Agenda item

GREAT BREAKS LEISURE Ltd, CEILWART BUNGALOW, NORTH PROMENADE,

ABERMAW, LL42 1BJ

 

I ystyried y cais uchod

 

Cofnod:

1.            CAIS AM DRWYDDED EIDDO - GREAT BREAKS LEISURE Ltd, CEILWART BUNGALOW, NORTH PROMENADE, BARMOUTH

 

Roedd y Cynghorwyr Annwen Hughes ac Angela Russell wedi ymweld â’r safle ynghyd a’r Aelod Lleol, Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams o dan drefniant a goruchwyliaeth Heilyn Williams, Swyddog Trwyddedu 30.05.19

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 5 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

 

Ar ran yr eiddo:                     Kayleigh Olley (ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:             Mr Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

 

Cynghorydd Gethin Glyn Williams (Aelod Lleol)

                                                Ymgynghorai lleol - Patrick Butcher, Elizabeth Davey, Robert Davey, Kathleen Bonser, Howard Hampshire ac  Amanda Owen (Hendre Mynach)

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Great Breaks Leisure Ltd, Ceilwart Bungalow, North Promenade, Abermaw.  Gwnaed y cais mewn perthynas â dangos ffilmiau, chwarae cerddoriaeth byw / wedi ei recordio (ar ac oddi ar yr eiddo), cyflenwi alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos. Y bwriad yw rhedeg yr eiddo fel llety gwyliau i bobl a theuluoedd ag anableddau gan gynnig adloniant megis dangos ffilmiau a cherddoriaeth fyw yn achlysurol ynghyd a chynnal gweithgareddau trwyddedig tu mewn a thu allan: (adloniant tu allan tan 10pm yn unig a gwerthiant alcohol ar gyfer ei yfed tu allan tan 11pm yn unig).

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod nifer o e-byst a llythyrau wedi ei derbyn yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon ymddygiad gwrthgymdeithasol a niwsans cyhoeddus megis sŵn, cerddoriaeth uchel a sbwriel. Cyfeiriwyd at bryderon o gynnydd posib mewn trosedd ac anrhefn megis fandaliaeth ac ymddygiad afreolus: nodwyd pryderon am ddiogelwch y cyhoedd, mynediad i wasanaethau brys oherwydd rheilffordd gyfagos a lôn bost cul sydd heb ei goleuo. Cyfeiriwyd hefyd y byddai caniatáu'r drwydded yn peri niwed i blant a phobl ifanc fydd yn aros mewn maes gwersylla cyfagos. Ategwyd bod sylwadau wedi ei derbyn gan Heddlu Gogledd Cymru (ynglŷn â materion goruchwylwyr drysau) ac Adran Cynllunio'r Cyngor (ynglŷn â chydymffurfiad caniatâd cynllunio).

 

Amlygwyd bod 8 e-byst wedi ei derbyn yn gefnogol i’r cais ond ni ystyriwyd rhain gan nad oeddynt yn berthnasol i’r egwyddorion trwyddedu.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

ff)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

b)                    Ategodd y sylwadau canlynol:

·      Bod ymweliadau safle wedi eu cynnal i geisio ymateb i bryderon

·      Bod addasiadau wedi ei cynnig ac wedi eu cytuno

·      Bod awgrym gan yr Heddlu i gyflogi goruchwylwyr drysau ar gyfer digwyddiadau arbennig mewn ymgynghoriad gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi ei dderbyn fel amod

·      Na fydd alcohol yn cael ei werthu i’r cyhoedd

·      Bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer teulu a ffrindiau’r preswylwyr yn unig

·      Bod mynediad addas ar gyfer pobl gydag anableddau

·      Eu bod yn cynnig ystafell wlyb ar gyfer yr anabl gan nad oes un arall ar gael ar y traeth

·      Bod lleoliad yr ardal gymdeithasu yn agos i’r ystafelloedd gwelyau ac felly, o ran cwrteisi a pharch i’r preswylwyr, bydd sŵn yn cael ei reoli

·      O ran rheoli niferoedd, bydd y prif adeilad yn cysgu 14 a’r byngalo yn cysgu 4

·      Bydd rhaid cerdded drwy’r dderbynfa i gyrraedd y bar ac felly bydd modd rheoli mynediad yn effeithiol

·      Y Swyddog Tân sydd wedi dyfynnu bod y safle, o ran materion diogelwch, yn gallu dal hyd at 80 o bobl - nid oes bwriad cael y nifer hynny o bobl ar y safle ar yr un pryd

·      Ei bod yn cadarnhau bod y drwydded yn gymwysedig i’r cyhoedd drwy gyswllt preswylwyr yn unig

 

ng)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.

 

            Patrick Butcher

·         bod y groesfan rheilffordd yn beryg os yw’r giatiau ar agor

·         nad yw'r lôn gyfagos yn addas i geir

·         yn cwestiynu'r angen am sgriniau tu allan

·         bod ganddo amheuon a phryderon mynediad

 

Mewn ymateb i’r sylwadau amlygodd y Swyddog Trwyddedu nad oedd y Gwasanaeth Tân wedi cyflwyno sylwadau.

 

Elizabeth Davey

·         Pryder petai trwydded llawn yn cael ei chaniatáu byddai’n derbyn yr un hawliau a thrwydded tŷ tafarn

·         Pryder sut bydd yr ymgeisydd yn rheoli’r safle ac yn gwrthod mynediad i’r cyhoedd - petai drwydded lawn yn cael ei chaniatáu, bydd y safle ar agor i unrhyw un. Os na fydd y drwydded wedi ei hamlygu ac o fewn golwg pawb, yna amheuaeth sut bydd y sefyllfa yn cael ei monitro

·         Bod ardal enfawr o flaen yr adeilad - hawdd fyddai cynnal digwyddiad ar gyfer 80 o bobl – gyda’r nifer cyfanswm o breswylwyr yn gwahodd teulu a ffrindiau, hawdd fyddai cyrraedd 80

·         Bod temtasiwn i lacio'r rheolau

·         Bod y cais fel cais am drwydded tŷ tafarn

·         Bod mwy i’r cais nag sydd yn cael ei fynegi

·         Dim hyder yn y cais

·         Bod yr ardal yn dywyll a digalon – gall hyn annog man droseddau.

 

Kathleen Bonser

·         Nad oedd ganddi unrhyw wrthwynebiad i gynllun yr eiddo

·         Pryderon yn codi pan gafodd cais am drwydded ‘tafarn’ ei gyflwyno

·         Pryderon sŵn - nid oes angen chwarae cerddoriaeth fyw tu allan - rhaid ystyried yr effaith fydd hyn yn gael ar breswylwyr cyfagos

·         Bod agor yr eiddo at ddefnydd y cyhoedd yn arwain at fwy o drafnidiaeth

 

Howard Hampshire

·         Dim gwrthwynebiad i’r bwriad, ond bod agor yr eiddo i’r cyhoedd yn codi pryderon

·         Pam yr angen am drwydded?

·         Ei fod yn ymwybodol bod angen nodi un goruchwyliwr eiddo dynodedig ar gyfer gwerthu alcohol - y person dynodedig ar gyfer yr eiddo dan sylw yn byw oddi ar yr eiddo ac felly pwy fydd y person cyfrifol?

·         Tebygolrwydd y bydd cynnydd mewn trafnidiaeth, yn enwedig o ddefnyddio trydedd fynedfa / allanfa

·         A fydd yr ymgeisydd yn cadw at ei gair o ddefnydd preswylwyr yn unig?

 

Cydnabuwyd llythyr a dderbyniwyd gan Ystrad Mynach

 

Y Cynghorydd Gethin Williams (Aelod Lleol)

·         Diolchodd am y cyfle i gael trafod y cais yn agored ac i’r rhai hynny oedd wedi cysylltu i wrthwynebu neu gefnogi y cais

·         Croesawu bod yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau ac wedi gwneud addasiadau

·         Beth yw ystyr ‘off sale’?

·         Sut gellir rheoli’r safle o ystyried cynnydd mewn trafnidiaeth, mwy o bobl ar y safle a mynediad posib gan y cyhoedd? A oes modd gosod amodau?

·         Byddai torri amodau cynllunio yn cael eu gorfodi / rheoli gan yr Awdurdod Cynllunio

·         Croesawu bod oriau agor yr eiddo yn gyson gyda busnesau eraill yn y dref

 

Mr Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

·         Fel awdurdod cyfrifol nid oedd gan yr Heddlu dystiolaeth i wrthwynebu’r cais

·         Roedd yr Heddlu wedi asesu’r cais fel cyfleuster ar gyfer unigolion anabl a theuluoedd estynedig a ffrindiau

·         Amlygwyd bod yr Heddlu, yng nghyd-destun goruchwylwyr drysau wedi disodli’r cymal sydd yn ymddangos yn rhan M o’r cais gydag amod y byddai’r eiddo yn cyflogi goruchwylwyr drysau ar gyfer digwyddiadau arbennig mewn ymgynghoriad a Heddlu Gogledd Cymru. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi derbyn yr amod.

·         Bod system Deledu Cylch Cyfyng dda ar yr eiddo

 

·         Mewn ymateb i sylw am oruchwyliwr eiddo dynodedig, nododd Mr Williams bod rhaid i bob eiddo trwyddedig sydd wedi ei awdurdodi ar gyfer gwerthu alcohol,  nodi enw un goruchwyliwr eiddo dynodedig ar y drwydded. Nodwyd nad oed raid i’r person hwnnw fod yn bresennol ar yr eiddo bob amser, ond yn hawdd cysylltu â hwynt pan nad ydynt yn bresennol.

 

·         Mewn ymateb i sylw am reoli mynediad, nododd bod modd gweithredu ymweliadau pryniant prawf ac y byddai’r Heddlu yn ymateb i gwynion petai rhai yn cael eu cyflwyno.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn beth yw ‘off sales’ atebodd mai gwerthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo yw ystyr y term

 

Gwnaed awgrym i osod amod ar gyfer gwerthu ac yfed ar yr eiddo yn unig

 

            Wrth grynhoi ei hachos nododd yr ymgeisydd

·         Na fydd seinyddion tu allan

·         Bod dangos ffilmiau ar gyfer tu mewn yn unig

·         Bod trafodaethau wedi ei cynnal gyda pherchennog Hendre Mynach ynglŷn â mynedfa

·         Bod gan ei phartner drwydded bersonol

·         Bydd modd rheoli ac adolygu defnydd y bar

·         Bod hi’n orfodol darparu gwasanaethau  ar gyfer yr anabl

 

c)            Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd ynghyd a sylwadau llafar, sylwadau  ysgrifenedig a llafar  a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, ac adroddiad y Swyddog Trwyddedu. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

i.              Atal trosedd ac anhrefn

ii.   Atal niwsans cyhoeddus

iii.  Sicrhau diogelwch cyhoeddus

iv.  Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais  yn ddarostyngedig i amodau ychwanegol o ran goruchwyliwr drws yn ystod digwyddiadau arbennig:

 

1.    Ffilmiau dan do                                       Llun i Sul        10:00 - 00:30

2.    Cerddoriaeth fyw

            Dan do                                                Llun i Sul        10:00 – 00:30

            Awyr agored                                      Llun i Sul        10:00 – 22:00

3.    Cerddoriaeth wedi ei recordio 

            Dan do                                                Llun i Sul        10:00 – 00:00

            Awyr agored                                      Llun i Sul        10:00 – 22:00

4.    Lluniaeth hwyr nos dan do                    Llun i Sul        23:00 – 00:30

5.    Cyflenwi alcohol i’w yfed ar yr eiddo

yn unig - cyfyngu alcohol i drigolion

ynghyd a theuluoedd a chyfeillion

trigolion yn unig                                     Llun i Sul        10:00 – 00:00

6.    Oriau agor                                                Llun i Sul        10:00 – 00:30

7.    Ymgorfforir y materion a restrir yn yr Atodlen Weithredol fel amodau ar y drwydded, ac eithrio’r cymal mewn perthynas â Goruchwylwyr Drysau

8.    Ychwanegir amod bod yr eiddo yn cyflogi Goruchwylwyr Drysau wedi ei gofrestru gyda’r SIA ar gyfer digwyddiadau arbennig, mewn ymgynghoriad gyda Heddlu Gogledd Cymru.

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r holl sylwadau. Nid oedd yr Is bwyllgor yn diystyru’r posibilrwydd bod cynnydd mewn cwsmeriaid yn gallu arwain at rai troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol fyddai yn tanseilio’r amcan o atal trosedd ac anrhefn, fel y gall problemau sŵn a cherddoriaeth uchel danseilio’r amcan o atal niwsans cyhoeddus. Fodd bynnag, ni chyflwynwyd tystiolaeth bod y problemau hyn yn digwydd ac nid oedd manylion o ran y nifer, amledd, dwysedd, dyddiadau ac amserau’r digwyddiadau. O ganlyniad, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi ei berswadio ar sail y dystiolaeth a ddaeth i law y byddai rhoi’r drwydded yn debygol o danseilio’r amcanion o atal trosedd ac anrhefn ac atal niwsans cyhoeddus. 

Yn yr un modd nid oedd tystiolaeth, tu hwnt i ddyfalu, wedi ei gyflwyno i’r pryderon diogelwch cyhoeddus gyda’r ffordd a’r rheilffordd. Gan nad oedd Network Rail, Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd na’r Heddlu wedi cyflwyno sylwadau, roedd hyn yn awgrymu’n gryf na fyddai goblygiadau difrifol i ddiogelwch cyhoeddus pe caniatawyd y drwydded.

Wrth ymateb i’r pryderon y byddai caniatáu'r drwydded yn rhoi plant mewn niwed, ystyriwyd bod nifer o barciau carafanau a gwersylla eu hunain yn drwyddedig ac felly anodd fyddai cynnal dadl bod lleoli eiddo trwyddedig yn agos i wersyll yn peri niwed i blant.

Ni ystyriwyd y pryderon cynllunio gan nad oeddynt yn uniongyrchol berthnasol i’r amcanion trwyddedu. Fodd bynnag, atgoffwyd yr ymgeisydd bod cyfrifoldeb arni i sicrhau cydymffurfiaeth a’r drefn cynllunio yn ogystal â threfniadau trwyddedu. Rhaid sicrhau bod defnydd o’r eiddo o dan y drwydded yn cyd-fynd a’r caniatâd cynllunio sydd mewn lle.

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw.

 

Dogfennau ategol: