Cais llawn i osod 4 pabell 'saffari', 1 adeilad 'sauna'
ynghyd â gwaith cysylltiol
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Craig ab Iago
Cofnod:
Cais llawn i osod 4 pabell
'saffari', 1 adeilad 'sauna' ynghyd â gwaith cysylltiol
Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr a dderbyniwyd
(a)
Nododd y Rheolwr
Cynllunio bod asiant ar ran yr ymgeisydd wedi gwneud cais i ohirio’r drafodaeth
er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd gyflwyno cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth
ychwanegol mewn ymateb i’r pryderon a nodwyd yn yr adroddiad. Er hynny, nid
oedd y swyddogion yn gweld yr angen i ohirio, nad oedd ‘pre-app’ wedi bod ac y
byddai modd ail gyflwyno cais o’r newydd yn y dyfodol ac ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar
gefndir y cais. Nodwyd mai cais llawn ydoedd i osod 4 pabell saffari, codi
adeilad cysylltiol i’w ddefnyddio fel ‘sauna’ ynghyd â gwaith cysylltiol eraill
fyddai yn cynnwys creu ffordd fynediad, llecynnau parcio, llwybrau mynediad,
tirlunio, cysylltiad gwasanaethau a gosod gwaith trin carthffosiaeth.
Ategwyd bod y safle wedi ei
leoli ynghanol caeau amaethyddol y tu allan i unrhyw
ffin datblygu ddiffiniedig yng nghefn gwlad agored o fewn Ardal o Dirwedd
Arbennig a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Nantlle. Nodwyd
bod mynediad tuag at y safle yn arwain trwy gwrtil preswyl yr ymgeisydd ar hyd
ffordd fynediad preifat presennol sydd yn cefnu gyda thŷ preswyl ar wahân.
Amlygwyd bod yr ymgeisydd,
wrth gyflwyno’r cais wedi nodi yn y Datganiad Cynllunio mai polisi TWR 5 o’r
Cynllun Datblygu Lleol oedd wedi cael ystyriaeth gan na fyddai’r pebyll yn
barhaol am mai cysylltiad cyfyngedig fyddai gyda’r tir. Roedd y swyddogion
cynllunio o’r farn mai polisi TWR 3 oedd yn fwyaf perthnasol gan fod elfennau
mwy parhaol yn cael eu cynnig fel rhan o’r datblygiad. Ategwyd nad oedd gwybodaeth glir na chyfeiriad digonol wedi ei
gyflwyno am yr hyn y bwriedir ei wneud gyda’r llwyfannau pren a beth fyddai’r
camau tebygol i’w diogelu ar neu i’r ddaear.
Ystyriwyd fod y bwriad i osod cysylltiadau trydan a dŵr i’r pebyll
unigol, creu ffordd fynediad, codi adeilad sauna (er ei faint bychan), llwybrau
a lleiniau caled a gosod cyfres o oleuadau yn creu elfennau parhaol yn ogystal
â gormodedd o fannau caled yn groes i Bolisi TWR 5. Mae rhan o baragraff 6.3.85
o eglurhad polisi TWR 5 yn nodi “Dim ond cyfleusterau sylfaenol ar gyfer
cysgu, eistedd a bwyta y dylent eu darparu, ac ni ddylid gosod gwasanaethau dŵr
neu ddarpariaeth draenio ar gyfer toiledau, cawodydd ac ymolchi ynddynt. Mae
hyn yn sicrhau nad yw’r strwythurau yn dod yn ddigon
parhaol i gynyddu lefel yr effaith ar y dirwedd neu effaith adfer y safle pe
bai angen symud y strwythurau”. Ni
fyddai’n rhesymol nac yn ymarferol i osod cysylltiadau trydan, dŵr a
charthffosiaeth ar ddechrau tymor gwyliau ac yna eu codi ar ddiwedd y tymor.
Gyda'r elfennau hyn yn sefydlog neu’n barhaol, ni
ellid cytuno gyda barn yr asiant mai Polisi TWR 5 yw’r polisi perthnasol ar
gyfer ystyried y bwriad yma.
Rhoddwyd ystyriaeth i ofynion perthnasol polisi TWR 3 sydd yn datgan “gwrthodir
cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog newydd (h.y. carafán sengl
neu ddwbl), safleoedd siale gwyliau newydd neu lety gwersylla amgen parhaol
yn…Ardaloedd Tirwedd Arbennig”. Nodwyd nad yw
polisi TWR 3 yn caniatáu datblygu safle llety gwersylla amgen parhaol ar
safleoedd oddi mewn i Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Gan ystyried fod y bwriad yn un i greu safle parhaol newydd nid yw felly yn cydymffurfio
gyda gofynion sylfaenol polisi TWR 3 o safbwynt creu safleoedd newydd oddi mewn
i Ardal Tirwedd Arbennig.
Amlygwyd bod safle’r cais
yn sylweddol o ystyried mai ond 4 pabell yw’r bwriad a phryder bod y llecynnau
parcio yn orddarpariaeth heb angen. Ystyriwyd bod graddfa’r datblygiad yn
ormodol o ran ei ehangder ac y byddai ei gyfyngu i ardal lai yn agosach at
adeiladwaith presennol o bosib yn welliant o safbwynt mwynderau gweledol.
Ategwyd bod maen prawf 2 o bolisi PCYFF 3 yn nodi’r angen i gynnig barchu
cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol.
Tynnwyd sylw at bryderon a
gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y bwriad i gael
gwared ar ddŵr draenio budr i system garthffosiaeth breifat yn hytrach na
chysylltu gyda ‘r brif system garthffos.
Tynnwyd sylw at sylwadau'r
Uned Trafnidiaeth mewn ymateb i bryderon gan drigolion lleol am gynnydd mewn
trafnidiaeth ar rwydwaith ffyrdd gwledig presennol. Gyda 4 pabell yn unig wedi
eu nodi ar y cynllun, nid oedd yr Uned Trafnidiaeth o’r farn y byddai cynnydd
sylweddol yn nifer symudiadau i mewn ac allan o’r
safle. Er hynny, roedd yr Uned Trafnidiaeth yn ystyried y ddarpariaeth parcio
yn ormodol ac y byddai’n rhesymol gwneud cais i’r ymgeisydd ddiwygio’r cynllun
i gyfleu’r niferoedd cywir.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif
bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn cynrychioli trigolion cymuned Nebo
·
Bod gormod o fannau parcio wedi eu nodi ar gyfer y bwriad
·
Nad oedd darpariaethau lleol ar gael ar gyfer y fenter – dim siop,
llefydd bwyta
·
Rhwydwaith ffyrdd lleol yn gul a throellog ac felly anodd fyddai ymdopi
gyda nifer ychwanegol o siwrnai
·
Y bwriad yn agos iawn at dai cyfagos fydd yn gorfod ymdopi gyda sŵn,
llwch a llygredd goleuadau ac aflonyddwch diangen
·
Cynllun y pebyll yn agos at ei gilydd
·
Y safle wedi ei leoli ar foncen felly yn amlwg ar y dirwedd
·
Byddai’r effaith gyffredinol yn andwyol
·
Cais i’r Pwyllgor ddilyn argymhelliad y swyddogion a gwrthod y cais
(c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau
canlynol:-
·
Na fyddai’r lleiniau caled yn cael eu gosod yn barhaol - cael eu symud
ar ddiwedd y tymor
·
Bod safleoedd carafanau yn darparu lleiniau caled, dwr a thrydan - hyn
yn ddarpariaeth gyffredin.
·
Nid oedd y bwriad yn annhebygol i safleoedd carafanau teithiol
·
Bod posib gwneud addasiadau yng nghyd-destun llwybrau a goleuadau fel
nad ydynt yn ymddangos yn ymwthiol
Y rhesymau
uchod yn ymateb i resymau gwrthod 1 a 4 ac felly dim sail i wrthod
·
Bod hi’n bwysig ystyried graddfa'r lleoliad - bydd wedi ei farchnata ar
gyfer teuluoedd
·
Ni fydd sŵn, ac nid yw Gwarchod y Cyhoedd wedi cyflwyno sylwadau ar
y mater yma
·
Awgrymwyd y gellid gosod amod ar gyfer rhai o'r nodweddion ac o
ganlyniad nid oedd rheswm gwrthod 3 yn sefyll
·
O ran cysylltu gyda charthffos, amlygwyd bod Dwr Cymru wedi mynegi na fyddai’n ymarferol cysylltu’r bibell - dim cyfiawnhad
dros wneud hyn.
(ch) Cynigiwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais
(d)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phenderfyniad mewn apêl ddiweddar o
ran maint ac arwynebedd pebyll a sut oedd y cais hwnnw yn cymharu gyda’r cais
dan sylw, nododd y Rheolwr Cynllunio
ymysg pethau eraill nad oedd gan gais yr apêl unrhyw fwriad i gysylltu
gwasanaethau ac felly yn wahanol i’r cais dan sylw.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais am y rhesymau canlynol;
1. Mae’r bwriad yn golygu creu safle llety gwersylla amgen sefydlog newydd
oddi fewn i Ardal Tirwedd Arbennig. Nid
yw polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn caniatáu
datblygu safleoedd llety gwersylla amgen sefydlog newydd oddi fewn i Ardaloedd
Tirwedd Arbennig. Mae’r bwriad felly yn
groes i ofynion polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(Gorffennaf 2017).
2. Mae polisi ISA 1 yn
caniatáu cynigion dim ond pan fo capasiti isadeiledd
digonol yn bodoli. Yn yr achos yma, ni chredir y
byddai darparu gwaith trin carthffosiaeth breifat o fewn ardal sydd â system
garthffosiaeth gyhoeddus yn dderbyniol ac felly ni chredir fod y bwriad yn
bodloni gofynion perthnasol polisi ISA 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).
3. Mae maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 yn datgan y gwrthodir cynigion os
fyddant yn cael effaith andwyol sylweddol ar fwynderau meddianwyr eiddo lleol
oherwydd mwy o weithgareddau, aflonyddwch, sŵn neu ffurfiau eraill o
aflonyddwch. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn fod y bwriad yn debygol o
arwain at aflonyddu annerbyniol ar fwynderau tai lleol ag y byddai trwy hynny
yn groes i ofynion polisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(Gorffennaf 2017).
4. Mae
gofynion perthnasol polisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 yn nodi y bydd disgwyl i
ddatblygiadau barchu cyd-destun safle a'i le yn y dirwedd ac yn integreiddio
gyda'r hyn sydd o gwmpas. Credir fod y bwriad ar sail ehangder safle’r
datblygiad arfaethedig gyfan yn ogystal â phresenoldeb, ffurf a graddfa
nodweddion parhaol megis ffordd fynediad, llecynnau parcio, llwybrau mynediad,
llwyfannau pren, adeilad sauna a chysylltiadau parhaol yn nodweddion
annerbyniol sydd yn groes i ofynion perthnasol meini prawf 1 a 2 o bolisi PCYFF
3 yn ogystal â PCYFF 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(Gorffennaf 2017) sydd yn datgan y dylai pob cynnig integreiddio gyda’r hyn
sydd o gwmpas
Dogfennau ategol: