Agenda item

 

BRAICH GOCH RED-ARM, BRAICH GOCH BUNKHOUSE and INN, CORRIS

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

1.            CAIS AM DRWYDDED EIDDO -  BRAICH GOCH RED-ARM, BRAICH GOCH BUNKHOUSE and INN, CORRIS

 

Ar ran yr eiddo:                     Maria P de la Pava Catano (ymgeisydd) ac H S Rodrigues 

 

Eraill a wahoddwyd:             Mark Mortimer (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd)

                                                Cyng. Simon Quincey (Is Gadeirydd Cyngor Cymuned Corris)

                                               

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Braich Goch Bunkhouse and Inn. Gwnaed y cais mewn perthynas â dangos dramâu a ffilmiau, chwarae cerddoriaeth byw, cerddoriaeth wedi ei recordio (ar ac oddi ar yr eiddo), perfformiadau o ddawns gan gynnwys adloniant arall, cyflenwi alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos. Y bwriad yw rhedeg yr eiddo fel canolfan addysgiadol, breswyl ac adnodd hanfodol i unigolion a sefydliadau cymunedol.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod 1 e-bost wedi ei dderbyn yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon diogelwch ffyrdd a niwsans sŵn ac 1 e-bost yn pryderu am yr oriau cerddoriaeth byw. Ategwyd bod Uned Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd wedi awgrymu amodau trwydded bellach a bod yr ymgeisydd wedi cytuno iddynt.

 

Amlygwyd bod Cyngor Cymuned Corris wedi cyflwyno sylwadau diwygiedig 3.6.19 ac fe gytunwyd i’r sylwadau hynny gael eu rhannu gyda’r ymgeisydd. Yn dilyn penderfyniad yr ymgeisydd i dderbyn amodau Gwarchod y Cyhoedd, roedd y cais diwygiedig yn sylweddol wahanol i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. O ganlyniad roedd Cyngor Cymuned Corris yn tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

c)            Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod y fenter yn gwmni buddiant cymunedol gydag amcanion elusennol

·         Ni fydd yr eiddo yn gweithredu fel bar – bydd defnydd y bar ar gyfer digwyddiadau yn unig, megis codi arian a chynnal perfformiadau

·         Y cwmni yn gweithio gydag oedolion ifanc drwy ddawns a ffilm

·         Ei bod yn barod i dderbyn yr amodau

·         Ei bwriad yw gweithio gyda’r gymuned ac felly bydd yn ceisio lleddfu pryderon sŵn

·         Bod y cwmni yn hunangynhaliol

·         Nad oedd bwriad bod ar agor drwy’r amser - dyddiadau penodol o ddigwyddiadau

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â darpariaeth i blant, nodwyd mai gweithio gydag oedolion ifanc (18+) oedd y prif fwriad ond byddai modd defnyddio ystafell arall ar gyfer plant os bydd angen.

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.

·         Yn dilyn penderfyniad yr ymgeisydd i newid yr oriau cau o 2am i 12am nodwyd bod yr oriau cau yn dderbyniol - tynnu gwrthwynebiad yn ôl

·         Bod angen pwysleisio pryder am sŵn - lleoliad yr eiddo o fewn y cwm, yn dueddol o gronni’r sŵn

·         Cais i’r perchennog annog cwsmeriaid i adael yr eiddo yn dawel ar ddiwedd digwyddiad

 

d)            Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd bod amodau / rheolau sŵn wedi eu cynnwys yn y drwydded. Wrth ymateb i sylw’r ymgeisydd bod yr amodau sŵn yn cynnwys gwybodaeth dechnegol iawn, nodwyd y byddai rhaid i’r ymgeisydd gadw o fewn y canllawiau neu byddai rhybudd yn cael ei osod. Byddai teclyn mesur sŵn yn cael ei osod yn yr adeilad a chyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd monitro lefelau sŵn a dilyn y canllaw.

dd)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â mynediad at y toiledau i’r anabl, amlygodd yr ymgeisydd y byddai ramp yn cael ei osod. Ategodd bod angen ail ystyried gosodiad i du mewn i’r adeilad gan nad yw mynedfa i'r toiledau yn ddelfrydol. Nododd y cyfreithiwr mai mater cynllunio fyddai ail-leoli’r toiledau ac y byddai‘r uned rheolaeth adeiladu yn debygol o ystyried hyn petai gais cynllunio yn cael ei gyflwyno i’r dyfodol.

e)            Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd sylwadau  ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd a phartïon â diddordeb yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

i.     Atal trosedd ac anhrefn

ii.   Atal niwsans cyhoeddus

iii.  Sicrhau diogelwch cyhoeddus

iv.  Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais fel y’i diwygiwyd yn dilyn trafodaethau rhwng yr ymgeisydd a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r e-byst a dderbyniwyd yn mynegi pryderon. Amlygwyd bod y Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu elfen y cais oedd yn gofyn am werthu alcohol a chwarae cerddoriaeth hyd at 2:00yb. Mynegwyd pryder y byddai hyn yn arwain at gynnydd mewn cwsmeriaid yn gadael yr eiddo yn feddw ac yn cerdded ar y ffordd fawr gerllaw. Byddai hyn yn tanseilio amcan trwyddedu o sicrhau diogelwch cyhoeddus. Pryderwyd hefyd y byddai cynnydd mewn sŵn yn tarfu trigolion gerllaw. Hyn yn tanseilio’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus.

Nid oedd yr Is Bwyllgor yn diystyru’r posibilrwydd y gall problemau yn ymwneud a diogelwch cyhoeddus godi mewn perthynas â chwsmeriaid meddw, ond ni ddaeth tystiolaeth i law yn nodi nifer, dwysedd nac amledd arfaethedig o gwsmeriaid ychwanegol fyddai yn cael eu denu i’r eiddo pe byddai trwydded yn cael ei chaniatáu. Amlygwyd hefyd nad oedd Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd, yr Asiantaeth Cefnffyrdd na Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno pryderon o ran diogelwch cyhoeddus. Yr un ystyriaeth a roddwyd i’r pryder am broblemau niwsans cyhoeddus. Ni chyflwynwyd tystiolaeth o’r nifer, dwysedd nag amledd digwyddiadau o’r fath ac felly anodd fyddai i’r Is bwyllgor ddod i gasgliad y byddai rhoi'r drwydded yn tanseilio niwsans cyhoeddus.

Er nad oedd gan Gwarchod y Cyhoedd wrthwynebiad i’r cais, argymhellwyd amodau o reolaeth sŵn a man addasiadau i’r oriau er budd gwarchod yr amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw

 

Daeth gwrandawiad Braich Goch i ben 11:40am

 

Dogfennau ategol: