skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Tai  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Tai adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Dai 2019-2024, gan gadarnhau’r cyfeiriad a’r blaenoriaethau yn y maes tai.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nid yw’r adroddiad yn nodi pa gyfran o’r dreth ychwanegol a gasglwyd drwy’r premiwm ar ail gartrefi a chartrefi hir dymor gwag sy’n cael ei ail-fuddsoddi er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y maes tai.

·         Mae amharodrwydd yr Adran Gynllunio i ganiatáu i bobl ifanc adeiladu tai yn eu pentrefi eu hunain yn llesteirio gweledigaeth y Cyngor o gefnogi holl bobl Gwynedd i ffynnu ac i fyw bywyd cyflawn yn eu cymunedau.

·         Da o beth fyddai i’r Cyngor gychwyn adeiladu tai cymdeithasol unwaith eto.

·         Croesawir y ffaith bod yr Aelod Cabinet wedi cymryd sylw o’r materion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal ac wedi’u hymgorffori yn y Strategaeth.

·         Mae’r cyfeiriad yn y Strategaeth at gynllun adeiladu yn gydnabyddiaeth o’r penderfyniad gwarthus a wnaed i drosglwyddo 3,500 o dai cyngor i gwmni preifat am ddim.

·         Gofynnir i’r Aelod Cabinet ail-ystyried yr agweddau a ganlyn sydd ar goll o’r Strategaeth, a’u cwmpasu yn y ddogfen:-

Ø  Er bod cydnabyddiaeth bod disgwyl y bydd cynnydd o 60% yn y nifer o bobl dros 80 yn byw yng Ngwynedd mewn 20 mlynedd, nid oes sôn am y bobl sy’n dod yma i fyw o bob cwr o’r Deyrnas Gyfunol a thu hwnt.

Ø  Nid oes sôn bod yr iaith Gymraeg yn gymhwyster ar gyfer tŷ mewn rhai ardaloedd.

Ø  Nid oes son am gynnig morgeisi i bobl leol brynu tai, er bod hynny o fewn hawliau’r Cyngor, ac y byddai’n ddoeth buddsoddi yng nghymunedau’r sir, yn hytrach na buddsoddi mewn cwmnïau arfau.

·         Gan fod y grantiau sydd ar gael i bobl uwchraddio systemau gwresogi mewn tai hŷn yn destun prawf modd, nid yw pobl mewn gwaith yn cymhwyso, a dylid dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw’r bobl hyn, sydd fymryn uwchlaw’r trothwy, yn cael eu hanwybyddu.

·         Bod pawb o’r aelodau yn gweld pobl eu wardiau yn brwydro i gael tai ac yn byw mewn tai anaddas, a bod y Strategaeth yn chwa o awyr iach drwy’r Cyngor sy’n dangos y pethau positif y gellir eu gwneud i wella sefyllfa trigolion Gwynedd.

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod, nodwyd:-

 

·         Yn unol â’r Strategaeth Ariannol a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Mawrth, bod 100% o’r cynnyrch treth ar ail gartrefi / cartrefi hir dymor gwag (sef tua £2.7m net ar ôl y gost o’i gasglu) yn mynd at brosiectau tai.

·         Bod angen newid yr hen ffordd o feddwl ac o weithredu a dod o hyd i ddatrysiadau i’r materion cynllunio er mwyn hwyluso cartrefu pobl ifanc.

·         Y trosglwyddwyd y stoc tai i gwmni preifat yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar y pryd.

·         Er bod y polisi gosod newydd yn galluogi i’r Cyngor roi mwy o bwys ar gyswllt lleol, ei bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail iaith yng Nghymru ar hyn o bryd.

·         O ran y sylwadau ynglŷn â mewnlifiad a morgeisi, byddai’r Adran Tai ac Eiddo newydd yn rhoi ail-ystyriaeth i bopeth dros y flwyddyn nesaf.

·         Bod y Gweinidog Tai wedi sôn am y posibilrwydd o gyflwyno rhaglen uchelgeisiol dros 30 mlynedd i ddi-garboneiddio tai preswyl presennol, a phetai hynny’n digwydd, byddai hefyd yn datrys y broblem o wresogi tai hŷn.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Strategaeth Dai i’w mabwysiadu.

 

Dogfennau ategol: