Agenda item

TY COFFI, 23a STRYD FAWR, Y BALA, LL23 7LU

 

I ystyried y cais

Cofnod:

1.            CAIS AM DRWYDDED EIDDO -  Coffi, 23a Stryd Fawr, Y Bala, Gwynedd

 

Ar ran yr eiddo:                     Mrs Linda Williams (Ymgeisydd) a Mrs Rachel Williams (Cynrychiolydd yr ymgeisydd a Rheolwr Plas yn Dre, Y Bala)

                                                Mared Llwyd (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod Y Cyhoedd)

                                               

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Coffi, 23a Stryd Fawr, Y Bala. Gwaned y cais mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth byw, cerddoriaeth wedi ei recordio a pherfformiadau o ddawns dan do ac awyr agored; cyflenwi alcohol ar yr eiddo yn unig. Y bwriad yw rhedeg yr eiddo fel siop goffi a chaffi teuluol.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod un llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn gan Uned Gwarchod y Cyhoedd   oherwydd pryderon rheolaeth sŵn a niwsans cyhoeddus. Amlygwyd bod cynnig o gyfaddawd wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd sydd wedi cytuno i beidio cynnal adloniant tu allan i’r eiddo o gwbl ac i gyfyngu’r drwydded i adloniant acwstig yn unig tu mewn i’r eiddo. Cadarnhaodd y swyddog bod hyn yn dderbyniol.

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Ei bod yn fodlon peidio cynnal cerddoriaeth tu allan a gwneud cais am drwydded dros dro petai'r angen yn codi

·         Byddai cerddoriaeth acwstig yn unig yn cael ei chwarae tu mewn ac felly yn lleihau aflonyddwch

·         Bod Coffi a Phlas yn Dre yn rhan o’r un cwmni

·         Bod nifer o breswylwyr yn byw yn agos ac uwchben i’r eiddo sydd yn denantiaid i’r cwmni ac felly dim eisiau amharu arnynt drwy greu sŵn

·         Bod gwesteion yn aros ym Mhlas yn Dre (sydd drws nesaf i’r eiddo) ac felly dim eisiau i unrhyw swm amharu arnynt hwythau chwaith

·         Ei bod yn cytuno i amod cadw drysau a ffenestri ar gau pan fydd cerddoriaeth / adloniant yn chwarae

·         Cytuno derbyn nwyddau a chlirio poteli / sbwriel ar adegau priodol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â niferoedd preswylwyr oedd yn byw uwchben yr eiddo cadarnhawyd bod 6 fflat uwchben yr eiddo gyda 8 person yn byw ynddynt.

 

c)            Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i chynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

ch)       Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog          Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar cynrychiolydd yr ymgeisydd yn y gwrandawiad.       Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl         ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

i.     Atal trosedd ac anhrefn

ii.   Atal niwsans cyhoeddus

iii.  Sicrhau diogelwch cyhoeddus

iv.  Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais 

 

Cadarnhawyd yr oriau agor ac fe ymgorfforir y materion a restrir yn yr Atodlen Weithredol fel amodau ar y drwydded. Cadarnhawyd hefyd bod miwsig byw yn cael ei gyfyngu i fiwsig acwstig yn unig ac y byddai’r drysau a’r ffenestri yn cael eu cau yn ystod unrhyw adloniant. Cadarnhawyd hefyd mai ystyr y cyfeiriadau at ‘amseroedd priodolyn y cais ym mharagraff M (d) Atal Niwsans Cyhoeddus oedd na fyddai’r gweithgareddau’n digwydd rhwng 22:00 awr a 08:00 awr.  Cadarnhaodd y swyddog ar ran Uned Gwarchod y Cyhoedd bod hyn yn dderbyniol.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd gan Uned Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd yn sgil pryderon niwsans cyhoeddus. Ystyriwyd bod yr eiddo wedi ei leoli mewn ardal boblog iawn gydag eiddo preswyl uwchben, a phryder o ran diffyg rheolaeth sŵn.

Nid oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno y byddai’r drwydded yn tanseilio’r amcan o atal niwsans cyhoeddus ac o dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw

 

Dogfennau ategol: