Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid.
Cofnod:
Nododd yr Aelod
Cabinet Cyllid y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet ar 21 Mai 2019. Diolchodd
i’r Cynghorydd Peredur Jenkins, y cyn Aelod Cabinet Cyllid, am ei waith a’i
ymrwymiad i sicrhau sefyllfa ariannol y Cyngor mewn adeg anodd. Pwysleisiodd
bod yr Aelodau Cabinet yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb i gadw at y gyllideb.
Nododd nad ellid parhau i orwario ar Wasanaethau Plant ac yn y maes cludiant
ysgolion.
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar
gynnwys yr adroddiad. Nododd yn gyffredinol, bu rheolaeth ariannol effeithiol,
yn wyneb y gofynion i gyflawni arbedion.
Tynnodd sylw
at benderfyniad y Cabinet:
1.1
Nodi
sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2018/19.
1.2
Cymeradwyo’r symiau i’w cario
ymlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1) sef
–
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a
Llesiant |
15 |
Plant a Theuluoedd |
100 |
Addysg |
100 |
Economi a Chymuned |
28 |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
100 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth Gwynedd |
(59) |
Tîm rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(76) |
Cyllid |
(59) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(61) |
1.3
Cymeradwyo’r
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn
Atodiad 2) –
·
Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn
cymorth ariannol un-tro o £1,544k i gyfyngu
lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her
2019/20.
·
Yr Adran Addysg i dderbyn cymorth
ariannol rhannol un-tro o £16k gan gyfyngu
lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k.
·
Digolledu'r Adran Economi a Chymuned £157k, sef swm y gorwariant o ganlyniad i lithriad yn yr amserlen sefydlu cwmni
Byw'n Iach i redeg y cyfleusterau hamdden, sydd felly yn cyfyngu lefel y
gorwariant i'w gario ymlaen gan yr Adran i £28k.
·
Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £518k i
gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr Adran i £100k, i'w
cynorthwyo i wynebu her 2019/20.
·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw
at y drefn arferol i ganiatáu i'r
Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud (£392k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i
gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario
yn 2018/19.
·
Ar gyllidebau Corfforaethol, trosglwyddo:
- (£19k) cysylltiedig â'r premiwm Treth y Cyngor i gronfa benodol
i'w
ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.
- (£551k) yn ymwneud â chostau cyfalaf i gronfa ariannu'r
rhaglen gyfalaf.
- (£738k) ar gynnal a chadw i gronfa cynnal a chadw.
·
Defnyddio (£1,843k) o'r
tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol i
gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn
2018/19.
·
Bydd gweddill tanwariant Corfforaethol
(£173k) yn mynd i falansau cyffredinol y
Cyngor.
1.4 Cymeradwyo’r
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd a darpariaethau penodol fel yr amlinellir
yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd a darpariaethau, sef:
·
Cynaeafu (£3.931m) o gronfeydd a (£69k) o
ddarpariaethau.
·
Trosglwyddo £3m i’r Gronfa Trawsffurfio ar gyfer Cynllun
y Cyngor.
·
Trosglwyddo £1m i Falansau
Cyffredinol y Cyngor.
·
Neilltuo £262k am gyfnod o flwyddyn o’r gronfa
Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i bontio’r
ffynhonnell ariannu ymrwymiadau perthnasol i’r Gronfa
Bensiwn.”
Nododd bod yr
Adran Gyllid wedi cynhyrchu datganiadau ariannol statudol 2018/19 cyn 31 Mai a
bod y cyfrifon yn cael eu harchwilio gan yr Archwilwyr Allanol. Cadarnhaodd y
cyflwynir y cyfrifon gerbron y Pwyllgor ar 29 Gorffennaf yn dilyn yr
archwiliad. Ymhelaethodd y byddai’r holl broses o gau’r cyfrifon, cynhyrchu’r
datganiad a’r archwiliad allanol wedi ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf yn
hytrach na diwedd mis Medi mewn blynyddoedd blaenorol.
Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd
y prif bwyntiau a ganlyn:-
·
Bod gorwariant yr Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd cyfystyr ac oddeutu 15% o gyllideb yr Adran. Roedd
yr Adran yn derbyn canmoliaeth am eu gwaith ac fe allai adrannau eraill wneud
gwaith canmoladwy pe byddent hwythau yn gorwario. Yn rhagweld sefyllfa gorwario
debyg gan y Cyngor yn 2019/20, er rhoddir sylw i’r gorwariant. Parthed sefyllfa
ariannol Storiel, a oedd y sefyllfa wedi gwaethygu
ers i’r Cyngor gymryd rheolaeth o’r caffi yn dilyn darparwr preifat yn ildio
rheolaeth?
·
A oedd y gyllideb yn
realistig o ystyried bod rhai meysydd yn gorwario yn flynyddol?
·
Bod angen bod yn gadarn
gyda’r gwasanaethau a oedd yn gorwario, er bod y gorwariant yn deillio o
faterion sensitif nid oedd y sefyllfa yn deg ar y rhai yn darparu o fewn eu
cyllideb. Roedd angen atal y gorwario os yn bosib.
·
Bod amgylchiadau allan o
reolaeth y Cyngor yn effeithio ar berfformiad ariannol Adrannau gyda’r sefyllfa
yn adlewyrchiad o gymdeithas. Ei fod yn sefyllfa anodd a oedd yn mynd i
waethygu gan nad oedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain yn rhoi rhagor o
gyllid i Llywodraeth Leol.
·
Ei fod yn bwysig
ystyried os oedd y gyllideb yn addas gan asesu sut roedd y Cyngor yn cymharu â
chynghorau eraill wrth ystyried y gorwariant.
·
Bod angen edrych ar y
rhesymau am y gorwariant gan ystyried os oedd y gorwariant yn angenrheidiol ac
yn ymateb i ofynion statudol.
·
Yng nghyswllt lleoliadau
all-sirol, a oedd yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn ystyried darparu
cyfleuster yng Ngwynedd?
Ymatebodd y
swyddogion i’r cwestiynau a sylwadau, fel a ganlyn:-
·
Bod diffyg yn sefyllfa
ariannol Storiel yn deillio o ddarparwr preifat yn
ildio rheolaeth o’r caffi a’r Cyngor yn mewnoli rheolaeth. Roedd diffyg o
ganlyniad i gostau staffio ychwanegol.
·
Bod sefyllfa ariannol yr
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd ddim yn unigryw i Wynedd a bod y sefyllfa yn
derbyn sylw gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn rhoi pwysau ar Lywodraeth
Prydain i ariannu gofal cymdeithasol yn briodol. Nid oedd Llywodraeth Prydain
wedi cychwyn ar ei adolygiad gwariant cynhwysfawr oherwydd y ffocws ar
ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, ac o ganlyniad disgwylir bydd
yn heriol i ariannu gwasanaethau erbyn
2020/21. Gosodwyd cyllideb yr Adran ar gyfer 2019/20 drwy roi ystyriaeth i
dueddiadau, gyda lleoliadau plant wedi cynyddu yn sylweddol, a chynnydd mewn
achosion dwys. Rhoddwyd sylw i sefyllfa ariannol yr Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd yng nghyfarfod y Cabinet ar 21 Mai. Rhagwelwyd y byddai’r Adran yn
gorwario yn 2019/20, a darparwyd cyllideb wrth gefn yn gyllideb y Cyngor ar
gyfer sefyllfaoedd a allai godi.
·
Rhagwelwyd y byddai’r
adrannau a oedd yn tanwario yn parhau i danwario yn 2019/20 gydag adrannau
eraill yn gorwario mewn ymateb i argyfyngau. Roedd yn anodd cael cyllideb
gytbwys oherwydd y gofynion gwario.
·
Bod prosiect ar y gweill
gan Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cynghorau Gogledd Cymru o ran
lleoliadau, ond nid oedd llawer o gynnydd.
·
Bod y gyllideb yn
adlewyrchu’r galw am wasanaeth ar bwynt mewn amser, gyda chyllideb wrth gefn a
fyddai ar gael i’w ddefnyddio yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.
Dogfennau ategol: