Ystyried adroddiad
y Swyddog Monitro (i ddilyn).
Cofnod:
Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn
gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais gan y Cynghorydd W.Gareth
Roberts, Aelod Ward Aberdaron ar Gyngor Gwynedd am oddefeb yn ymwneud â chynllun creu trydan arfaethedig ger Ynys
Enlli, oedd yn ei ward, a lle’r oedd hefyd yn ffermio fel tenant.
Eglurodd yr Uwch
Gyfreithiwr – Corfforaethol:-
·
Petai’r cynllun yn cael ei wireddu, y byddai’r
cynghorydd yn elwa yn yr ystyr y byddai yna gyflenwad trydan ar gael iddo ar
Ynys Enlli. Roedd hynny’n creu buddiant
oherwydd y byddai penderfyniad y naill ffordd neu’r llall ar y cynllun yn
effeithio ar ei les yn bersonol. Roedd y
buddiant hefyd yn un oedd yn rhagfarnu.
·
Bod y cynghorydd yn dymuno cymryd rhan yn y
trafodaethau lleol oherwydd ei wybodaeth fel aelod lleol, ond hefyd fel rhywun
oedd â gwybodaeth a phrofiad unigryw o Ynys Enlli. Roedd hefyd yn dymuno cael yr hawl i siarad
fel aelod lleol, ond nid i bleidleisio, pan ddeuai’r cynllun gerbron y Cyngor
hwn.
Ar y pwynt hwn,
datganodd y Cynghorydd Dewi Roberts fuddiant personol yn y mater gan ei fod yn
aelod o Ymddiriedolaeth Enlli ac wedi bod yn Is-gadeirydd Cyngor Enlli. Roedd o’r farn bod hwn yn fuddiant oedd yn
rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.
Gofynnwyd i’r
pwyllgor gydbwyso budd y cyhoedd mewn atal y cynghorydd rhag cymryd rhan yn y
trafodaethau oherwydd y buddiant, yn erbyn budd y cyhoedd mewn caniatáu iddo
gymryd rhan oherwydd ei wybodaeth a’i brofiad unigryw o Ynys Enlli. Gofynnwyd hefyd i’r pwyllgor ystyried
ymarferoldeb gofyn i aelod arall gamu i mewn i rôl yr aelod lleol yn y
cyd-destun hwn.
Yn ystod y drafodaeth
ar y cais, nodwyd y sylwadau a ganlyn:-
·
Na fyddai’r cynghorydd yn elwa’n ariannol o’r cynllun.
·
Gan fod y cynghorydd eisoes yn defnyddio trydan ar yr ynys,
na fyddai’r cynllun yn golygu dim mwy iddo na newid y cyflenwad craidd.
·
Bod geiriad ffurflen gais y cynghorydd am oddefiad yn
awgrymu bod ganddo farn bendant o blaid dyfodiad cyflenwad trydan i’r
ynys. Serch hynny, roedd yn bosib’ bod
rhesymau gan eraill dros wrthwynebu’r datblygiad a byddai angen i’r farn honno
gael ei chlywed mewn unrhyw drafodaeth hefyd.
·
Bod mantais y cynllun i’r cynghorydd fel tenant yn
amlwg, gan y byddai cael cyflenwad trydan ar yr ynys yn hwyluso pethau iddo.
·
Bod modd i’r cynghorydd siarad ar y mater fel
tirfeddiannwr preifat ac y gallai ofyn i aelod cyfagos ei gynrychioli yn ei rôl
fel aelod lleol.
PENDERFYNWYD gwrthod cais y Cynghorydd W.Gareth
Roberts am oddefiad i gymryd rhan fel aelod o Gyngor Gwynedd yn y trafodaethau
lleol ac i siarad pan ddaw’r cynllun creu trydan arfaethedig ger Ynys Enlli
gerbron y Cyngor hwn ar y sail:-
(a)
Bod y pwyllgor o’r farn bod y
cyswllt rhwng y Cynghorydd a’r cynllun a’i denantiaeth ar Ynys Enlli yn golygu
y byddai’n anodd, o ystyried hefyd gynnwys ei ffurflen gais am oddefeb, iddo
gynrychioli’r budd cyhoeddus cyffredinol gan iddo ddod i gasgliad eisoes ar y
mater yma, a bod ei gyswllt yn rhy agos ac yn rhy sylweddol ar y mater.
(b)
Y byddai ganddo lais ar y mater beth
bynnag yn ei rôl fel tirfeddiannwr preifat.
(c)
O safbwynt siarad ar y mater yn
gyffredinol, ni ystyrir bod hwn yn fater sy’n golygu na all aelod arall gamu i
mewn i rôl aelod lleol yn y cyd-destun hwn.
Dogfennau ategol: