Agenda item

Cais llawn i godi 29 uned preswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal cyhoeddus agored

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais llawn i godi 29 uned breswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus agored

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor 29.4.19 er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth / cynlluniau diwygiedig fyddai’n cyfarch pryderon y Pwyllgor.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Bontnewydd ac wedi ei ddynodi yn benodol fel safle ar gyfer codi tai newydd yng Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLL).  Er gwybodaeth, rhoddwyd caniatâd blaenorol ar gyfer codi 26 tŷ ar y safle  ac fe ystyriwyd fod cychwyn materol wedi digwydd i’r caniatâd hwn oedd yn golygu ei fod yn parhau yn ‘fyw’ gyda hawl cyfreithiol yn bodoli ar gyfer codi 26 tŷ newydd ar y safle. Erbyn hyn mae’n gais llawn ar gyfer 29 tŷ newydd.

 

Adroddodd y Rheolwr Cynllunio bod holl fanylion y cais wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ond cyfeiriwyd yn benodol at ymatebion i bryderon oedd wedi eu codi gan yr aelodau yn ystod y Pwyllgor blaenorol yn ogystal a phryderon oedd wedi eu codi gan berchennog tŷ cyfagos. Cyfeirwyd hefyd at y sylwadau hwyr oedd wedi eu derbyn. Un o’r pryderon hynny oedd gosodiad plotiau 14, 15 ac 16 gyda chais i’r ymgeisydd ystyried newidiadau addas i’r rhan yma o’r safle er mwyn lleihau’r effaith niweidiol ar fwynderau eiddo cyfochrog (Tywyn) ar sail gor-edrych yn bennaf. Mewn ymateb i’r pryderon hyn derbyniwyd cynlluniau diwygiedig parthed y tri eiddo arfaethedig ac adroddwyd  bod  yr ymgeisydd wedi datgan ei fod wedi trafod y diwygiadau gyda pherchennog yr eiddo. Amlygwyd bod y cynllun diwygiedig yn dangos y pellteroedd a’r ffiniau rhwng y tai ac adeilad Tywyn a’r llinell gwelededd yn deillio o ffenestri cefn plotiau 14, 15 ac 16 tuag at Tywyn. Amlygwyd ac eglurwyd y newidiadau i ddyluniad y tai ar y plotiau yma er mwyn lleihau y nifer o agoriadau ar loriau cyntaf y tai er mwyn goresgyn pryderon. Ystyriwyd fod y diwygiadau yn gwneud y datblygiad yn fwy derbyniol ac yn cyfarch pryderon y cymydog a’r Pwyllgor o safbwynt effaith ar fwynderau’r eiddo cyfochrog.

 

Nodwyd bod y swyddogion cynllunio wedi ail ymgynghori ynglŷn â’r diwygiadau gyda’r cymydog, ac fe gyfeiriwyd at ei sylwadau yn y ffurflen sylwadau hwyr. Amlygwyd nad oedd y cymydog yn fodlon gyda’r addasiadau ac yn parhau i fynegi pryderon ynglŷn â goredrych. Roedd y swyddogion o’r farn na ellid ystyried  unrhyw sail resymol a fyddai’n cyfiawnhau unrhyw bryderon pellach am effaith annerbyniol ar fwynderau’r eiddo cyfochrog o ganlyniad i ddyluniad diwygiedig a lleoliad plotiau 14, 15 ac 16.

 

Mewn ymateb i bryderon llifogydd yn lleol ac effaith posib y datblygiad ar y gymdogaeth o gofio fod yr ardal wedi dioddef effaith llifogydd yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth drylwyr i’r elfen yma er mwyn asesu yn llawn unrhyw effaith posib. Amlygwyd nad oedd unrhyw ran o safle’r cais ei hun wedi ei gynnwys o fewn y parth llifogydd ac felly nid oedd gofyn am Asesiad Effaith Llifogydd ffurfiol ar gyfer y safle yn yr achos yma. Er hynny, roedd trigolion lleol wedi amlygu pryder am effaith unrhyw rediad dwr ychwanegol yn yr ardal gan y bydd yn y pen draw yn arwain i mewn i Afon Beuno. Ategwyd y bydd angen sicrhau yn glir trwy wybodaeth a mesurau rheoli penodol na fydd y datblygiad yn amharu ar drigolion lleol o safbwynt effaith materion yn ymwneud â draenio’r safle. Yn dilyn trafodaethau gyda Phrif Beiriannydd Uned Draenio’r Cyngor adroddwyd y byddai gofod storio a threfn ddigonol ar gyfer gwaredu dŵr wyneb yn cael ei adeiladu. Cadarnhawyd na fydd y datblygiad yn cynyddu risg llifogydd i lawr yr afon cyn belled â’i fod yn cael ei adeiladu a’i gynnal yn unol â’r manylion a gytunwyd.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Pwyllgor ynglŷn â niferoedd tai ar y safle, ynghyd a’r gymysgedd a’r dwysedd, cynhaliwyd trafodaethau pellach gyda’r Uned Bolisi Cynllunio ar y Cyd a’r Uned Strategol Tai. Derbyniwyd ymateb yn cadarnhau’r angen presennol am unedau fforddiadwy yn ogystal â dwysedd a chymysgedd y datblygiad.

