwi’r gwagleoedd.

 

(iii)          Hyderir y byddai’r ysgraff yn gweithredu erbyn y Pasg ond apeliwyd ar y gweithredwyr i gyflwyno ceisiadau am drwydded mewn da bryd gan nad oedd diwrnod neu ddau o rybudd yn ddigonol i’r Gwasanaeth Morwrol fedru eu prosesu.

 

Nododd Aelod bod yn rhaid bod yn llym o safbwynt derbyn ceisiadau mewn pryd i’w prosesu ac y dylid nodi na fydd unrhyw drwydded yn cael ei brosesu oni bai bod y ddogfennaeth briodol wedi eu cyflwyno erbyn y dyddiad dynodedig.  

 

(iv)         Bod trefniadau mewn lle ar gyfer y consesiynau traethau er mwyn cael gwell rheolaeth ar weithgareddau glan y môr.  Hysbysebir y consesiynau yn y papurau lleol gan wahodd unrhyw fusnes i gyflwyno cais.  Byddir wedyn yn asesu’r ceisiadau er mwyn sicrhau bod pob consesiwn yn cydymffurfio a’r gofynion priodol.  Derbyniwyd un cais cyflawn ar gyfer gweithgareddau trampolîn / siglenni / mulod.

 

(v)          O safbwynt symud tywod, nodwyd nad oedd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn symud tywod eleni ond fe fyddir yn ceisio cadw’r llwybrau yn glir dros fisoedd yr haf.  Ychwanegwyd bod gwaith sylweddol wedi ei gyflawni yn y gorffennol ond nad oedd cyllideb ar gael i logi peiriannau i’w symud ond byddai’r Harbwr Feistr yn monitro’r sefyllfa.

 

Adroddodd y Cadeirydd bod oddeutu 15-20 tunnell o dywod wedi ei symud yn y gorffennol a bod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda’r Cyngor Tref, Cynllun Rheoli Traethlinau, ac eraill ar gyfer datrys y broblem yn y tymor hir ac fe fyddir yn rhoi ystyriaeth i’r twyni, “marram grass”, gweithgareddau, a.y.b. 

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(CH)    Cyllidebau Harbyrau

 

Cyflwynwyd taflen yn crynhoi’r cyllidebau i’r Aelodau a thywyswyd hwy drwy’r penawdau gan dynnu sylw bod targed incwm yr Harbwr yn £45,100 gyda £43,637.69 eisoes wedi ei wario a diffyg o £9,296.91 ar ddiwedd Chwefror 2016.  

 

Cyfeiriwyd at y ffioedd a thaliadau a  fydd yn codi 1% ar gyfer 2016-17. Tynnwyd sylw bod ffi trwydded Angorfeydd Trwyn y Gwaith wedi lleihau i gyfiawnhau nad oedd darpariaeth mewn rhannau penodol o’r môrgainc. 

 

Tynnwyd sylw bod cyfanswm targed incwm yr Harbyrau yn oddeutu £2m gyda chwyddiant ar incwm yn 0.70%.

 

Pwysleiswyd bod blwyddyn heriol yn wynebu’r Gwasanaeth o safbwynt cyllidebau / toriadau ac mai  dim ond cyfrifoldeb dros y traethau hynny sydd wedi bod yn llwyddiannus mewn derbyn gwobr Baner Las fyddai’n syrthio ar y Gwasanaeth Harbwr.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(D)       Staff Harbwr

 

Adroddwyd:

 

·         bod swydd Cymhorthydd Harbwr wedi ei hysbysebu gyda chyfweliadau i’w cynnal yn fuan.

·         Y byddai’r Harbwr Feistr a’r Uwch Swyddog Harbyrau ar ddyletswydd dros wyliau’r Pasg

·         Hyderir y byddir yn penodi 4 Swyddog Traeth ar gyfer y tymor

·         Apeliwyd ar Aelodau i gysylltu gyda’r Harbwr Feistr, os oes unrhyw waith a ragwelir i’w gwblhau neu os oes ganddynt bryder ynglŷn ag unrhyw fater 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(E)       Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, lythyr a dderbyniwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru parthed ymgynghoriad ar ardaloedd cadwraeth arbennig arfaethedig ar gyfer llamhidyddion yr Harbwr ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig arfaethedig newydd ac estynedig ar gyfer adar y môr.

 

Nodwyd, mewn ymateb i ymholiad, nad oedd y Gwasanaeth yn cyflwyno ymateb.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(F)       Gwasanaeth Cofio - Cwch Fferi'r “Prince of Wales”

 

Deallwyd bod bwriad i gynnal Gwasanaeth Cofio'r trychineb uchod ar 22 Mehefin 1966 gyda Chyngor Tref Dolgellau yn arwain.  Bu i’r Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn gwrdd gyda Chyngor Tref Dolgellau. Teimlwyd y dylai’r plac coffa gael ei osod ar dir y Parc Cenedlaethol. Nodwyd pryder ynglŷn â’r oediad mewn gwneud cysylltiadau.

 

Yn ogystal teimlwyd y dylai dau unigolyn sef Mr Ron Davies o Bontddu ac Mr Williams o Brithdir a oedd yn gweithio i’r Cyngor ar y pryd dderbyn cydnabyddiaeth am eu dewrder mewn achub bywyd bachgen bach 7 mlwydd oed o’r trychineb.    

 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

Dogfennau ategol: