Agenda item

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y digwyddiadau yn rhan o’i orffennol a’i fod bellach yn ceisio am swydd fyddai’n rhoi mwy o hyblygrwydd iddo gefnogi ei wraig a’i blant. Roedd ei ddarpar gyflogwr yn gefnogol i’w gais.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr yn ystod y gwrandawiad

·         geirda a dderbyniodd gan yr Aelod Lleol

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

   ch)    Derbyniodd yr ymgeisydd ddwy gollfarn yn Ionawr 1990 gan Lys Ynadon Caernarfon am droseddau o ddifrod troseddol yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £50, iawndal o £423 a chostau o £15. Nododd yr ymgeisydd yn ei ffurflen gais ei fod yn 1992 wedi cael ei wahardd rhag gyrru oherwydd trosedd o yfed a gyrru. Cadarnhaodd bod y gwaharddiad wedi dod i ben yn 1993.

 

    d)     Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt          wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae adran 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais ac fe nodir ym mharagraff 6.5 o’r Polisi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ddifrod troseddol sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae'r paragraff yn rhestru troseddau ac mae difrod troseddol yn cael ei gynnwys yn y rhestr. Mae paragraff 6.6 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd o fewn y 10 mlynedd diwethaf.

 

Mae paragraff 11.1 o bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag yfed a gyrru ac yn nodi na fyddai collfarn unigol yn arwain at wrthod cais (neu ddiddymu trwydded bresennol) ar yr amod bod 3 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben.  Mae adran 12.0 o’r polisi yn ymwneud a chollfarnau moduro gyda pharagraff 12.10 yn nodi y bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod os oes collfarn neu fater i’w ystyried wnaeth arwain at waharddiad o 12 mis neu fwy, oni bai bod 18 mis o leiaf wedi pasio ers diwedd y gwaharddiad

 

dd)         Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod troseddau 1990 yn droseddau o drais. Gan fod y troseddau hyn wedi digwydd dros 29 mlynedd yn ôl, sydd tu hwnt i’r cyfnod 10 mlynedd, nid oedd paragraff 6.6 o’r Polisi yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais. Wrth ystyried trosedd yfed a gyrru 1992, penderfynodd yr Is-bwyllgor, gyda 26 mlynedd wedi pasio ers i’r gwaharddiad ddod i ben, nad oedd modd gwrthod y cais o dan baragraffau 11.1 a 12.0.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.