Cais ar gyfer addasu’r to ar flaen yr eiddo er mwyn creu estyniad i'r tŷ presennol
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Eric Merfyn Jones
Cofnod:
Cais ar gyfer addasu’r to
ar flaen yr eiddo er mwyn creu estyniad i'r tŷ presennol
(a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
ar gyfer ymestyn y tŷ deulawr presennol yn y cefn ac yn
y blaen. Byddai’r estyniad yn golygu ailwampio mewnol gan symud ystafell wely
bresennol i ofod yr estyniad newydd a chreu ystafell ymolchi ble roedd yr
ystafell wely yn ogystal ag ychwanegu at faint ystafell wely bresennol ar y
llawr cyntaf ynghyd ac ymestyn cyntedd presennol ar y llawr daear.
Eglurwyd bod y cais
wedi ei ail gyflwyno o ganlyniad i wrthod cais
blaenorol am yr un bwriad ac mai’r
Aelod Lleol oedd yn cyflwyno’r
cais i Bwyllgor
gan ei fod
o’r farn bod angen asesiad pellach
ar y cynlluniau. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi gwrthod cyfaddawdu a bod y swyddogion cynllunio, er yn ystyried
bod y bwriad yn dderbyniol, yn awgrymu y byddai modd gwella’r dyluniad
gan nad
oedd graddfa’r cynllun dan sylw
yn addas. Ystyriwyd bod yr estyniad yn creu
nodwedd ddominyddol, bendrwm ac estron ar yr eiddo,
na fyddai’n
gwella cymeriad na pharchu ei
gyd-destun safle o fewn yr ystâd.
Ategwyd y byddai hyn yn groes
i bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu
Lleol
Eglurwyd bod yr
eiddo wedi ei leoli o fewn
un o’r lleiniau
pellaf oddi wrth y fynedfa i mewn i’r
stad, gyda’i osodiad er hynny,
yn weladwy o’r fynediad. Er
mai barn y swyddogion yw y byddai’r estyniad
yn annerbyniol o agwedd weledol ni ystyriwyd
y byddai yn cael effaith andwyol
sylweddol ar fwynderau’r cymdogion nac yn achosi
aflonyddwch annerbyniol arnynt. O safbwynt yr agwedd yma,
ni ystyriwyd
y byddai’n groes i ofynion perthnasol
polisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol.
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
darllenodd yr Aelod Lleol lythyr
ar ran yr ymgeisydd oedd yn methu a bod yn bresennol:-
Nodwyd,
·
bod angen codi uchder
y to er mwyn goresgyn diffyg uchder yn yr
ystafell ymolchi.
·
bod nifer o’r tai yn
y stad ynteu wedi eu haddasu
gan y datblygwr gwreiddiol neu wedi eu haddasu
ar ôl newid
dwylo.
·
codi lefel y to sydd dan sylw ac nad
oedd unrhyw ymgais i ymestyn
·
prin fyddai’r newid i’w weld.
·
er i’r swyddogion wrthod y cais, amlygwyd nad oedd
gwrthwynebiad cyhoeddus i’r bwriad.
Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr
aelod lleol (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Bod nifer o’r tai yn y stad wedi
cael eu haddasu
ac er i’r ymgeisydd gynllunio addasiadau tai rhif 11 ac 12 roedd yn difaru
nad oedd wedi addasu ei
dŷ yn gynharach
·
Bod llythyrau wedi ei derbyn yn
cefnogi’r cais
·
Bod y stad yn daclus
·
Nad oedd y bwriad yn
groes i PCYFF 2 o’r Cynllun Datblygu
Lleol
(c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais
yn groes i’r argymhelliad oherwydd ystyriwyd bod y dyluniad yn dderbyniol.
(ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod
ambell i dŷ o fewn y stad eisoes wedi
cael ei addasu
·
Bod
y dyluniad yn welliant i dŷ
plaen
·
Nad oedd gwrthwynebiadau
lleol wedi ei derbyn
PENDERFYNWYD caniatáu y
cais am y rheswm bod y dyluniad yn dderbyniol
Amodau:
1.
5 mlynedd
2.
Unol gyda chynlluniau
3. Deunyddiau i gyd-weddu gyda’r deunyddiau
presennol
Dogfennau ategol: