I dderbyn adroddiad gan Mr Dylan Bowen, Network Rail.
Cofnod:
Ni chyflwynwyd
adroddiad ysgrifenedig gan Network Rail ond bu i Mr Dylan Bowen adrodd yn llafar ar
ddatblygiadau fel a ganlyn:
(i)
Bod Network Rail wedi ysgrifennu i’r rhanddeiliad i’w cynghori y byddai oediad gyda’r gwaith
o gwblhau darpariaeth y lifft yng Ngorsaf
Machynlleth tan mis Mawrth 2016. Oherwydd rhagolygon y tywydd y penwythnos yma byddai’n amhosibl
defnyddio’r craen ac felly hyderir y byddir yn gallu cwblhau’r
gwaith erbyn mis Mawrth.
(ii)
Mewn ymateb i’r uchod
datganodd Aelod siom yn hyn
o beth, ac mai dim ond un platfform y gellir ei ddefnyddio
ac yn ychwanegol at hyn bod teithwyr yn gorfod disgwyl
yng Nghyffordd Dyfi. Wedi dweud hynny,
teimlwyd y byddai’r ddarpariaeth pan yn ei le yn welliant
aruthrol.
(iii)
Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd
Owain Williams ynglyn â phryder
am yr oedi yng Nghyffordd Dyfi yn benodol
i deithwyr o Fachynlleth i Bwllheli, eglurodd Mr Bowen o safbwynt uwchraddio y ffordd ar gyfer
fforddolion (road-user) byddai
Network Rail yn fwy na pharod i gydweithio
gyda thrydydd parti mewn darparu
cynllun ond y byddai’n mwy manteisiol
pe byddai cynllun o’r fath
yn cael ei
gynnwys mewn cynllun trafnidiaeth ehangach. Pwysleiswyd na fyddai Network Rail yn gyfrifol fel prif
yrrwr unrhyw gynllun o safbwynt cyllido ond sicrhawyd
y byddent yn cydweithio gydag awdurdodau a chyfeiriwyd at engreifftiau lle gweithredwyd cynlluniau o’r fath mewn
darparu meysydd parcio yn Ne Cymru.
(iv)
Awgrymwyd y dylid cyfeirio eitem i drafod Cyffordd Dyfi i gyfarfod y Cyd-bwyllgor Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth
a Phwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian sydd i’w gynnal ar
27 Tachwedd 2015 yn Y Plas, Machynlleth.
(v)
O safbwynt cwestiwn y Cynghorydd Gethin Williams ynglŷn
â gweithredu moratoriwm ar daliadau Pont Abermaw yn ystod
y cyfnod cynllunio / atgyweiriadau, nododd Mr Bowen ei fod wedi
trafod y mater gyda’r Aelod yn gynharach. Nododd ymhellach bod Network Rail yn yr un sefyllfa â Chyngor Gwynedd o safbwynt gorfod chwilio am arbedion gyda tharged
i ddarganfod oddeutu 20% dros y cyfnod nesaf. Fodd bynnag, roedd trafodaethau
yn parhau gyda Chyngor Gwynedd ynglyn ag adnewyddu’r Bont gyda’r bwriad
o leihau’r costau cynnal a chadw. Ar hyn o bryd roedd yn
gynamserol i adrodd yn llawn, ond
nodwyd bod trafodaethau cychwynnol yn digwydd
rhwng Network Rail â rhanddeiliad
perthnasol gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, a CADW.
(vi)
Cyfeiriodd Mr David
Roberts at bryder ynglŷn
â thir ym mherchnogaeth Network Rail a elwir
yn Bryn Llestair (Picnic
Island) ac roedd yn ymwybodol bod Fforwm Mynediad De Eryri wedi cysylltu gyda
Network Rail ynglyn â’r tir ond nad
oeddynt wedi derbyn ymateb. Defnyddir y tir gan oddeutu
1,000 o fyfyrwyr o Outward Bound Cymru.
(vii)
Mewn ymateb i’r
uchod, nododd Mr Bowen nad oedd yn
ymwybodol o’r mater ond os gall Fforwm
Mynediad De Eryri gysylltu gydag ef a / neu drwy’r
Swyddog Cefnogi Aelodau, fe sicrhaodd y byddai’n dilyn y mater i fyny.
(viii) Mynegwyd pryder gan y Cynghorydd Dewi Owen ynglyn
a’r gordyfiant enfawr ar dir
sydd ym mherchnogaeth
Network Rail rhwng wal derfyn yr A493 a’r rheilffordd. Nodwyd bod corneli llym (sharp corners) ar y briffordd dan sylw
a bod gwir angen torri’r gordyfiant i osgoi unrhyw ddamweiniau.
(ix)
Mewn ymateb i’r uchod,
nododd Mr Bowen bod gan
Network Rail gynllun rheolaeth
llystyfiant a’i fod yn llwyddiannus
gan bod diogelwch y rheilffordd yn flaenoriaeth i Network Rail. Awgrymwyd pe byddai’r Aelod
yn nodi union leoliadau lle mae’r
gordyfiant a’u hanfon ymlaen i’r
Swyddog Cefnogi Aelodau iddi ei anfon
ymlaen i Mr Bowen i’w ddilyn i fyny. Nodwyd ymhellach bod modd i Aelodau gysylltu gydag unrhyw fater o bryder drwy’r llinell
gymorth sydd ar gael 24 awr
ac os nad ydynt yn hapus
gyda’r ymateb, yna gellir cysylltu’n
uniongyrchol a Mr Bowen.
Penderfynwyd: (a) Gofyn i’r Swyddog Cefnogi
Aelodau gyfeirio y materion
uchod i Mr Dylan Bowen, er sylw pellach.
(b) Cyfeirio eitem i drafod Cyffordd Dyfi i gyfarfod y Cyd-bwyllgor Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth
a Phwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian sydd i’w gynnal ar
27 Tachwedd 2015 yn Y Plas, Machynlleth.