Agenda item

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y digwyddiadau treisgar yn rhan o’i orffennol a’i fod bellach yn rhedeg cwmni tacsi. Ategodd nad oedd y collfarnau wedi eu trafod yn ystod ei gais blaenorol am drwydded a bod disgwyl am wrandawiad a phenderfyniad wedi golygu ei fod wedi colli gwaith. Nododd nad oedd cwynion wedi dod i law am ei wasanaeth

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

   ch)    Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn ym Mehefin 2004 gan Lys Ynadon Caernarfon am drosedd o  ymosodiad cyffredinol yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988. Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £50 ac iawndal o £100. Derbyniodd gollfarn ym Mawrth 2006 gan  Lys Ynadon Sir Ddinbych am drosedd o guro yn groes i adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. Derbyniodd hefyd gollfarn am ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol/sarhaus oedd yn debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986.  Cafodd orchymyn cymunedol a gorchymyn goruchwylio am 12 mis yn dilyn y digwyddiad ynghyd a gorchymyn i dalu iawndal o £75, costau o £350. Ym Mehefin 2018 derbyniodd 6 pwynt cosb ar ei drwydded gyrru am dorri gofynion rheoli cerbyd, ffôn symudol ayyb.

 

    d)     Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt          wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae adran 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais ac fe nodir ym mharagraff 6.5 o’r Polisi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Mae'r paragraff yn rhestru troseddau ac mae ymosodiad cyffredin yn cael ei gynnwys yn y rhestr. Mae paragraff 6.6 yn nodi y bydd cais yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd o fewn y 10 mlynedd diwethaf.

 

Mae paragraff 13.3 yn nodi y gallai mwy nag un gollfarn am fân drosedd traffig neu fater arall i’w ystyried arwain at wrthod cais, yn enwedig os oes sawl collfarn neu faterion eraill i’w hystyried ar gyfer yr un drosedd. Gellir cyfeirio gyrrwr trwyddedig at sylw Is-bwyllgor trwyddedu os oes mwy na dwy drosedd neu gyfanswm o 6 phwynt ar drwydded.

 

Mae paragraff 16.1 o bolisi'r Cyngor yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau          bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o     ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi rhaid bod             10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.

 

dd)         Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

·         bod troseddau 2004 a 2006 yn droseddau o drais. Gan fod y troseddau hyn wedi digwydd mwy na 10 mlynedd yn nol, nid oedd sail i wrthod y cais o dan baragraffau 6.6 a 16.1 o’r Polisi.

·         bod yr arnodiad gyrru, er yn fater o bryder, ddim yn cyrraedd trothwy gwrthod y cais

 

Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.