Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Dosbarthwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)
(1)
Cwestiwn gan y Cynghorydd Owain Williams
“Mae’r arferiad parhaol gan y gwahanol gyrff
cyhoeddus a’r wasg a’r cyfryngau o gyfeirio at ‘North Wales’ a ‘South Wales’ a
‘Mid Wales’, ayyb, yn creu rhwygiadau ymysg ein cenedl, a hyn ar amser pan mae
angen undod cenedlaethol. Gofynnaf i’r
Arweinydd a fyddai’n fodlon cysylltu â’r Senedd yng Nghaerdydd i ofyn iddynt
ymyrryd mewn pob modd posibl er dylanwadu i newid yr arferiad hwn sy’n rhwygo’r
genedl hon?”
Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn
“Nid wy’n
siŵr os ydw i’n deall y cwestiwn, na pha ddylanwad sydd gan Lywodraeth
Cymru ar enwau ein rhanbarthau, ond mae’n wir dweud bod yna Ranbarth Gogledd
Cymru. Mae’n wir dweud hefyd bod yna
Ranbarth y Canolbarth ac mae’n wir dweud bod yna Ranbarth Dinas Caerdydd a
Rhanbarth Dinas Abertawe. Rwy’n cytuno’n
llwyr fod angen i ni fod yn hyderus fel cenedl, ac yn unol fel cenedl, ond mae
pryderu ynglŷn â’r math yma o sylw yn dangos ein diffyg hyder ni. Gadewch i ni barhau i enwi ein rhanbarthau
fel y gwelwn ni’n dda. Wn i ddim oes gan
y cwestiynydd unrhyw awgrym be ddylem ni fod yn galw’r llefydd yma?”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Owain Williams
“Rwy’n siŵr y byddai’r Arweinydd yn cytuno â mi bod yr undeb yn
cael ei ddarnio?”
(2)
Cwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones
“Mae nifer fawr o ddigwyddiadau yn cymryd lle
ym mhentref Llanberis, bron bob wythnos.
Er bod hyn yn gallu bod yn beth da iawn i economi’r ardal, weithiau
mae’r niferoedd o ddigwyddiadau yn ormodol ac yn cael effaith negyddol ar yr
ardal, y trigolion a’r ymwelwyr.
Hoffwn gael gwybod os yw’r Cyngor yn ymwybodol
faint o bobl sydd yn cystadlu yn y digwyddiadau ar y diwrnod yn ardal Llanberis
a faint o rasys (rhedeg, beicio a nofio) sy’n cael eu cynnal ac a yw Cyngor
Gwynedd yn caniatáu’r digwyddiadau yma i gyd?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Economi a Chymuned, y Cynghorydd Gareth Thomas
“Gan nad oes raid
cael caniatâd Cyngor Gwynedd ar gyfer cynnal pob math o ddigwyddiad, nid yw
hi’n bosib’ i’r awdurdod fod yn ymwybodol o’r nifer o rasys a digwyddiadau sydd
yn cael eu cynnal yn Llanberis, na faint sy’n cymryd rhan. Dim ond digwyddiadau sydd yn cael eu cynnal
ar dir y Cyngor, neu ddigwyddiadau sy’n gofyn am drwydded adloniant neu
alcohol, sydd angen caniatâd y Cyngor.
Felly mae yn broblemus. Mae yna
nifer o ddigwyddiadau sy’n defnyddio tir y Cyngor ac mi fyddwn i’n barod iawn i
gael sgwrs gyda’r cynghorydd i drafod y math yma o beth. Rydw i’n ymwybodol o’r pwysau mae hyn yn rhoi
ar gymuned Llanberis ac rwyf wedi gofyn i’r swyddogion o’r Adran Economi a
Chymuned gydweithio gyda swyddogion perthnasol ar draws gwasanaethau’r Cyngor a
phartneriaid allweddol, megis Parc Cenedlaethol Eryri, i gefnogi’r cynghorydd
a’r gymuned i weld sut y gallwn gael gwell rheolaeth ar y digwyddiadau yn
Llanberis i’r dyfodol.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Kevin Morris Jones
“Ydi Cyngor Gwynedd yn fodlon agor Glyn Rhonwy i bob digwyddiad yn y
dyfodol, wrth gofio mai ond 1,174 o lefydd parcio sydd yna yn Llanberis?
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Economi a Chymuned, y Cynghorydd Gareth Thomas
“Mae yna weithgor yn edrych ar Glyn Rhonwy ac mae’r aelod yn aelod o’r
gweithgor hwnnw, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei drafod o fewn y gweithgor
hwnnw. Fel roeddwn yn adrodd yn
gynharach, rwyf wedi gofyn i swyddogion yr Adran eistedd gyda’r cynghorydd, y
gymuned, swyddogion y Parc a swyddogion eraill ar draws y Cyngor i weld sut y
gallwn gael gwell rheolaeth ar y sefyllfa.
Rwy’n ymwybodol ei fod yn creu problemau ac rwy’n awyddus i geisio datrys
y problemau hynny, felly byddwn yn gweithio tuag at hynny yn y dyfodol.”
(3)
Cwestiwn gan y Cynghorydd Louise Hughes
"Yn ystod
cyfarfod diwethaf Cyngor Cymuned Fairbourne, crybwyllwyd pwnc sy'n codi'n aml,
sef gwersyllu dros nos ar y Pwynt. Gwnaethant gais i mi ofyn am arweiniad gan
Gyngor Gwynedd ynglŷn â’r ffordd orau o ymdrin â'r mater. Rwy'n sicr fod hwn yn bwnc y mae'r mwyafrif
ohonom yn y siambr wedi dod benben ag o yn ein wardiau ryw bryd neu'i gilydd.
Y broblem yw nad am
un noson yn unig y mae pobl yn aros. Mae
pobl yn gynyddol gyrraedd yn eu faniau gwersyllu ac yn aros am wythnos neu
fwy. A all yr Aelod Cabinet roi unrhyw
gyngor ar sut i ymdrin â'r cyfyng gyngor hwn?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith
“Pedwar opsiwn sy’n cael eu rhoi ymlaen gan yr Adran. Gorchymyn llys ydi un ohonynt, ond bosib’ nad
ydi hynny’n ymarferol, gan nad yw’n rhywbeth y gellir gweithredu arno’n
sydyn. Y lleill ydi gorchymyn parcio,
rhwystrau ffisegol, a hefyd arwyddo. Ond
credaf mai’r pwynt gydag arwyddion yw nad oes ganddynt rym, a’r hyn fyddwn i’n
awgrymu ar hyn o bryd, oherwydd nid yw hyn yn unigryw i Fairbourne, gan ei fod
yn digwydd yn Y Felinheli a llefydd eraill hefyd, yw ein bod yn dod at ein
gilydd ac yn mynd i wraidd hyn. Mae yna
ddadl, o blaid ac yn erbyn.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Louise Hughes
“Oes modd i ni orfodi unrhyw orchmynion parcio?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Gareth Griffith
“Dyna lle mae’n bwysig cael y drafodaeth. Mae’n dod yn fwy problemus ac mae yna fwy o
bobl gyda faniau gwersyllu yn lle ceir, ac maent yn dod i Wynedd, a chredaf ei
bod yn bwysig cael y cydbwysedd o ran yr hyn y gallwn ei wneud. Rydym ni’n croesawu pobl ond mae yna ffordd
iawn o ddelio â hyn. Ond fel rwy’n
dweud, mae’n bwysig i ni i gyd. Rydym ni
i gyd yn cael ein heffeithio gan hyn ac mae’n bwysig i ni eistedd i lawr gyda’n
gilydd a symud ymlaen gyda hyn. Mi wnes
i sôn wrth rywun fore heddiw am ystyried mynd â’r mater i’w graffu. Nid wy’n siŵr os ydi o wedi bod i’w
graffu, ond heb ei symud yn ei flaen, ond bosib’ bod yna ddarn o waith fel yna
i’w wneud fel bod ni’n cael cynghorwyr yn rhannu eu problemau o’u hardaloedd
hwy. Rwy’n derbyn y pwynt yn llwyr, ond
credaf fod angen mwy o drafodaeth.”
(4)
Cwestiwn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones
“Rydym yn byw
mewn cyfnod ble mae cynhesu byd eang yn fater argyfyngus, a dirfawr angen arnom
leihau ein defnydd o allyriadau carbon.
Mae Gwynedd
hefyd yn ardal ddaearyddol eang a gwledig, ac mae teithio o fan i fan i fynychu
cyfarfodydd yn ddrud, yn ychwanegu at allyriadau carbon, yn wastraff amser ac
adnoddau.
Sylweddolwn yn
ogystal ei bod hi’n gallu bod yn anodd cyfuno gwaith, cyfrifoldebau teulu a
mynychu cyfarfodydd. Rydym yn awyddus i ddenu aelodau newydd o gefndiroedd mwy
amrywiol nag sydd gennym ar hyn o bryd, er mwyn hyrwyddo cynrychiolaeth
gynhwysol ac ehangu gwir ddemocratiaeth.
Mae technoleg yn chwarae
rhan gynyddol bwysig yn ein bywydau yn yr 21ain ganrif. Er enghraifft, gall fideo gynadledda hwyluso
cyfranogiad pobl mewn cyfarfodydd ar draws y Sir, ac yn wir, Cymru gyfan.
Mae modd i
ferched neu ddynion sy’n gofalu am blant ymuno mewn cyfarfodydd yn yr hwyr o
bell.
Onid yw hi’n
ddyletswydd arnom felly i greu strwythurau i hwyluso cymryd rhan mewn
cyfarfodydd gan ddefnyddio technoleg, a lleihau’r pwysau ar yr amgylchedd,
lleihau’r defnydd o geir, lleihau’r angen i deithio i gyfarfodydd a chynyddu’r
potensial am gyfranogiad ystyrlon gan ein haelodau, yn ogystal â chynyddu
cyfleoedd i fod yn fwy cynhwysol? Pa
ddefnydd mae’r Cyngor yn wneud o dechnoleg ym maes democratiaeth a sut fedrwn
ni ehangu hyn?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys
“Diolch yn fawr
iawn i’r Cynghorydd Elin Walker Jones am ei sylwadau.
Rwy’n cytuno yn
llwyr gyda hi fod buddion amgylcheddol o ddefnyddio technoleg fodern ac o fod
yn fwy cynhwysol, cynyddu’r potensial am gyfranogiad a denu mwy o unigolion o wahanol
gefndiroedd i Lywodraeth Leol, ac i arbed arian hefyd.
Nodaf fod y Cyngor
wedi cynyddu ei ddefnydd o dechnoleg, ond mae cyfle i ehangu hynny a byddaf yn
parhau i bwysleisio hyn yn ein cyfarfodydd herio perfformiad ac yn fy
nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r Pennaeth Adran.
✓ Mae’r mwyafrif ohonom yma heddiw yn darllen
ein dogfennau pwyllgor yn electroneg, rhywbeth yr ydym yn arfer ei wneud
bellach heb feddwl llawer amdano.
✓ Rydym yn tueddu i fod yn cyfathrebu gydag
etholwyr trwy gyfrwng electroneg (e-bost, cyfryngau cymdeithasol, ac yn y
blaen).
✓ Mae darpariaeth “Skype” ar gael i bob aelod
fod yn cysylltu yn electroneg gyda’i gilydd a hefyd cofiwch fod modd i gael
sesiwn hyfforddiant byr ar ddefnyddio Skype os ydych eisiau dysgu mwy.
✓ Mae’r Cyngor hefyd yn defnyddio
cyfleusterau fideo gynhadledd ar gyfer cyfarfodydd llai. Hoffwn hefyd weld hyn yn cael ei ehangu dros
y misoedd nesaf a byddaf yn trafod hyn gyda’r Pennaeth Adran.
Ond mae lle i
wella ac mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn edrych ar ddatblygiadau yn
y maes.
Rwy’n deall fod
rhaid rhoi ystyriaeth deg i faterion megis cyfieithu ar y pryd, pa mor hawdd
yw’r dechnoleg i’w defnyddio, cadeirio cyfarfodydd aml-leoliad gan sicrhau
tegwch i bawb a phrotocol ynghylch beth sy’n digwydd pan fo unrhyw ddiffyg yn y
dechnoleg - ond yn fy marn i, tydi’r ystyriaethau yma ddim yn rhwystr i’r
Cyngor a Chynghorwyr fanteisio yn llawn ar y dechnoleg sydd ar gael yng
Nghyngor Gwynedd, ac sydd yn gyffredin erbyn hyn mewn llawer i le gwaith.
Mae cyfleoedd i ni
drio gwahanol ddulliau, efallai na fydd popeth yn llwyddiannus bob tro, ond mae
yna gyfleoedd i ni drio pethau yn y dyfodol.
Ar y llaw arall
hefyd, mae gennym, un ac oll, gyfrifoldeb i ystyried yr amgylchedd wrth i ni
drefnu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd, ac rwy’n annog ni i gyd i feddwl cyn
teithio. Yn y cyfamser byddaf yn dal i
bwyso ar y gwasanaeth i symud ymlaen gyda threfniadau i’w gwneud mor hawdd â
phosib i Gynghorwyr fanteisio ar dechnoleg fodern yn eu gwaith.
Gobeithiaf weld
cynnydd gwirioneddol mewn defnydd technoleg yn y Cyngor dros y flwyddyn nesaf
ac edrychaf ymlaen at ddiweddaru’r Cynghorydd Walker Jones ar y datblygiadau.”
Cwestiwn Atodol gan y
Cynghorydd Elin Walker Jones
“Oes amserlen benodol ar gyfer hyn?”
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Nia Jeffreys
“Na, nid oes yna amserlen benodol, ond mae hynny’n syniad gwych, felly
mi wnâi gymryd hynny ymlaen.”
(5)
Cwestiwn gan y Cynghorydd Nia Jeffreys
“Gwyddom fod bwriad i’r Eisteddfod
Genedlaethol ymweld â Gwynedd yn 2021 ac felly pa fewnbwn mae’r Cyngor wedi ei
gael hyd yma yn y broses o adnabod lleoliad addas i’w chynnal?”
Ateb gan yr Arweinydd, y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn,
“Derbyniodd y
Cyngor gais y llynedd gan yr Eisteddfod i roi help llaw iddynt i adnabod
safleoedd, ac mae ein hadran Eiddo wedi bod yn brysur yn teithio’r sir i weld
pa safleoedd sy’n addas i gartrefu’r Eisteddfod. Coeliwch chi fi, mae’r rheoliadau o ran
canfod safleoedd addas i’r Eisteddfod yn y ganrif hon yn rhai sylweddol iawn,
lle mae yna bob math o ofynion ar yr Eisteddfod. Fel y gwelwch, ni chafwyd cais gan yr
Eisteddfod i edrych am lefydd ym Meirionnydd.
Wn i ddim os yw hynny i’w wneud â’r ffaith bod yr eisteddfod wedi bod tu
hwnt o lwyddiannus ym Meirionnydd sawl gwaith, ac rydym ni’n falch iawn o hynny
- fe gofiwch y bu yn Y Bala, wrth gwrs, yn 2009. Un o’r ffactorau a ystyriwyd, fel y gwelwch
yn yr ateb ysgrifenedig, oedd arwynebedd y tir sydd i’w gael. Credaf ein bod yn sôn am tua 150 o aceri o
dir gwastad. Mae materion trafnidiaeth
yn ystyriaeth, argaeledd trydan a dŵr a risg llifogydd, ac o’r 30 o
safleoedd a ystyriwyd, tynnwyd rhestr fer o 4 safle am drafodaeth bellach. Mae astudiaethau technegol manwl wedi eu
comisiynu ac mae trafodaethau ar y gweill gyda pherchnogion y safleoedd
hynny. I gadarnhau felly, rôl gefnogol
yn unig sydd gan y Cyngor yn y broses yma a bydd y penderfyniad terfynol yn
nwylo’r Eisteddfod ei hun. Yn dilyn
ystyriaeth o’r holl wybodaeth berthnasol gan eu Pwyllgor Technegol, Bwrdd a
Chyngor yr Eisteddfod, deallaf y bydd cyhoeddiad ar ddydd Gwener yr eisteddfod
ynglŷn â lleoliad yr Eisteddfod yng Ngwynedd, ac rydym yn edrych ymlaen yn
arw ac yn croesawu’r Eisteddfod i ble bynnag y bydd yn dod.”