 

Mewn ymateb i bryder am y  llecyn agored, adroddwyd  bod cyfarfod wedi ei gynnal rhwng y datblygwr a’r Cyngor Cymuned i drafod opsiynau posib ar gyfer y safle. Nodwyd bod y  datblygwr bellach yn cynnig gosod offer llai ymwthiol ar y safle ac y bydd yn trefnu gwaith cynnal a chadw’r safle trwy gytundeb rheoli. Cefnogwyd y cynnig gan y Cyngor Cymuned ac fe gadarnhawyd hyn trwy lythyr ffurfiol.

 

Yn ychwanegol, derbyniwyd cynllun yn dangos lleoliad presennol ac arfaethedig y bibell nwy ar y safle ynghyd a chadarnhad y bydd gwaith i newid ac ail leoli’r bibell oherwydd ei chyflwr presennol gwael. Ategwyd bod bwriad i’r clawdd sydd o amgylch y safle gael ei warchod ac y gellid sicrhau hyn drwy amod. Tynnwyd sylw hefyd at sylwadau'r Uned Iaith.

 

            Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd, gan gynnwys gwrthwynebiadau, ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol. 

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i gael tai newydd ym Montnewydd

·         Bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwelliannau positif

·         Trigolion lleol angen  tawelwch meddwl ynglŷn â dŵr wyneb a chynllun atal llifogydd

·         Yn siarad ar ran y cymydog, er bod y cynlluniau diwygiedig yn nodi ail-leoli plotiau 14, 15 a 16 i geisio goroesi pryderon preifatrwydd, nid oedd y cymydog yn ystyried bod hyn yn ddigonol. Awgrymodd, petai y beipen nwy yn cael ei hail leoli, byddai modd symud y tai ymlaen rhyw 2m pellach ac yn ymateb i bryder y cymydog.

 

(a)       Mewn ymateb i sylwadau yr aelod lleol, nododd y Rheolwr Cynllunio bod Dŵr Cymrua chyrff perthnasol eraill yn fodlon gyda datrysiad y dŵr wyneb ac yng nghyd-destun y bibell nwy, er yr angen i uwchraddio'r beipen ni fyddai hyn yn ychwanegu llawer o hyblygrwydd i ail-leoli tai os yn ei symud. Ategwyd bod y pryderon wedi eu cyfarch ac nad oedd sail resymol bellach i wrthwynebu y cais o ran goredrych.

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(b)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·      Enghraifft dda bod trafodaethau yn arwain at welliannau

·      Balch bod y Cyngor Cymuned wedi cael trafod y llecyn chwarae a chyrraedd cytundeb

 

(dd)      Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfnewid tŷ 13 ac 18 o ran maint er mwyn rhyddhau ychydig mwy o ofod i leihau pryderon goredrych, nodwyd bod angen ystyried llefydd pario a llefydd troi ac nad yw tŷ rhif 13 mewn gwirionedd llawer llai na thŷ 18.

 

            PENDERFYNWYD caniatáu yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.

 

1.    Amser

2.    Cydymffurfio gyda chynlluniau perthnasol a’r holl adroddiadau

3.    Deunyddiau/llechi

4.    Tirlunio a ffiniau'r safle

5.    Priffyrdd

6.    Draenio

7.    Bioamrywiaeth a rheoli effeithiau amgylcheddol

8.    Archaeoleg

9.    Cynllun Rheolaeth Adeiladu

10.     Tynnu hawliau datblygu cyffredinol oddi ar y tai fforddiadwy

11.     Tynnu hawliau datblygu cyffredinol oddi ar blotiau 14, 15, 16, 17 (gan gynnwys gosod ffenestri ychwanegol a ffenestri to)

12.    Cytuno gwydr afloyw i ffenestr llofft sydd ar gefn plot 14 a chytuno dull agor

13.    Enw Cymraeg i’r stad a’r tai

14.    Manylion ac amserlen gosod offer o fewn y llecyn agored.

15.    Cytuno ar drefniadau sicrhau tai fforddiadwy

16.    Amseroedd gweithio ar y safle

Dogfennau ategol: